Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi mabwysiadu agwedd feiddgar wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Yn yr astudiaeth achos hon, mae arweinwyr a staff yn siarad am ddull yr Ysgol o ddatblygu’r cwricwlwm, gan ddefnyddio hyrwyddwyr cwricwlwm a model rheoli newid.
Yn yr adran gyntaf mae crynodeb yr arweinwyr. Yn yr ail adran isod gallwch ddarllen safbwyntiau amrywiaeth o staff a disgyblion, sy’n siarad yn blwmp ac yn blaen am y dull gweithredu, rhai pryderon, ffyrdd o symud pethau ymlaen, a’u gobaith ar gyfer y dyfodol.

Safbwynt yr arweinwyr
Martin Franklin – Pennaeth
Mae Treforys yn gwasanaethu rhan ogledd-ddwyreiniol Abertawe ac mae’n ysgol wirioneddol gyfun. Mae gennym blant sy’n dod o ardaloedd eithaf difreintiedig, ac mae plant o bob math o allu yma hefyd.

Ar ddiwedd 2020 roeddem yn llwyr werthfawrogi nad oeddem wedi gwneud digon o gynnydd yn ein taith ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Penderfynwyd bryd hynny i benodi hyrwyddwyr Cwricwlwm i Gymru a fyddai’n helpu i roi ein dull gweithredu ar lwybr carlam.
Rydym wedi rhoi cyfnodau defnyddiol iawn iddynt weithio gydag arweinwyr adran, nid yn unig am ychydig o oriau, ond drwy dynnu staff oddi ar yr amserlen am ddiwrnod ar adegau i weithio ar themâu’r Cwricwlwm i Gymru gyda thri aelod o staff hefyd. Ac mae hynny’n sicr wedi cyflymu ein dull.
Rydym wedi cadw ein strwythur adrannol, felly mae gennym benaethiaid hanes, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, technoleg, ac ati o hyd, ond maent yn gweithio o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad gyda’i gilydd ac rydym wedi canfod bod hwn yn ddull llawer mwy effeithiol i ni oherwydd yn fy meddwl i mae gen i dri o bobl yn y Dyniaethau erbyn hyn, er enghraifft, yn cydweithio ar y Cwricwlwm i Gymru.
Dr Sam Williams – Pennaeth Cynorthwyol
Yn bersonol, rwy’n gweld bod her y Cwricwlwm i Gymru yn enfawr. Mae nifer fawr o bolisïau y mae angen i ymarferwyr ac arweinwyr roi sylw dyledus iddynt, ac yna mae’n rhaid trosi hynny’n ymarferol. Sut olwg fydd ar y weithred mewn gwirionedd erbyn ichi syntheseiddio a deall nodau a dyheadau canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru – ac rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno â hynny. Sut ydym ni wir yn mynd i roi’r syniad hwnnw ar waith?

Felly penderfynais ar y syniad o fodel Rheoli Newid Kotter, sef wyth cam gwahanol o sicrhau newid. Gan ddechrau gyda chreu ymdeimlad o frys, ffurfio’r math o dîm a fydd yn gyrru’r newid, creu’r weledigaeth honno, cyfleu’r weledigaeth, ac yna symud ymlaen i rymuso’r gweithredu.