Neidio i'r prif gynnwy

Y Newyddion diweddaraf ar Hunanwerthuso Ysgolion, Atebolrwydd a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae hon wedi bod yn flwyddyn ysgol galed, ond hefyd yn flwyddyn o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru wrth i’r Cwricwlwm a’r newidiadau ategol fagu sail gyfreithiol a’r adnoddau yn rhoi mwy o gig ar yr asgwrn. Mae hynny’n parhau yr wythnos hon, felly dyma grynodeb byr o’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi, a beth y mae’n ei olygu i chi.

Y Fframwaith newydd ar gyfer Gwella Ysgolion a Chanllawiau

Mae’r Fframwaith hwn yn gwahanu hunanasesu a gwella oddi wrth atebolrwydd.

Mae’n cyflwyno system hunanwerthuso gadarn lle gall ysgolion nodi cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Cefnogir yr hunanwerthusiad hwnnw gan yr ‘Adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ a phartneriaid gwella. Mae’r dull newydd yn annog adolygu gan gymheiriaid, ac mae dilyniant a lles dysgwyr yn ganolog iddo.

Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodebau o’u canfyddiadau hunanwerthuso a’u cynlluniau gwella ar eu gwefannau ar gyfer rhieni a gofalwyr. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel y cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn cadarnhau’r cymorth y byddant yn ei roi i Lywodraethwyr.

Dylai ysgolion eisoes fod yn cynnal proses hunanwerthuso fel rhan o’u prosesau rheolaidd i wella’r ysgol.

Atebolrwydd ac arolygiadau

Mae Categoreiddio Cenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion ac arolygiadau mwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd sy’n cefnogi’r Cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. 

Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i’w ddull arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu a fydd yn arwain at ddileu graddau crynodol. ac ychwanegu trosolwg allweddol o’r canfyddiadau sy’n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i’w datblygu.

Trefniadau Asesu – canllawiau diweddaraf sy’n adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth

Yn unol â’r cwricwlwm newydd, mae’r ddeddfwriaeth a ddaw i rym ym mis Medi 2022 yn nodi sut y mae’n rhaid cynllunio trefniadau i asesu cynnydd ochr yn ochr â’r cwricwlwm, gyda gofynion ar ysgolion sy’n cynnwys: asesiad parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol i asesu cynnydd; nodi’r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesu’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i helpu i sicrhau’r cynnydd hwnnw ar gyfer pob dysgwr.

Mae gofynion sy’n ymwneud ag asesu ar y dechrau, datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a rhannu gwybodaeth â rhieni, i gyd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth newydd.

Mae’r Canllawiau Asesu sy’n Cefnogi Cynnydd Dysgwyr a’r Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth ar Hwb wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol.

Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr

Mae deunyddiau ategol newydd wedi’u cyhoeddi i gefnogi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau newydd ar wella ysgolion, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd a hunanasesu.

Prosiect newydd i ddod â chymorth hirdymor ar gyfer Asesu a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, bydd angen dealltwriaeth ddofn o gynnydd ac asesu ar bob ymarferydd.

Bydd prosiect tair blynedd newydd, Camau i’r Dyfodol, nawr yn helpu ymarferwyr i feithrin y ddealltwriaeth ystyrlon honno, gan ei helpu i ddatblygu wrth i’r cwricwlwm datblygu. Lansiwyd y prosiect gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y mis hwn, ac mae’n cyflawni ymrwymiad i sicrhau bod cefnogaeth genedlaethol barhaus ar gael er mwyn datblygu cynnydd ac asesu.

Jeremy Miles AS

Bydd y prosiect Camau i’r Dyfodol – Steps to the Future, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn tynnu ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel un ystyrlon, realistig a chynaliadwy ar gyfer pob dysgwr.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn creu lle i ymarferwyr a phartneriaid  fyfyrio ar gynnydd ac asesu yng nghyd-destun eu harfer eu hunain, gan rannu eu profiadau a’r dulliau gweithredu, ac mae hyn yn rhan allweddol o waith y prosiect. Dechreuodd y gyfres gyntaf o sgyrsiau fis diwethaf, a bydd y rhain yn parhau yn y flwyddyn academaidd newydd.

Bydd y prosiect yn:

  • Tynnu ynghyd yr holl bartneriaid addysgol, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, er mwyn iddynt rannau eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth iddynt ennill dealltwriaeth o gynnydd.
Read more

Profi dulliau newydd o asesu a chynnydd – Ysgol Bontnewydd

Gweler neges debyg yn Saesneg

Bydd Asesu a Chynnydd yn edrych yn wahanol iawn dan y cwricwlwm newydd. Wrth wneud i ffwrdd â chyfnodau allweddol a phrofi yn eu herbyn, bydd y byd newydd yn gweld amrywiaeth o ddulliau asesu’n cael eu defnyddio.

Mae’n fater o newid diwylliant i lawer o ysgolion, taith o arbrofi a datblygu.

Mae Ysgol Bontnewydd wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser, ac mae newid mewn sawl ffordd wedi cael ei groesawu!

Dysgwch am eu taith hyd yn hyn yn ein hastudiaeth achos fer:

Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn cael ei hychwanegu at faes adnoddau newydd ar Hwb ddiwedd mis Mehefin, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.

Wedi’i lansio ac ar gael i chi: Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Gweler neges debyg yn Saesneg

Ar 11 Mai, lansiwyd adnodd i helpu ysgolion i hunanwerthuso a gwella. Byddai at ddefnydd pawb, ac roedd pawb wrth eu bodd.

Cyfrannodd sawl ysgol i’r gwaith o’i lansio ynghyd â chonsortiwm gwella ysgolion rhanbarthol GwE, partneriaeth gwella ysgolion y Gorllewin, ac Estyn.

Caiff digwyddiadau briffio rhanbarthol eu cynnal, ac mae hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer Partneriaid Gwella Ysgolion rhanbarthol hefyd i’w helpu i ddefnyddio’r Adnodd.

Ceir enghreifftiau isod o fideos cymorth a ddefnyddiwyd i lansio’r adnodd. Gallwch wylio’r digwyddiad lansio 40 munud yn llawn yma.

Mae Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn yn annog ysgolion i ddefnyddio’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella ac yn disgrifio sut roedd Estyn yn cefnogi ei ddatblygiad:

Read more

Rôl hanfodol Llywodraethwyr yn cefnogi datblygiad y cwricwlwm

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae gan Lywodraethwyr Ysgolion rôl hanfodol yn cefnogi eu hysgol i ddatblygu cwricwlwm newydd.

Gan graffu, cyfrannu ac annog, maent yn cynnig safbwynt allanol wedi’i saernïo ar ddealltwriaeth o sut y mae eu hysgol yn gweithredu.

Yn y ffilm hon, mae’r rhiant-lywodraethwr Meilys yn rhoi ei safbwynt hi ar ddatblygu cwricwlwm yn Ysgol Bontnewydd, gyda chyfraniadau gan y Pennaeth a’r disgyblion.

Ysgol Bontnewydd – Creu ein Cwricwlwm

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae’r ffilmiau hyn yn rhannu safbwyntiau gonest ar ddull Ysgol Bontnewydd o ddatblygu cwricwlwm. Maent yn dangos taith sy’n adlewyrchu cyd-destun lleol ond hefyd yn edrych allan i’r byd ehangach.

Yn y ddwy ffilm hon, gwelwn y tîm rheoli yn disgrifio’u dull gweithredu cyffredinol, ac yna ceir cyfuniad o arweinwyr, llywodraethwr a disgyblion yn disgrifio sut y mae’r dull gweithredu yn datblygu ac eisoes yn cael effaith.

Prifathro Mr Llyr Rees

Dull Bontnewydd o ddatblygu cwricwlwm:

Arweinwyr, llywodraethwr a disgyblion yn trafod dull gweithredu Bontnewydd:

Mae Ysgol Bontnewydd ar ei siwrnai yn barod. Ond un dull gweithredu yw hwn sy’n gweithio yn eu dalgylch, eu clwstwr a’u hysgol nhw. Bydd dulliau gweithredu eraill yn dibynnu ar leoliad a chyd-destun yr ysgolion hynny.

Cyhoeddi’r dyddiad lansio! Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Bydd yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella yn cael ei lansio’n ffurfiol ar 11 Mai gyda rhith gyflwyniad cenedlaethol a sesiynau ar lefel rhanbarthol i ddilyn. 

Fel y soniwyd yn y blog hwn o’r blaen, mae’r Adnodd wedi’i ddylunio i fod o gymorth ymarferol i ysgolion gyda’u proses hunanwerthuso a gwella a fydd, yn y pen draw yn helpu i greu’r amodau cywir i’r cwricwlwm newydd lwyddo ledled Cymru. Mae wedi’i ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr, consortia, Estyn ac eraill, ac yn sail hyblyg ar gyfer cynllunio gwella ysgolion.

Yn ystod y cyfnod datblygu, treialwyd yr Adnodd gan 120 o ysgolion a oedd yn rhoi adborth ar y fersiynau cynnar, ac mae’r dull gweithredu trylwyr hwn wedi arwain at wella profiad y defnyddiwr. Daeth cyfnod y cynllun peilot i ben ym mis Chwefror, ond gallwch barhau i roi adborth ac awgrymiadau ar gyfer datblygu’r adnodd yn y dyfodol.

Site map

Gellir gweld enghreifftiau ymarferol o sut y defnyddiwyd yr Adnodd yn y rhestrau chwarae hyn a gyhoeddwyd ar Hwb yn ddiweddar (Rhestr Chwarae 1: Ysgol Dyffryn Conwy, Rhestr Chwarae 2: Ysgol Gynradd Glanhywi). Maent yn dangos sut y mae ysgolion wedi mynd ati i hunanwerthuso agweddau ar y cwricwlwm ac addysgu a dysgu gan ddefnyddio cwestiynau cynorthwyol o fewn yr Adnodd.

Bydd 11 o restrau chwarae eraill yn cael eu hychwanegu i’r adnodd erbyn dechrau’r tymor nesaf. Byddwn hefyd yn mapio pecynnau hunanwerthuso eraill i’r adnodd dros yr wythnosau nesaf.

Rôl asesiadau personol sy’n datblygu o hyd fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Gyda chyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Medi, bydd rôl asesiadau yn newid yn sylweddol. Bydd ysgolion a lleoliadau yn datblygu eu trefniadau asesu eu hunain i roi cyfle i bob dysgwr unigol wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau y caiff ei gefnogi a’i herio’n briodol. Er mwyn bod yn barod ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae asesiadau personol wedi cael eu cyflwyno fel adnodd i gefnogi’r ffordd newydd hon o asesu dysgwyr ac i helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn eu sgiliau darllen a rhifedd.

O dan y trefniadau newydd, dylid defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu er mwyn llunio darlun cyfannol o’r dysgwr. Fel rhan o hyn, caiff ymarferwyr eu hannog i ystyried yn llawn yr wybodaeth am sgiliau a nodir gan yr asesiadau personol wrth iddynt gynllunio dysgu a chefnogi cynnydd dysgwyr, ynghyd â gwybodaeth arall am y dysgwr sy’n deillio o’r ystafell ddosbarth.

Bydd y trefniadau asesu newydd yn edrych tua’r dyfodol, gan ganolbwyntio ar ganfod lle mae dysgwyr wedi cyrraedd o ran eu dysgu, a chan nodi’r camau nesaf a’r cymorth sydd ei angen er mwyn iddynt symud ymlaen. Mae’r asesiadau personol ar gyfer blwyddyn 2 hyd at flwyddyn 9 wedi’u cynllunio er mwyn helpu dysgwyr unigol i wneud cynnydd. Maent i’w defnyddio at ddibenion ffurfiannol, gan roi i ymarferwyr a dysgwyr gipolwg ar sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr, yn ogystal â dealltwriaeth o’u cryfderau a’r meysydd y mae angen iddynt eu gwella.

Mae’r asesiadau personol yn addasol, sy’n golygu bod y cwestiynau’n cael eu seilio ar yr ymatebion i’r cwestiynau blaenorol. O ganlyniad i hyn, caiff dysgwyr gyfle i ddangos hyd a lled eu sgiliau yn ystod yr asesiad, a gall ymarferwyr weld lle mae pob dysgwr ar y continwwm. Mae asesiad pob dysgwr yn ei helpu i feithrin ei sgiliau drwy ddeall yr hyn y mae’n gallu ei wneud, y pethau y gall fod angen iddo weithio arnynt, a’i gamau nesaf.

Read more

Rhoi gwybod i rieni am y cwricwlwm newydd – deunyddiau defnyddiol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Rhan annatod o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yw ennyn diddordeb rhieni a rhoi gwybod iddynt – neu eu hatgoffa – am y newidiadau sydd i ddod.

Er y bydd gan bob ysgol ddehongliadau gwahanol iawn o’r cwricwlwm i adlewyrchu eu dull gweithredu a’u hamgylchiadau lleol, bydd yr hanfodion i gyd yn debyg. Dyma nodyn i’ch atgoffa o rai deunyddiau defnyddiol sy’n esbonio’r hanfodion hynny mewn modd hygyrch.

Animeiddiad byr (3 ½ munud) am y cwricwlwm newydd:

Fersiwn ‘hawdd ei ddeall’ o’r canllaw i bobl ifanc

Read more