Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’n bwysig cael modelau rôl yn yr ysgol ac mewn cymdeithas. Wrth weld rhywun sy’n ymddangosiadol debyg i ni yn cymryd camau positif ac yn llwyddo mewn bywyd, mae’n ein ysbrydoli, yn rhoi hyder i ni ac yn rhoi cysur.
Rydym yn gwybod mai felly y mae hi i ddysgwyr yn ein hysgolion. Mae’n brofiad tebyg i ymarferwyr hefyd, yn enwedig ymarferwyr o gefndir ethnig leiafrifol, nad ydynt o hyd yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen gan athrawon, cydweithwyr, rhieni a chymheiriaid.

Felly, crëwyd y Grŵp Cyswllt Cymru Wrth-hiliol fel modd o gymorth ar y cyd â chymheiriaid, ond hefyd i ysbrydoli cydweithwyr o gefndiroedd ethnig i anelu at arweinyddiaeth, gan helpu i dyfu cynrychiolaeth arweinyddiaeth amrywiol mewn addysg yng Nghymru.
Mae’r Grŵp wedi ei greu gyda Cyswllt Gwrth-hiliol Cymru (DARPL) mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg, gan gyfarfod ar-lein yn dymhorol ers yr hydref 2022. Mae’r grŵp yn croesawu aelodau newydd, ac mae modd cofrestru yma.
Mae’r grŵp yn cymryd eu tro i gadeirio’r sesiynau. Cynhaliwyd y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gan bennaeth Coleg Iwerydd, yr ysbrydoledig Naheed Bardai. Dangosodd Naheed sut mae amrywiaeth mewn recriwtio yn dod â chanlyniadau gwell mewn diwydiant, ‘bonws’ o ran amrywiaeth a ddylai fod yn gymwys hefyd yn y byd addysg, fel sydd eisoes yn wir yn ei goleg.
Roedd yn syfrdanol eistedd gyda’n gilydd i fyfyrio ar ystadegau y tynnodd Naheed sylw atynt: mae canran yr athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fach o’i gymharu â chanran y boblogaeth Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru, a dim ond dau bennaeth cynorthwyol sydd o’r cefndiroedd hynny yng Nghymru, mae’r ffynnon bron yn hesb ar gyfer arweinwyr y dyfodol.
Mae’r grŵp hwn o arweinwyr yn awyddus i fapio ymyriadau ac atebion. Roedd y sgyrsiau a’r gweithgareddau yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen digwydd i wneud y gweithlu addysgu yn fwy amrywiol ac, yn anad dim, i annog mwy i ddod yn arweinwyr. Ond roedd hefyd yn le ar gyfer rhannu profiadau, dysgu proffesiynol gwerthfawr a chynnig a derbyn cefnogaeth drwy rannu dealltwriaeth. Roedd yr awyrgylch yn gartrefol ac roedd yno ymdeimlad o ofal ac uchelgais.
Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithiol, gyda sesiynau wyneb yn wyneb achlysurol sy’n fwy gwerth chweil fyth oherwydd bod opsiwn o gael coflaid ar y diwedd. Mae croeso mawr i gyd-ymarferwyr, darpar ymarferwyr, arweinwyr a darpar arweinwyr ymuno neu ddechrau drwy ddarganfod mwy drwy DARPL@cardiffmet.ac.uk

Mewn cyfweliad, dywedodd rhai o’r cyfranwyr rai pethau a oedd yn anodd ei chlywed:
‘Fe wnes i ymuno oherwydd roeddwn i’n teimlo’n ynysig ac yn meddwl tybed a ddylwn i barhau gyda fy ngyrfa fel arweinydd yng Nghymru. Nawr, gan fod modd i ni rannu profiad bywyd, bydd y rhwydwaith hwn yn newid pethau’.
‘Fe wnes i ymuno oherwydd bod angen newid. Does dim gobaith am ddyrchafiad o gwbl, sy’n golygu fy mod i’n un o ychydig iawn mewn rôl arweiniol’.
‘Mae’r grŵp yn fy achub rhag teimlo’n ynysig. Gallaf gael cyngor ac mae’n dda i’m lles meddyliol’.
‘Rydych yn cael syniadau gwahanol am sut i weithredu newid. Mae’r dysgu proffesiynol yn well nag yr wyf erioed wedi’i weld’.
‘Rwy’n ceisio dylanwadu ar recriwtio, ac mae fy nghlwstwr yn ceisio helpu, ond mae angen i’r grŵp hwn helpu i ychwanegu pwysau wrth siarad ag Awdurdodau Lleol. Mae angen iddyn nhw ddeall ein problemau, a’r problemau sy’n wynebu ein teuluoedd’.
‘Rwy’n teimlo y gallaf ddod o hyd i ffordd ymlaen oherwydd mae hwn yn grŵp mor amrywiol, a gallaf synhwyro bod newid yn digwydd, er bod hynny’n cymryd amser. Gall y grŵp hwn helpu i gyflymu hynny’.