Neidio i'r prif gynnwy

A ydych wedi meddwl am gynnig cyfle cyfnewid rhyngwladol i’ch dysgwyr?

Read this post in English

Gall cymryd rhan mewn cyfle cyfnewid ddod â manteision hirdymor i ddysgwyr ac athrawon. Mae’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru drwy roi profiadau gwerthfawr i ddysgwyr ar draws cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r profiadau hyn yn helpu dysgwyr i weithio tuag at y pedwar diben trwy eu cyflwyno i amgylcheddau newydd, gan ehangu eu gorwelion a’u hannog i weld y byd o wahanol safbwyntiau. Maent hefyd yn helpu dysgwyr i ddeall heriau a materion byd-eang ehangach, a gwerthfawrogi safbwyntiau eraill ar wahân i’w safbwyntiau eu hunain.

Taith i Baris yn dangos pŵer profiadau rhyngwladol i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol.

Llun o ddisgyblion/staff o Ganolfan Amanwy

Ym mis Mehefin 2025, mwynhaodd grŵp o ddisgyblion daith gyfnewid fythgofiadwy i Baris drwy Taith. I lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt deithio y tu allan i Gymru, ac roedd y daith yn cynnig cyfle prin i archwilio diwylliant newydd, meithrin cyfeillgarwch a datblygu sgiliau bywyd pwysig. Ymwelodd disgyblion â thirnodau byd-enwog a threulio amser gyda’u hysgol bartner, gan greu atgofion a fydd yn aros gyda nhw ymhell ar ôl dychwelyd adref. Dywedodd Adam Goodman, Rheolwr Canolfan Amanwy, a wnaeth gais am y cyllid a threfnu’r ymweliad:

“Mae’r ymweliad wedi dangos i’n disgyblion beth maen nhw’n gallu ei wneud ac wedi rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddyn nhw. Mae disgyblion ag ADY yn aml iawn yn colli allan ar y mathau hyn o weithgareddau ac mae’r cyfle hwn wedi bod yn amhrisiadwy mewn sawl ffordd. Roedd yn gyfle gwirioneddol unwaith mewn oes a ddaeth â dagrau o lawenydd i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y staff o weld gwynebau’r disgyblion wrth i ni fynd o gwmpas Paris yn gweld pethau yr oedden nhw ond wedi’u gweld mewn llyfrau neu ar y teledu.”

Gallwch ddarllen y stori lawn yma a storïau eraill ar wefan Taith.

Sut y gallwch gymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol?

Taith yw rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Nod prosiectau a chyfnewidiadau Taith yw ysbrydoli cyfranogwyr a gwella dyheadau.

Mae cyllid Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewidiadau dysgu rhyngwladol drwy ddarparu grantiau i gyfranogwyr sy’n teithio o Gymru i wledydd eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n dod i Gymru.

Mae’r galwad presennol am gyllid Llwybr 1 ar agor tan 18 Mawrth 2026. Bydd ymgeiswyr yn derbyn penderfyniad o fewn pedwar mis i’r dyddiad cau. Bydd Taith hefyd yn cynnal gweminarau sy’n esbonio pwy all wneud cais, pa weithgareddau sy’n gymwys a sut i baratoi cais cryf. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yma.

Mae ysgolion yng Nghymru hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid o Gynllun Turing , sydd hefyd yn caniatáu i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid sy’n helpu eu myfyrwyr i gymryd rhan mewn lleoliadau astudio neu waith dramor. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun hwn yw dydd Mercher, 16 Mawrth 2026

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gynllun Turing ar y sianel You Tube ganlynol.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading