Ar draws Cymru, mae ysgolion yn dechrau archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI) gefnogi addysgu, dysgu a gwella ysgolion. Wrth i’r dechnoleg ddatblygu’n gyflym ac ymddangos yn fwy ym mywyd bob dydd, mae ein dull cenedlaethol yn canolbwyntio ar un flaenoriaeth glir: helpu dysgwyr ac ymarferwyr i ddefnyddio AI yn hyderus, yn ddiogel ac yn foesegol.

Mae gwaith ar y gweill ledled Cymru i ymgorffori AI mewn ffordd sy’n cryfhau’r system addysg, gan roi lles dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn.
Dull cydweithredol dan arweiniad y sector
Adeiledir ein strategaeth genedlaethol ar gydweithredu. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwybod fwyaf am y system addysg. Mae hyn yn cynnwys:
- Awdurdodau lleol
- Rhwydweithiau ysgolion ac ymarferwyr
- Pobl ifanc, gan gynnwys lleisiau o’r Grŵp Ieuenctid Cadw’n Ddiogel Ar-lein
- Estyn
- Partneriaid technoleg a diogelwch ar-lein byd-eang
- Cyrff rheoleiddio fel Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac Ofcom
Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod datblygu a defnyddio AI mewn addysg yn cael ei seilio ar ddiogelwch, moeseg a thegwch – egwyddorion sydd wrth galon ein gweledigaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.
Nod y Cwricwlwm i Gymru yw grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n gallu meddwl yn feirniadol, defnyddio tystiolaeth a llywio dulliau digidol yn gyfrifol.
Mae rhan bwysig o hyn yn cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy’n cefnogi dysgwyr 3 i 16 oed i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio technoleg yn:
- hyderus
- creadigol
- diogel
Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd, gyda darnau newydd i helpu dysgwyr i ymgysylltu’n feirniadol â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, fel AI. Mae hyn yn adlewyrchu’r byd y mae pobl ifanc yn tyfu i mewn iddo, byd lle mae deall systemau digidol yr un mor hanfodol â darllen a rhifedd.
Dysgu proffesiynol i ymarferwyr
I gefnogi ysgolion i archwilio sut y gall AI wella addysgu a dysgu, mae dysgu proffesiynol cenedlaethol yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno drwy’r rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder.
Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi chi a’ch ysgol drwy adeiladu hyder gyda thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, dyfnhau dealltwriaeth o AI cynhyrchiol, a cryfhau addysgeg digidol a chyfrifiadol. Drwy sesiynau ymarferol a chynnwys adnoddau o ansawdd uchel, rydym yn helpu ymarferwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i addysgu meysydd cwricwlwm allweddol yn effeithiol ac i gefnogi cynnydd dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.
Deall AI mewn ysgolion: canfyddiadau Estyn
Mae Estyn wedi cynnal adolygiad thematig ar AI ym maes addysg, yn archwilio sut mae ysgolion yn dechrau defnyddio AI a’r effaith sy’n dod i’r amlwg ar addysgu a dysgu, gweinyddu, a gwella ysgolion.
Prif ganfyddiadau
- Lleihau llwyth gwaith: gall offer AI arbed amser sylweddol o ran cynllunio gwersi, creu adnoddau ac ysgrifennu adroddiadau.
- Cefnogi dysgu personol: roedd athrawon yn gweld AI yn ddefnyddiol ar gyfer ateb anghenion amrywiol dysgwyr, gan gynnwys y rhai â phroffiliau dysgu cymhleth.
- Mae addysgeg yn allweddol: gwelwyd yr enghreifftiau gorau o ddefnydd o AI pan oedd ysgolion yn ei wreiddio mewn egwyddorion addysgegol cryf.
- Mabwysiadu cynnar: mae llawer o ysgolion yn dal i arbrofi gyda AI ac mae angen rhagor o arweiniad a dysgu proffesiynol strwythuredig.
Hwb: mynediad at offer AI diogel ac o ansawdd uchel
Mae ysgolion yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i blatfform digidol diogel drwy Hwb, sy’n cynnwys nifer o offer AI arloesol, gan gynnwys:
- Microsoft Copilot Chat
- Google Gemini
- Notebook LM
- Offer dysgu wedi’u galluogi gan AI, gan gynnwys Adobe Express a Microsoft Learning Accelerators
Canllawiau ac adnoddau AI cenedlaethol i ysgolion
I helpu ysgolion i integreiddio AI yn gyfrifol, mae Hwb yn darparu pecyn cynhwysfawr o ganllawiau ac adnoddau cefnogol, gan gynnwys:
- Canllawiau ar ddefnyddio AI yn foesegol ac yn ddiogel
- Canllawiau ar faterion diogelu sy’n gysylltiedig ag AI
- Templed polisi AI ar gyfer ysgolion
- Adnoddau llythrennedd AI ar gyfer yr ystafell ddosbarth
- Modiwl hyfforddiant AI sylfaenol ar-lein i ymarferwyr
- Canllawiau apiau diogelwch ar-lein i rieni a gofalwyr
- Sesiynau tiwtorial ymarferol ar alw
- Canllawiau ar gyrchu ac defnyddio’r offer AI sydd ar gael drwy Hwb
Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i helpu ysgolion i deimlo’n hyderus wrth lywio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n dod gyda AI.