Neidio i'r prif gynnwy

Gall ieithoedd “eich harwain i leoedd” yn Ysgol Yr Holl Saint, Gresffordd

Read this post in English

Fel rhan o’n Strategaeth Dysgu Rhyngwladol, rydym wedi datblygu partneriaeth gyffrous gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor i ddarparu gwersi Mandarin wythnosol i’n disgyblion ym Mlwyddyn 3–6.

Mae cyflwyno Mandarin yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ddarparu dysgu ieithoedd rhyngwladol ystyrlon sy’n ehangu gorwelion disgyblion ac yn meithrin dealltwriaeth gynnar o ddinasyddiaeth fyd-eang. Caiff dysgwyr eu cyflwyno nid yn unig i Mandarin llafar, ond hefyd i ddiwylliant, traddodiadau a safbwyntiau byd-eang Tsieina wrth iddynt ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n chwilfrydig am y byd ac yn hyderus wrth ymgysylltu â diwylliannau gwahanol.

Mae’r bartneriaeth hefyd wedi cefnogi datblygiad proffesiynol staff, gan gynyddu hyder yn y gwaith o addysgu ieithoedd rhyngwladol. Wrth weithio gyda’r tiwtoriaid, mae ein staff wedi gallu arsylwi strategaethau effeithiol a thechnegau ynganu sy’n llywio eu harfer yn yr ystafell ddosbarth, gan eu galluogi i ddarparu profiadau dysgu iaith pleserus, cynhwysol ac effeithiol.

Y dylanwad mwyaf, fodd bynnag, fu ar ein dysgwyr. Llwyddwyd i sicrhau cyllid Taith, a alluogodd ein disgyblion Blwyddyn 6 i ymweld â Singapore ac i ddefnyddio’u Mandarin mewn cyd-destunau go iawn. Roedd eu gweld nhw’n defnyddio’r hyn a ddysgon nhw y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn brofiad gostyngedig ac yn atgyfnerthu pwrpas a gwerth ieithoedd iddyn nhw. I lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt brofi sut y gall ieithoedd wirioneddol “eich harwain i leoedd.”

Ynghyd â Mandarin, rydym hefyd yn darparu Ffrangeg i’n Dosbarthiadau Iau, gan sicrhau bod disgyblion yn profi mwy nag un iaith ychwanegol cyn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd. Rydym yn glir bod y cyflwyniad hwn wedi’i gynllunio i atgyfnerthu sgiliau llythrennedd allweddol—gwrando, siarad, adnabod patrymau, a chofio—tra’n helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd a deall bod ieithoedd yn amrywiol, yn werthfawr ac ar gael i bawb.

Yn y pen draw, ein nod yw meithrin cariad at ieithoedd ar draws yr ysgol, wedi’i wreiddio yn y gred bod dysgu iaith arall yn agor meddyliau, yn meithrin hyder, ac yn grymuso disgyblion i weld eu hunain fel cyfranwyr gweithredol mewn cymuned fyd-eang. Rydym yn hynod falch o’r cyfan y maent yn ei gyflawni.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading