Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaethau addysg: adeiladu system sy’n gweithio i bawb

Read this post in English

Amcangyfrif o amser darllen: 4–5 munud

Wedi mis fel Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, dyma Anna Brychan AS yn amlinellau ei blaenoriaethau ar gyfer addysg. Gellir gwylio’r datganiad i’r Senedd ar teledu’r Senedd.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am gyflwyno blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer addysg. Fi yn amlwg sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg yn ehangach, gan weithio gyda holl aelodau’r Cabinet, gan fod y Gymraeg yn rhan o’n gwaith a’n cenhadaeth ni i gyd. Felly, byddaf i’n canolbwyntio ar y blaenoriaethau addysg heddiw, gan gynnwys yn amlwg addysg Gymraeg, ond byddaf i yn gwneud datganiad pellach – datganiad llafar pellach, felly ar y Gymraeg cyn yr haf.

Addysg dda yw’r cychwyn gorau y gallwn ni ei roi i’n plant a’n pobl ifanc. Addysg yw’r allwedd i ddatgloi potensial ein cenedl, a dyma pam mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth genedlaethol, i godi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu ac addysgu.

Mae’r system addysg ar hyn o bryd yn methu gormod o’n plant a’n pobl ifanc. Nid diffyg talent yw’r broblem, na diffyg ymrwymiad. Mae gyda ni blant a phobl ifanc llawn potensial, a gweithlu abl ac ymroddedig. Y broblem yw nad yw’r system gyfan bob amser yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a datgloi potensial ein dysgwyr, nac ychwaith yn rhannu data a dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i sicrhau cynnydd ym mhob ysgol, ym mhob ardal, yn gyson ac yn rymus.

Rydyn ni’n moyn i’r system addysg weithredu fel un system gysylltiedig, i gefnogi’n plant o’r blynyddoedd cynnar tan y pwynt pan maen nhw’n dechrau gweithio. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw codi safonau i bob plentyn ym mhob cymuned. Rwyf am sicrhau bod ein haddysg yn rhoi sylfeini cryf i’n plant a’n pobl ifanc i lwyddo – yn yr ysgol, yn y coleg, mewn gwaith ac mewn bywyd. Mewn pedair blynedd rwyf am sicrhau fod mwy o bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r lefelau uchaf posib o lythrennedd a rhifedd, bod llai o blant yn gadael yr ysgol heb sgiliau sylfaenol, a bod mwy o blant yn llwyddo i gael cymwysterau defnyddiol.

Mae angen hwyluso gwaith ysgolion, awdurdodau lleol a’r dysgwyr eu hunain drwy nodi’n gliriach beth yw ein disgwyliadau ni a rhoi canllawiau cenedlaethol clir i’n hysgolion. Bydd hynny yn rhan ganolog o’r cynllun sylfaenol llythrennedd a rhifedd. Dyma beth mae’n partneriaid ni yn y system addysg wedi gofyn amdano, dyma beth mae rhieni a dysgwyr ei angen. Drwy ei ffocws clir ar lythrennedd a rhifedd, dyma beth mae Estyn hefyd yn ei flaenoriaethu.

Mae gyda ni ddata i adeiladu arno eisoes, ond defnydd annigonol ohono. Byddaf yn amlinellu sut y byddwn ni’n defnyddio’r data yn ein cynllun ni yn y man. Ond rwyf hefyd am i blant feithrin cariad at ddarllen. Mae hwnna’n allweddol bwysig. Felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod llyfrgell gyda ni ym mhob ysgol gynradd yn ystod tymor y Senedd hwn. Rwyf wedi addo i bob ysgol y byddaf yn cysylltu eto gyda nhw cyn diwedd yr haf i ymhelaethu ar ein cynllun ni, a byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Mae hyn yn dod â fi at flaenoriaeth bwysig pellach.

Ni all unrhyw system addysg lwyddo oni bai ein bod yn cefnogi’r gweithlu sy’n ei gwneud yn bosibl. Rhaid i ni weithio ar y cyd â’n haddysgwyr i wella addysg, datgloi’r creadigrwydd a’r potensial anhygoel sydd yn ein gweithlu, buddsoddi ynddynt, ymddiried ynddynt, eu cefnogi a chynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol hygyrch iddynt.

Rydym wedi dechrau mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio. Bydd darpar athrawon uwchradd mewn pynciau lle mae prinder athrawon yn derbyn hyd at £20,000 tra’u bod mewn addysg gychwynnol athrawon. Dim ond y dechrau yw hyn. Mae gormod o addysgwyr yn gadael y proffesiwn yn rhy gynnar. Mae angen i ni wella amodau dysgu a’u cadw yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys rhoi canllawiau cenedlaethol clir ar yr heriau maent yn eu hwynebu.

Mae ysgolion yn ficrocosm o’n cymdeithas. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran iechyd meddwl, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, technoleg, ac effeithiau parhaus COVID. Mae ein harweinwyr, athrawon dosbarth a staff cymorth yn delio â’r materion cymdeithasol cymhleth hyn bob dydd. Maent yn gwneud hynny gyda gofal mawr a heb lawer o sylw. Efallai nad yw’r Siambr hon eto’n adlewyrchu amrywiaeth ryfeddol ein cymdeithas, ond nid felly y mae yn ein hysgolion. Yno, gellir gweld yn glir y cyffro, y posibiliadau, y creadigrwydd a’r heriau sydd yn ein cymdeithas.

Un enghraifft yn unig: mae tystiolaeth gynyddol o effaith ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ar ein plant. Mae ein hysgolion yn lle i ddysgu, ac mae athrawon yno i addysgu. Rwy’n croesawu datganiad Llywodraeth y DU ar wahardd cyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed. Nid mater datganoledig yw hwn, wrth gwrs, a bydd y manylion ynghylch gweithredu yn bwysig. Felly, rydym yn edrych ymlaen at drafodaethau mwy manwl gyda Llywodraeth y DU, ac yn dilyn yn agos yr hyn sy’n digwydd yn y maes polisi hwn mewn mannau eraill, megis Awstralia, a gyflwynodd y gwaharddiad hwn yn gynharach.

Mae ein cynllun 100 diwrnod yn glir. Byddwn yn gweithredu ar frys. Rwyf wedi clywed y galwadau am fwy o eglurder ar ddefnydd ffonau symudol yn ein hysgolion. Heddiw, rwy’n cadarnhau y byddwn yn cyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol yn ein hysgolion. Ym mis Medi, byddwn yn dechrau ymgynghoriad ar ganllawiau statudol yn y maes hwn, gan wrando ar ein hathrawon a’n rhieni a chymryd camau. Rwyf am fod yn gwbl glir ar hyn: fel Gweinidog y Cabinet, rwy’n cefnogi’n llawn ac yn annog yn gryf benaethiaid i gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys gwaharddiad llawn ar draws safle’r ysgol.

Mae ein cynllun 100 diwrnod yn glir. Byddwn yn gweithredu ar frys. Rwyf wedi clywed y galwadau am fwy o eglurder ar ddefnydd ffonau symudol yn ein hysgolion. Heddiw, rwy’n cadarnhau y byddwn yn cyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol yn ein hysgolion. Ym mis Medi, byddwn yn dechrau ymgynghoriad ar ganllawiau statudol yn y maes hwn, gan wrando ar ein hathrawon a’n rhieni a chymryd camau. Rwyf am fod yn gwbl glir ar hyn: fel Gweinidog y Cabinet, rwy’n cefnogi’n llwyr ac yn annog yn gryf i benaethiaid gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys gwaharddiad llawn ar draws safle’r ysgol.

Mae’n hanfodol bod gennym ni system addysg gynhwysol, felly byddwn ni’n sicrhau bod y gefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gliriach i deuluoedd ac i’r system gyfan. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu model gynaliadwy ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wedi blynyddoedd o bwysau sylweddol.

Mae’r Gymraeg hefyd yn rhan greiddiol o’r un system addysg gynhwysol honno. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dwi am sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddysgu a mwynhau’r Gymraeg trwy weithredu llawn botensial Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Yn ogystal â chryfhau darpariaeth mewn ysgolion dwy iaith ac ysgolion cyfrwng Saesneg, rŷn ni am osod seiliau i sicrhau bod 50 y cant o’n plant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 – y targed mwyaf uchelgeisiol gan unrhyw Lywodraeth o safbwynt twf y Gymraeg. Byddwn yn ehangu darpariaeth Gymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar ar y naill law, ac addysg bellach ac uwch ar y llall, yn cael gwared â’r rhwystrau i gael addysg cyfrwng Cymraeg gan sicrhau llwybr iaith ac addysg barhaus a di-dor.

Mae tlodi’n effeithio ar botensial ein plant a’n pobl ifanc. Ein plant yw ein dyfodol, ac ni ddylai eu gallu i ddysgu gael ei effeithio gan gostau byw. Dyna pam yr oedd ein maniffesto hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd sydd ar gredyd cynhwysol. Byddaf yn rhannu mwy o fanylion am hyn yn fuan.

Rhaid i’r system addysg weithredu fel un system genedlaethol gysylltiedig. Nid yw dysgwyr yn profi addysg mewn ‘silos’, ac ni ddylai llywodraethau lunio polisi yn y modd hwn chwaith. Byddwn yn mabwysiadu dull llawer mwy cydweithredol rhwng ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, oherwydd pan fydd y system yn gweithio gyda’i gilydd, mae canlyniadau’n gwella ac mae dysgwyr yn cael eu cefnogi’n well.

Mae hynny’n arbennig o bwysig wrth bontio o addysg statudol i addysg drydyddol neu gyflogaeth. O ran y Gymraeg, rŷn ni’n gwybod bod gormod o bobl ifanc yn colli cyswllt â’r iaith ar y cyfnod hwn, gan fod y cyfleoedd i gadw cyswllt yn lleihau yn sylweddol. I ormod o bobl ifanc, mae’r system yn teimlo’n gymhleth ac yn ddarniog, ac mae hynny’n golygu bod potensial yn gallu cael ei golli, eu bod nhw’n rhy aml wedyn yn ffeindio’u hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. Ein rôl ni yw creu llwybrau cliriach, rhoi gwell cyngor a chanllaw a chefnogi’n dysgwyr yn well i barhau i astudio, hyfforddi a gweithio yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, a dysgu o brofiad a thystiolaeth fyd-eang. 

Ni allwn chwaith wahanu addysg oddi wrth economi Cymru. Os ydym am weld Cymru gryfach, economi gryfach a swyddi sy’n talu’n well, mae angen system sgiliau gryfach arnom. Dyna pam ein bod wedi cychwyn ar archwiliad sgiliau ar draws Cymru i ddeall anghenion sgiliau’r dyfodol a sicrhau bod ein penderfyniadau polisi yn cyd-fynd â gofynion economi’r dyfodol a gofynion ein cyflogwyr. Yn yr hydref, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd sgiliau gyda chynrychiolaeth o fyd addysg, sgiliau, hyfforddiant a busnes, yn ogystal â’n canolfannau ymchwil, colegau a phrifysgolion, i greu un weledigaeth, un cyfeiriad, un system sy’n gweithio’n well i ddysgwyr ac i’r economi.

Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer Cymru fwy llewyrchus. Mae ymchwil o bwysigrwydd byd-eang yn digwydd yn ein prifysgolion, yn aml heb gael ei chydnabod yn ddigonol. Mae angen gwell cysylltiad a rhyng-gysylltiad â’r economi. Oes, mae heriau difrifol yn wynebu ein prifysgolion, ond rydym yr un mor benderfynol o weithio gyda’r sector i greu system addysg uwch fwy cynaliadwy sy’n gweithio i Gymru ac i’n dysgwyr. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi sut y byddwn yn gweithredu ein hymrwymiad i adolygu cyllid ein prifysgolion er mwyn sicrhau bod budd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn aros yng Nghymru. Mae gormod o dalent ifanc yn cael ei cholli. Rwyf am annog mwy o bobl i aros yng Nghymru, i astudio yng Nghymru ac adeiladu eu dyfodol yma, oherwydd eu bod yn gweld bod gan ein prifysgolion, ein heconomi a’n cenedl lawer i’w gynnig iddynt.

Mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth oherwydd bod dyfodol Cymru yn dibynnu arnom ni’n gwneud hynny. Mae’n huchelgais economaidd yn dibynnu ar y system addysg, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arni. Heb system addysg gref, fyddwn ni ddim yn gallu datgloi llawn botensial Cymru.

Mae angen bod yn onest: bydd hi yn anodd ac yn heriol ar adegau, rŷn ni’n gwybod hynny, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o dro i dro. Ond mae’r weledigaeth yn glir, a gofynnwn i’n partneriaid yn y sector addysg weithio gyda ni i’w gwireddu. 

Bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio’n egnïol ar godi safonau i gefnogi’r gweithlu, i gryfhau sgiliau, ac adeiladu system addysg sy’n gweithio i bob dysgwr, yn y Gymraeg ac yn Saesneg – ein dwy iaith genedlaethol – ac yn anad dim, i Gymru. Diolch yn fawr.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading