Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi ein gweithlu: lleihau’r llwyth gwaith a chryfhau llesiant

Read this post in English

Llun o ddosbarth gwag

Amser darllen oddeutu 3 – 4 munud

Rydyn ni’n gwybod bod cryfder ein system addysg yn dibynnu ar y bobl sy’n gweithio ynddi bob dydd. Mae athrawon, arweinwyr a staff cymorth yn parhau i fynd yr ail filltir dros ddysgwyr – ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich gwerthfawrogi ac yn gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysicaf: addysgu a dysgu.

Dyna pam rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau llwyth gwaith diangen a gwella llesiant ledled y system, ochr yn ochr â’n cenhadaeth ehangach i godi safonau llythrennedd a rhifedd a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu llwyddo.

Lleihau llwyth gwaith diangen – drwy weithredu ymarferol a phendant

Rydym wedi clywed yn glir gan y gweithlu y gall prosesau beichus a biwrocratiaeth gymryd amser oddi wrth addysgu ac oddi wrth ddysgwyr. Mewn ymateb i hynny, rydym yn dechrau gweithredu argymhellion y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol i leihau’r pwysau hyn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ehangu’r defnydd o asesiadau effaith ar lwyth gwaith, gan helpu i sicrhau bod polisïau a gofynion newydd yn cael eu llunio gan ystyried llwyth gwaith staff.
  • Gweithio gyda phartneriaid ledled y system i wreiddio’r dulliau hyn yn gyson.
  • Adolygu gofynion adrodd a chyllido i leihau dyblygu a gofynion diangen.
  • Cryfhau cydweithio drwy Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion, fel bod pob rhan o’r system yn chwarae ei rôl wrth fynd i’r afael â llwyth gwaith.

Nid newidiadau untro yw’r rhain. Maent yn ddechrau ar ymdrech gynaliadwy ar draws y system gyfan i leihau biwrocratiaeth a rhoi mwy o amser i chi ganolbwyntio ar eich rôl graidd.

Rydym yn cydnabod y gall cymryd amser i newidiadau wreiddio’n llawn. Er y gall fod angen rhai addasiadau yn y tymor byr, mae’r nod hirdymor yn glir: system symlach a mwy cydlynol sy’n lleihau pwysau yn hytrach na ychwanegu at y baich.

Creu mwy o amser ar gyfer dysgu proffesiynol a chydweithio

Rydym hefyd yn cynyddu’r amser sydd ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol drwy wneud chwe diwrnod HMS yn rhan barhaol o’r flwyddyn ysgol.

Bwriedir i’r amser ychwanegol hwn:

  • Gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol ystyrlon.
  • Galluogi cydweithio o fewn ac rhwng ysgolion.
  • Darparu lle ar gyfer cynllunio, paratoi a myfyrio.

Gwyddom fod dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn hanfodol, nid yn unig i wella deilliannau i ddysgwyr, ond hefyd i gefnogi hyder, boddhad swydd a chadw staff.

Bydd y canllawiau wedi’u diweddaru yn helpu i sicrhau bod yr amser hwn yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn gyson, gyda ffocws cryf ar addysgu, dysgu ac anghenion dysgwyr, gan ganiatáu hyblygrwydd i ysgolion ymateb i’w blaenoriaethau eu hunain.

Buddsoddi yn eich datblygiad a’ch llesiant

Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Dysgu, i lunio cyfleoedd dysgu proffesiynol yn y dyfodol, gan adeiladu ar y cymorth a ddarperir eisoes gan Dysgu mewn meysydd fel llythrennedd a rhifedd, arweinyddiaeth, cynhwysiant a llesiant. Wrth wneud hyn, byddwn yn archwilio sut y gellir darparu dysgu a datblygiad o ansawdd uchel mewn ffyrdd sy’n hygyrch, yn berthnasol ac yn cefnogi blaenoriaethau ysgolion.

Bydd dysgu proffesiynol yn archwilio dulliau newydd, gan gynnwys sut y gellir defnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i leihau llwyth gwaith yn ogystal â gwella addysgu a dysgu.

Ein nod yw creu system lle nad yw datblygiad proffesiynol yn rhywbeth sy’n cael ei ychwanegu ar ben gofynion eraill, ond yn hytrach, rhywbeth y cewch eich cefnogi’n briodol i’w gyrchu fel rhan o’ch amser gwaith.

Dull cydweithio mewn partneriaeth

Ni all y llywodraeth lwyddo i leihau llwyth gwaith a gwella llesiant ar ei phen ei hun. Mae’n dibynnu ar bob rhan o’r system yn gweithio gyda’i gilydd.

Dyna pam rydym yn parhau i weithio’n agos gydag undebau, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys drwy Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion, i fonitro cynnydd a chytuno ar gamau gweithredu pellach.

Mae eich llais yn ganolog i hyn. Mae’r wybodaeth sy’n caei ei ddarparu gennych yn helpu i lunio’r newidiadau rydym yn eu gwneud, a byddant yn parhau i lywio’r hyn a wnawn nesaf.

Edrych tua’r dyfodol

Gwyddom fod mwy i’w wneud. Bydd yn cymryd peth amser i rai o’r newidiadau hyn greu’r buddion llawn, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith hwn gyda chi.

Ond mae hwn yn gam pwysig ymlaen:

  • cymryd camau cynnar ac ymarferol i leihau llwyth gwaith diangen;
  • creu mwy o amser a lle ar gyfer dysgu proffesiynol;
  • ac adeiladu system sy’n cefnogi eich llesiant yn well.

Drwy eich cefnogi chi, rydym yn cefnogi ein dysgwyr ac yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i lwyddo.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading