Neidio i'r prif gynnwy

Llythrennedd a rhifedd – o gynllun i gyflawni

Read this post in English

Wrth inni gyrraedd hanner tymor, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i chi am bopeth rydych yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru. Hoffwn hefyd rannu diweddariad ar y cynnydd rydym wedi’i wneud y tymor hwn a’r gwaith sydd o’n blaenau wrth inni barhau i weithio gyda’n gilydd i gryfhau addysg yng Nghymru.

Fel Llywodraeth, rydym wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth oherwydd gwyddom fod llwyddiant Cymru yn dibynnu ar lwyddiant ein dysgwyr. Wrth galon hynny mae llythrennedd a rhifedd, y sylfeini sy’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud cynnydd a chyflawni eu potensial.

Mae llythrennedd a rhifedd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru. Nhw yw’r sylfeini sy’n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar draws eu dysgu, mewn bywyd a gwaith ac a fydd yn parhau i fod yn ganolog i’n hymdrechion i godi safonau.

 Cyn diwedd y tymor diwethaf, ysgrifennais at bob pennaeth yn amlinellu ein dull o godi safonau trwy gefnogaeth gryfach i ysgolion, ymrwymiad o’r newydd i fireinio’r cwricwlwm a ffocws cliriach ar fesur cynnydd.

Ers hynny, rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni’r ymrwymiadau hynny. Mae’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn gam pwysig ar y daith hon, gan ddod â’r system at ei gilydd o amgylch nod cyffredin: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Rydym yn gwybod bod angen sylw brys ar rai meysydd, ac felly roeddwn yn hynod falch o gynnal fy Mwrdd Cyflenwi Gweinidogol cyntaf yn gynharach yr wythnos hon, gan ddod â phartneriaid addysg o bob cwr o Gymru ynghyd i roi ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd ar waith. Ynghyd â’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid a’n partneriaid cymdeithasol, byddwn  yn adeiladu cydlyniant ar draws y system.

Ymgynghoriad ar ganllawiau llythrennedd yn dechrau

Heddiw, rydym yn lansio’r ymgynghoriad ar ein canllawiau Cynnydd Llythrennedd newydd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r eglurder rydych chi wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro, ei fod ei eisiau a’i angen arnoch.

Mae ymarferwyr ac arweinwyr yn ganolog i’r gwaith hwn. Bydd eich barn ar yr hyn sy’n gweithio mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion yn ein helpu i ddatblygu canllawiau sy’n glir, ymarferol ac effeithiol. Rwy’n annog pawb sy’n gweithio ym maes addysg i gymryd rhan a helpu i lunio’r canllawiau terfynol, sydd wedi’u cynllunio i ategu’r canllawiau cwricwlwm presennol a gwneud disgwyliadau cliriach ar gyfer dysgu llythrennedd. 

Yn yr un modd, ar ôl hanner tymor byddwn yn cyhoeddi’r ymgynghoriad ar fanylion rhifedd ychwanegol ac yna, cyn y Nadolig, bydd CAL:ON yn cyhoeddi ei Ganllaw i Ffoneg i Ysgolion yng Nghymru, a fydd yn cefnogi athrawon i gyflwyno rhaglenni ffoneg yn gywir ac yn effeithiol.

Rydym hefyd wedi dechrau datblygu asesiadau sylfaenol newydd, a fydd yn ein helpu i ddeall cryfderau ac anghenion pob plentyn o ddechrau eu taith addysgol. Y nod yw sicrhau bod dysgwyr yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i wneud cynnydd a chyflawni eu potensial.

Llunio dyfodol Cymru: Un system gysylltiedig i bob dysgwr

Ar ôl hanner tymor, rwy’n edrych ymlaen at ddod â phenaethiaid at ei gilydd yn ein cynhadledd ym mis Tachwedd, i edrych ar sut rydym yn adeiladu system addysg wirioneddol gysylltiedig sy’n gweithio i bob dysgwr yng Nghymru.

Bydd hwn yn gyfle i drafod y  gwaith a fydd yn digwydd ar yr adolygiad i gryfhau Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â sut y gallwn adeiladu model mwy cynaliadwy ar gyfer darpariaeth a chymorth Addysg Anghenion Ychwanegol.

Mae eich profiad, eich mewnwelediad a’ch dealltwriaeth o fywyd bob dydd mewn ysgolion yn hanfodol i’r gwaith hwn. Wrth inni lunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru, mae’n bwysig bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu llywio gan realiti’r ystafell ddosbarth.

Gweithio law yn llaw

Mae llawer eisoes ar waith, ac mae llawer mwy i’w wneud. Rwy’n gwybod bod heriau gwirioneddol o’n blaenau ac y bydd angen i ni wneud penderfyniadau anodd ar adegau.

Mae Cymru yn genedl addysgol falch, gyda gweithlu medrus, ymroddedig ac angerddol, a chymunedau sy’n deall y grym sydd gan addysg i newid bywydau.

Mae’r cynllun rydym wedi’u cyhoeddi, yr ymgynghoriadau rydym yn eu lansio a’r gwaith rydym yn ei yrru ymlaen ar draws y system yn bwysig. Ond yn y pen draw, pobl sy’n gwneud y gwahaniaeth. Chi sy’n troi uchelgais yn weithredu, polisi yn ymarfer, a chefnogaeth yn gynnydd i ddysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.

Edrychaf ymlaen at barhau i wrando arnoch a dysgu gennych wrth i’n cynlluniau ddatblygu.

Diolch o galon

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading