Neidio i'r prif gynnwy

Cryfhau’r Cwricwlwm i Gymru: mewnwelediad arbenigol ar gyfer cam nesaf ein taith

Read this post in English

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn meddwl am addysg. Mae dysgwyr a’u datblygiad yn ganolog, ac mae’n dod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ynghyd i gefnogi pob person ifanc i ddod yn uchelgeisiol ac yn alluog, mentrus a chreadigol, yn egwyddorol ac yn wybodus, ac yn iach ac yn hyderus.

Nawr bod y cwricwlwm wedi’i gyflwyno ar draws pob ysgol a lleoliad, dyma’r amser iawn i ystyried yr hyn sydd wedi’i ddysgu a lle gallai gwelliannau targedig wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae ysgolion yn gwneud newidiadau sylweddol i gynllunio ac addysgu eu cwricwlwm, ond mae tystiolaeth gwerthuso ac arolygu genedlaethol hefyd yn dangos amrywiad parhaus mewn ymarfer.

Felly, nid yw’r adolygiad targedig hwn o’r Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â dechrau o’r newydd neu ddisodli egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn archwilio sut y gellir gwneud disgwyliadau cenedlaethol yn gliriach, yn fwy cydlynol ac yn fwy cyson, tra’n cadw gweledigaeth y cwricwlwm i gefnogi dysgwyr i ddatblygu yn unol â dibenion y cwricwlwm. Bydd yr adolygiad yn ystyried dyluniad y cwricwlwm, rôl gwybodaeth, eglurder ar gyfer cynnydd ac asesu, ochr yn ochr â gweithredu mewn ffordd sy’n cefnogi tegwch, y cyd-destun dwyieithog a llwyth gwaith ymarferwyr. Bydd yn cynhyrchu cyngor arbenigol ymarferol i’r Gweinidog ystyried.

Mae panel annibynnol yn dwyn ynghyd chwe aelod gydag arbenigedd sy’n ategu ei gilydd:

Mae’r Athro Dylan Wiliam yn Athro Emeritws Asesu Addysgol yn Athrofa Addysg UCL. Wedi’i gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ar asesu ffurfiannol, mae’n dod ag arbenigedd dwfn mewn cynnydd, asesu  yn y dosbarth a’r berthynas rhwng asesu, atebolrwydd a gwelliant.

Mae Dr Glenda Jones,  Cynullydd y Panel, yn dod â phrofiad helaeth o gyfathrebu dwyieithog, hwyluso a dysgu creadigol. Bydd ei rôl gynull yn cefnogi trafodaeth ar y cyd tra’n cynnal sefyllfa gyfartal ymhlith aelodau’r panel.

Mae’r Athro Louise Hayward yn Athro Emerita ym Mhrifysgol Glasgow. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar asesu addysgol, cyfiawnder cymdeithasol a diwygio cynaliadwy. Mae hi wedi gweithio’n agos gydag ymarferwyr a llunwyr polisi yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr  ymchwil, polisi ac ymarfer yng Nghymru fel rhan o’r Rhwydwaith Asesu Addysgol Rhyngwladol.

Mae’r Athro Jim Spillane mae’n Athro Dysgu a Newid Sefydliadol ym Mhrifysgol Northwestern. Mae ei ymchwil yn archwilio sut mae polisi addysg yn cael ei ddehongli a’i weithredu mewn ysgolion, gydag arbenigedd penodol mewn arweinyddiaeth ddosranedig, newid sefydliadol a’r berthynas rhwng polisi ac ymarfer.

Mae Dr Sonny Singh  yn uwch academydd ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fel prif ymchwilydd ar gyfer Camau i’r Dyfodol, mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru i archwilio llunio cwricwlwm, cynnydd dysgwyr, a sut y caiff Cwricwlwm Cymru ei wireddu yn ymarferol.

Mae Lucy Crehan yn ymgynghorydd addysg ryngwladol, awdur a chyn-athrawes. Adolygodd y cwricwlwm yng Ngogledd Iwerddon ac mae wedi astudio systemau addysg yn rhyngwladol. Mae hi hefyd yn Gynghorydd Cyswllt ar y Cwricwlwm ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyda’i gilydd, bydd y panel yn darparu her annibynnol, profiad ymarferol a phersbectif rhyngwladol. Bydd ei waith yn helpu Cymru i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud, cryfhau cefnogaeth i ymarferwyr a sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i esblygu er budd pob dysgwr.