Dylech
- Barchu eraill sy’n defnyddio’r safle
- Cadw at y pwnc
- Cadw’ch sylwadau’n gryno
Ni ddylech
- Ddefnyddio iaith sarhaus, ymfflamychol neu gythruddol (mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rhegi a sylwadau anweddus neu ddi-chwaeth)
- Torri’r gyfraith (mae hyn yn cynnwys enllib, esgusodi gweithgarwch anghyfreithlon a dirmyg llys)
- Defnyddio’r safle at ddibenion plaid wleidyddol (arian cyhoeddus sy’n talu am y safle, felly mae’n amhriodol ymwneud â gweithgarwch plaid wleidyddol)
- Postio gwybodaeth bersonol mewn sylwadau fel cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill sy’n berthnasol i chi neu unigolion eraill
- Dynwared neu honni eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
- Ceisio mewngofnodi drwy gyfrif defnyddiwr arall
- Hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad masnachol nad ydynt yn berthnasol i’r drafodaeth
- Gwneud sylwadau i fynd ati i hyrwyddo eich prosiectau, gwefannau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rhiant neu warcheidwaid cyn postio sylw.
Sut byddwn ni’n ymateb i’ch sylw
Caiff sylwadau i flogiau eu hadolygu yn unol â’n canllawiau ac, os byddant yn cydymffurfio â’r canllawiau hynny, byddwn yn eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn anelu at eu cyhoeddi ar yr un diwrnod gwaith os byddwn yn eu derbyn cyn 12pm neu’r diwrnod gwaith canlynol os byddwn yn eu derbyn ar ôl 12pm. Ni chaiff sylwadau na fyddant yn cydymffurfio â’r canllawiau eu cyhoeddi.
Os ydych yn gofyn am wybodaeth neu fanylion ynghylch un o sianelau neu wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru, byddwn yn trosglwyddo’ch sylw at y tîm perthnasol.
Os ydych yn gwneud cwyn am Lywodraeth Cymru, byddwn yn trosglwyddo’ch sylwadau at yr Uned Gwynion.