Neidio i'r prif gynnwy

Meincnodau Byd-eang i Gymru: PIRLS 2026 a TIMSS 2027

Read this post in English

Mae asesiadau rhyngwladol yn chwarae rôl bwysig wrth ein helpu i ddeall i ba raddau y mae dysgwyr yng Nghymru yn datblygu sgiliau allweddol, a sut mae ein system addysg yn cymharu ag eraill ledled y byd. Maent yn darparu tystiolaeth annibynnol o ansawdd sy’n cefnogi ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a gwella canlyniadau i bob dysgwr.

Dros y blynyddoedd i ddod, bydd Cymru yn cymryd rhan mewn dwy astudiaeth ryngwladol fawr o ddysgwyr Blwyddyn 5 am y tro cyntaf:

  • PIRLS (Yr Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) 2026.
     Mae PIRLS yn mesur llythrennedd darllen ymhlith dysgwyr Blwyddyn 5 ac yn rhoi mewnwelediad dwfn i sut mae plant yn datblygu sgiliau darllen hanfodol.
  • TIMSS (Yr Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth) 2027.
     Mae TIMSS yn asesu gwybodaeth dysgwyr mewn mathemateg a gwyddoniaeth, gan gynnig mewnwelediad rhyngwladol mewn perthynas â’r pynciau sylfaenol hyn.

A PIRLS yn cael ei gynnal ym mis Mai a Mehefin eleni, mae gweddill y blog hwn yn rhoi golwg fanylach ar baratoadau Cymru ar gyfer cylch 2026 a’r hyn y gall ysgolion ei ddisgwyl.

Nid bwriad TIMSS a PIRLS yw gyrru’r cwricwlwm na’r addysgu, ond byddant yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i’n helpu i ddeall sut orau i gefnogi ein dysgwyr i lwyddo.

PIRLS 2026: Cryfhau ein Dealltwriaeth o Ddarllen yng Nghymru

Gwella llythrennedd yw un o’n blaenoriaethau pennaf yng Nghymru o hyd. Er mwyn deall go iawn i ba raddau y mae ein dysgwyr yn symud ymlaen, a sut y gallwn eu cefnogi hyd yn oed yn well, mae angen tystiolaeth gadarn gymaradwy arnom sy’n meincnodi perfformiad Cymru yn erbyn safonau rhyngwladol. Dyna pam y cadarnhaodd Cymru ei bod am fod yn rhan o PIRLS 2026, astudiaeth fyd-eang fawr o lythrennedd darllen ymhlith dysgwyr Blwyddyn 5.

Mae PIRLS yn cynnig rhywbeth na allwn ei gynhyrchu ar ein pen ein hunain: mewnwelediad o ansawdd, wedi’i feincnodi’n rhyngwladol, i sut mae ein dysgwyr yn datblygu sgiliau darllen hanfodol ar gam allweddol yn eu haddysg. A darllen yn sail i lwyddiant ar draws y cwricwlwm, bydd y dystiolaeth y mae PIRLS yn ei darparu yn chwarae rôl bwysig wrth ein helpu i gryfhau addysgu a dysgu lle mae’n cyfrif fwyaf.

Cyflwyno PIRLS 2026 yng Nghymru

Rydym wedi penodi Pearson Education i weinyddu asesiadau PIRLS 2026 yng Nghymru. Mae eu rôl yn cynnwys gweithio’n agos gydag ysgolion sy’n cymryd rhan i’w helpu i gynllunio a sicrhau bod yr asesiadau yn rhedeg yn llyfn. Maent yn darparu arweiniad uniongyrchol a chefnogaeth ymarferol i gydlynwyr ysgolion a byddant yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt i ysgolion drwy gydol y cyfnod hwn.

Astudiaeth ar sail hapsamplau o gategorïau yw PIRLS. Caiff ysgolion eu dewis, felly, mewn ffordd sy’n sicrhau cymysgedd cytbwys o bob cwr o Gymru, a’r rheini’n cynrychioli gwahanol ardaloedd daearyddol, meintiau ysgolion, a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Rydym bellach wedi cwblhau’r gwaith o recriwtio ysgolion ar gyfer cylch 2026, ac rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion sydd wedi cytuno i gymryd rhan.

Disgwylir i oddeutu 4,000 o ddisgyblion Blwyddyn 5 o oddeutu 150 o ysgolion cynradd gymryd rhan pan fydd y brif astudiaeth yn cael ei chynnal ym mis Mai a Mehefin 2026.

Mae strategaeth gyfathrebu wedi’i thargedu eisoes ar y gweill i gefnogi ysgolion. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cadarnhau dyddiadau asesu a Gweinyddwyr Profion yn gynnar.
  • Diweddariadau rheolaidd drwy wefan PIRLS 2026, sy’n agored i bawb sydd am weld yr wybodaeth ddiweddaraf am yr astudiaeth. 
  • Galwadau ac e-byst dilynol i ysgolion.
  • Allgymorth wedi’i deilwra ar gyfer lleoliadau sydd angen cymorth ychwanegol.

Ein nod yw gwneud y broses o gymryd rhan mor llyfn a chefnogol â phosibl.

Clywed gan ddysgwyr, rhieni/gofalwyr ac athrawon

Mae PIRLS yn fwy na sgoriau profion yn unig. Er mwyn creu darlun llawn o brofiadau darllen yng Nghymru, gwahoddir dysgwyr, rhieni/gofalwyr, athrawon a phenaethiaid i gwblhau holiaduron ynghylch arferion darllen, agweddau ac amgylcheddau dysgu.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Plant yng Nghymru i sicrhau bod llais yn cael ei roi i ddysgwyr yn y broses hon. Bydd eu mewnbwn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn gefnogi plant i deimlo’n hyderus, yn barod ac yn bostif ynghylch cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Mae PIRLS 2026 yn gyfle arbennig, nid dim ond i fesur darllen, ond i ddeall yn well sut y gallwn helpu pob dysgwr yng Nghymru i ddatblygu sgiliau llythrennedd cryf ar gyfer y dyfodol.

Y darlun rhyngwladol ehangach: TIMSS 2027

Er mai PIRLS yw ein ffocws cyntaf, mae cymryd rhan yn TIMSS 2027 hefyd yn gyfle arbennig i gael mewnwelediad rhyngwladol i sut mae dysgwyr yn datblygu gwybodaeth hanfodol mewn mathemateg a gwyddoniaeth.

Bydd y broses o recriwtio ar gyfer TIMSS 2027 yn dechrau yn y flwyddyn academaidd newydd, a bydd tua 150 o ysgolion ledled Cymru yn cael eu dewis ar hap i gymryd rhan. Os gwahoddir eich ysgol chi i ymuno â’r sampl, byddem wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth wrth gymryd rhan. Bydd eich cyfranogiad yn helpu i sicrhau bod gan Gymru dystiolaeth gynrychioliadol o ansawdd ar sgiliau mathemateg a gwyddoniaeth dysgwyr.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading