Yn ddiweddar, cawsom y fraint o ddod ag enillwyr blaenorol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, Enillwyr Aur Addysgu Cenedlaethol a phartneriaid addysg at ei gilydd yn y Senedd i ddathlu’r gorau o addysgu yng Nghymru. Roedd clywed am bob taith, sut mae eu gwaith wedi tyfu, sut maen nhw’n parhau i arloesi, a sut maen nhw’n cefnogi eu dysgwyr, yn atgof pwerus o’r dalent a’r ymroddiad rhyfeddol yn ein proffesiwn.
Rîl Uchafbwyntiau
Nid yw’r straeon hyn yn adlewyrchu cyflawniad unigol yn unig; maent yn adlewyrchu ysbryd y gweithlu cyfan. Mae pob enghraifft yn dangos sut mae athrawon a staff cymorth ledled Cymru yn creu newid ystyrlon, o ddydd i ddydd, mewn ffyrdd sy’n adleisio trwy gydol bywydau dysgwyr.
Fe wnaethom hefyd gyflwyno Llysgenhadon Addysgu Cymru newydd, a fydd yn helpu i rannu bywiogrwydd a phwrpas addysgu gydag eraill. Mae eu hangerdd yn adlewyrchu’r hyn a welwn ar draws y system: cred yng ngrym addysg i drawsnewid bywydau.
Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth, bob dydd, mewn ffyrdd sy’n bwysig. Diolch yn fawr.
Gwyliwch uchafbwyntiau Llysgenhadon Addysgu Cymru yn ogystal â fideo sy’n arddangos enillwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.