Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar 21 Tachwedd, gan archwilio opsiynau ar gyfer newid calendr yr ysgol. Nod newidiadau yw gwella lles disgyblion a staff a chefnogi addysgu a dysgu, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson. Byddai’r newid cyntaf yn creu pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref, gan leihau toriad yr haf o wythnos. Ni fydd nifer y diwrnodau addysgu na’r gwyliau yn newid.
Un rheswm dros y newid sy’n cael eu cynnig yw bod tymor yr hydref yn hirach na’r lleill. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y tymor hwn yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff, gan fod mwy o addysgu yn cael ei wasgu i’r tymor hwn nag i unrhyw un arall.

Mae rhai disgyblion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd sydd dan anfantais yn ariannol a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ei chael yn anodd mynd yn ôl i ddysgu ar ôl gwyliau haf hir.
Gan fod gwyliau’r haf yn hir, rhaid neilltuo amser yn nhymor yr hydref i fynd dros bethau, yn hytrach na symud ymlaen gyda’r dysgu. Mae athrawon hefyd yn nodi mwy o faterion yn ymwneud ag ymddygiad a lles ar ôl gwyliau’r haf.
O dan y cynnig newydd, byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau’r haf a’i hychwanegu at wyliau mis Hydref, fel bod staff a dysgwyr yn cael mwy o amser i orffwys yn ystod tymor hir yr hydref.
Byddai’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud o fis Medi 2025, sy’n golygu y gall ysgolion cael pythefnos o wyliau ym mis Hydref 2025 a gwyliau haf pum wythnos yn 2026.
Byddai’r cynnig hefyd yn gwneud tymor y gwanwyn yn fwy cytbwys ac yn haws i gynllunio ar ei gyfer. Mae’r pythefnos o wyliau yn y gwanwyn bob amser yn cyd-fynd â’r Pasg, sy’n symud o gwmpas. Byddai cadw gwyliau’r gwanwyn yn gyson yng nghanol y tymor a’i wahanu oddi wrth y Pasg yn gwneud y tymor yn fwy cyson. Byddai gwyliau cyhoeddus Dydd Llun y Pasg a Dydd Gwener y Groglith yn dal i fod yn gymwys, a byddai amser addysgu am y dyddiau hyn yn cael ei gyflenwi ar adeg arall yn y flwyddyn.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio newidiadau ychwanegol y gellid eu datblygu yn y dyfodol, ond nid o 2025. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau’r haf a’i ychwanegu at wyliau’r Sulgwyn. Byddai hyn yn helpu i wneud y tymhorau’n debyg o ran hyd ac i wneud tymor yr haf yn fwy cyson, gan ei gwneud yn haws i ddisgyblion ddysgu ac i athrawon gynllunio. Yn yr achos hwn, gallai diwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch ddigwydd yn yr un wythnos. Byddwn yn edrych ar hyn dros y blynyddoedd nesaf, gan ddilyn yr un amserlen â’r broses o gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Mae sawl ardal yn y DU eisoes wedi gwneud newidiadau i’w calendrau.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
“Rydyn ni am wneud yn siŵr bod addysg yn gweithio orau i ddisgyblion, athrawon a theuluoedd. Rydyn ni’n edrych am farn pobl ar y newidiadau hyn a beth fyddai’n ei olygu iddyn nhw.”
Gellir dod o hyd i’r ymgynghoriad yma.
Gweler y datganiad i’r wasg yma.
A Datganiad Llafar y Gweinidog yma.