Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad â’r Bartneriaeth Dysgu Ryngwladol â Chymru: pwrpas a rennir, dysgu a rennir

Read this post in English

Amser darllen oddeutu 2 munud.

Ym mis Chwefror 2025, ymunodd cydweithwyr o Brifysgol Dwyrain Carolina a Phrifysgol Canolbarth Florida â phartneriaid Cymreig ar gyfer cyfnewid dysgu rhyngwladol wythnos o hyd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu Ysgolion Bro yng Nghymru. Gydag ymchwil, polisi ac ymarfer wrth wraidd yr ymweliad, a phrofiadau diwylliannol a ddaeth â hiraeth a cynefin yn fyw, tynnodd yr wythnos sylw at un neges graidd: rydym yn rhannu mwy o debygrwydd na gwahaniaethau, ac mae cydweithio byd-eang yn hanfodol i fynd i’r afael â heriau addysgol heddiw.

Dirprwyaeth o'r Unol Daliaethau yn sefyll o flaen Ysgol Gynradd Pencoed

Mae Ysgolion Bro yn rhan allweddol o raglen lywodraethu Cymru. Maent yn pwysleisio partneriaethau cryf gyda theuluoedd, cysylltiadau â chymunedau, a chydweithio â gwasanaethau aml-asiantaeth i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi. Mae’r dull hwn yn chwarae rhan ganolog wrth leihau effaith tlodi, codi cyflawniad, a chryfhau lles disgyblion a theuluoedd ledled Cymru.

Dechreuodd yr ymweliad yng Nghaerdydd, lle cafwyd trosolwg diddorol o hanes a diwylliant Cymru gan Edward Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Pencoed. Gosodwyd y cyd-destun yn gyntaf trwy sesiynau rhagarweiniol, gan gynnwys cyflwyniad gan y Cyngor Prydeinig, cyn i’r ddirprwyaeth gwrdd ag  arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru i archwilio sut mae strategaethau cenedlaethol yn sail i Ysgolion Bro.

Yn ystod yr wythnos, ymwelodd cydweithwyr â phum ysgol amrywiol, Ysgol Pen Rhos, Ysgol Gynradd Clwyd, Ysgol Clywedog, Ysgol Gynradd Pencoed, ac Ysgol Gynradd Maindee. Cawsant hefyd gyflwyniadau gan  awdurdodau lleol Wrecsam, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chonwy. Rhoddodd y cyfleoedd hyn persbectif unigryw ar sut mae dulliau Ysgol Bro yn cymryd siâp yn ymarferol, ar lefel ysgol ac ar lefel ranbarthol.

Ychwanegodd partneriaethau gyda Phrifysgol Wrecsam a Phrifysgol Abertawe ddimensiwn ymchwil cryf i’r ymweliad, gan gynnwys cyfraniad gwerthfawr gan  yr Athro Janet Goodall ar ymgysylltu â theuluoedd.

Trwy gydol yr ymweliad, daeth un thema bwerus i’r amlwg: er gwaethaf gweithio mewn gwahanol systemau, mae heriau a gobeithion addysg yn cael eu rhannu yn fyd-eang.

Ar draws Cymru, Gogledd Carolina, a Florida, mae ysgolion yn ymdrechu i:

  • adeiladu partneriaethau teuluol ystyrlon
  • ymgysylltu â, a gwasanaethu eu cymunedau
  • cydweithio â gwasanaethau ehangach i leihau rhwystrau
  • ymateb i effeithiau anfantais economaidd-gymdeithasol
  • creu cyfleoedd teg i bob dysgwr

Mae cydnabod yr heriau hyn a rennir yn atgyfnerthu gwerth cydweithredu rhyngwladol, a’r gred bod systemau addysgol yn cryfhau pan fyddant yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

Fel y mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn glir, nod Ysgolion Bro yw dod â theuluoedd, ysgolion a gwasanaethau at ei gilydd fel y gall pob dysgwr ffynnu. Dangosodd yr ymweliad hwn, pan fydd addysgwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar draws ffiniau cenedlaethol, symudwn yn agosach at wireddu’r weledigaeth honno ar gyfer pob plentyn.

Dr Suzanne Sarjeant

Ysgol Gynradd Pencoed

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading