Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau i Ganllawiau Cwricwlwm i Gymru – a thudalen adnoddau Hwb

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Diweddarwyd Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Ychwanegiadau neu ddiwygiadau i’r adrannau presennol yw’r newidiadau yn bennaf.

Bydd diweddariadau yn y dyfodol ym mis Ionawr, fel y gall ymarferwyr fod yn sicr eu bod yn hollol gyfredol drwy’r flwyddyn. Dewiswyd mis Ionawr i gyd-fynd orau â chylchoedd cynllunio’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae diweddariadau mis Ionawr eleni yn cynnwys:

  • Adran ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm’ ddiwygiedig i adlewyrchu bod y cwricwlwm bellach yn cael ei weithredu
  • Rhoi eglurder i’r naratif ar hanes Cymru yn y Maes Dyniaethau
  • Cywiriadau i rai diffiniadau a hyperddolenni
  • Mwy o eglurder drwy fân ddiwygiadau i’r naratif – mewn ymateb i adborth

Bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen yn datgelu a oes newid wedi’i wneud.

Ochr yn ochr â hyn, mae tudalen Adnoddau a Deunyddiau AtegolHwb newydd wedi cael ei chyhoeddi i’w gwneud yn haws canfod adnoddau sy’n benodol i’r Cwricwlwm i Gymru. Mae prosiect i adolygu’r holl adnoddau Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r cwricwlwm a nodi bylchau o ran adnoddau hefyd ar y gweill fel sy’n ymddangos yn y neges blog blaenorol hwn. Gwahoddir ymarferwyr i gymryd rhan yn y gwaith adolygu adnoddau, gyda hyfforddiant, cefnogaeth ac iawndal yn cael eu darparu i ysgolion y rhai sy’n gwneud hynny. Cysylltwch â’r tîm ar: cwricwlwmigymru@llyw.cymru

Astudiaethau achos newydd ac a ddiweddarwyd i gefnogi’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae un deg chwech o astudiaethau achos newydd a ddatblygwyd gan ysgolion a helpodd i greu’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella bellach wedi’u cyhoeddi ar Hwb.

Maen nhw yno i ddangos sut y gellir defnyddio’r cwestiynau trafod yn yr Adnodd wrth hunanwerthuso a gwella, gydag enghreifftiau ymarferol o ddulliau a chanlyniadau.

Mae’r holl astudiaethau achos blaenorol hefyd wedi’u diweddaru, gan ddangos pa ganlyniad mae’r dulliau a ddefnyddir wedi’u cael ar wella ysgolion.

Allwch chi helpu i sicrhau bod adnoddau Hwb yn gyson â’r Cwricwlwm i Gymru?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae adnoddau ar wefan Hwb yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n Cwricwlwm newydd – ac er mwyn eu gwneud yn haws dod o hyd iddyn nhw. Mae’n dasg enfawr a fydd yn parhau hyd nes bod pob un o’r 5,000 a mwy o adnoddau wedi’u hadolygu. Felly, dyma alwad i ymarferwyr helpu.

Mae tudalen lanio newydd ar gyfer yr Adnoddau wedi’i chynllunio i gynnwys yr adnoddau a’r deunyddiau ategol – ac mae’r rheini’n cael eu trefnu i gyd-fynd â phob Maes yn y Cwricwlwm

Mae ymarferwyr a staff Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau ar y gwaith adolygu hwn, gan ddefnyddio’r canllaw ar adnoddau fel eu maen prawf – ond estynnir gwahoddiad i ragor o ymarferwyr gymryd rhan. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i asesu adnoddau, ac ar yr un pryd cewch gyfle i gael syniad go iawn o’r hyn sydd ar gael.

Caiff sesiynau hyfforddi eu darparu a fydd yn cyflwyno’r broses a’r ffordd o fynd ati, gan ddefnyddio adnoddau a deunyddiau ategol go iawn.

Bydd cyllid ar gyfer athrawon cyflenwi gwerth £250 pro rata y dydd yn cael ei roi i’ch ysgol neu i’ch lleoliad os gallwch chi helpu gyda’r gwaith pwysig hwn.

Yn amodol ar gytundeb gan eich pennaeth, anfonwch e-bost i’r tîm adolygu drwy CurriculumforWales@llyw.cymru, gan gynnwys eich manylion o dan y penawdau a restrir isod. 

Enw

E-bost

Ysgol/lleoliad

Cynradd/ Uwchradd/ Arbennig

Cyfrwng Cymraeg /Saesneg

Y maes/meysydd o ddiddordeb ichi – Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Llesiant, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dysgu Sylfaen [cofiwch gynnwys manylion am agweddau penodol eraill ar y cwricwlwm y gallech fod ag arbenigedd ynddynt – ee Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, llythrennedd, rhifedd, gwybodaeth ddigidol, dysgu yn yr awyr agored, ac ati]

Ym mis Ebrill eleni, bydd ‘Adnodd’, sef cwmni adnoddau addysgol newydd, yn cael ei ffurfio i alluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol o’r radd flaenaf a deunyddiau ategol yn Gymraeg ac yn Saesneg, i gefnogi addysgu’r Cwricwlwm a’i gymwysterau. Ni fydd Adnodd yn cyhoeddi adnoddau ei hun, ei nod yw galluogi’r cynhyrchu o adnoddau mewn ffordd fwy strategol a chydgysylltiedig, gan weithio gydag ymarferwyr, cyhoeddwyr, datblygwyr a sefydliadau eraill i greu adnoddau o ansawdd uchel i ysgolion, lleoliadau a dysgwyr.

Canser y Coluddyn – Ysgol Uwchradd Pontypridd yn dysgu ac yn rhannu

Gweler neges debyg yn Saesneg

Gan gydnabod mai achosion o ganser y colon a’r rhefr yn ardal ein hawdurdod lleol (Rhondda Cynon Taf) yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin, a bod nifer yr achosion yn uwch na’r cyfartaledd ledled Cymru, ffurfiwyd partneriaeth gychwynnol rhwng Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Elusen Ganser Moondance yn 2019. Gweithiodd Ysgol Uwchradd Pontypridd mewn partneriaeth ag ystod o weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y nod oedd cyflwyno rhaglen addysg a allai gefnogi gwaith cydweithwyr iechyd mewn perthynas â’r mater iechyd critigol hwn, ond un y gellir ei drin. Byddai’r rhaglen yn ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol i’n disgyblion ac i oedolion yn y gymuned leol.

Mae gwella dealltwriaeth disgyblion o ganser ac yn benodol canser y coluddyn – o’r achosion i’r sgrinio a’r cyfraddau gwella – wedi bod yn ganolbwynt i’r rhaglen ddysgu. Mae pwysigrwydd sgrinio fel rhan o’r dysgu hwn yn hanfodol, gan fod diagnosis a thriniaeth gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi llawer uwch. Mewn rhai ardaloedd yn nalgylch yr ysgol mae data sgrinio’n dangos bod y gyfradd ar gyfer yr oedolion cymwys hynny sy’n manteisio ar brofion sgrinio yn is na 50%, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol sy’n uwch na 60%.

Wrth ymateb i’r ystadegyn difrifol hwnnw, mae disgyblion wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd i helpu i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned, gan weithio drwy’r rhaglen ddysgu i gyfleu’r neges bwysig hon i rieni, gofalwyr ac aelodau eraill o’r teulu.

Gan adeiladu ar y gwaith peilot llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, tyfodd y prosiect yn 2021/22 i gynnwys chwe ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf a hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r bartneriaeth a’r cydweithio rhwng gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol wedi bod yn hanfodol i ansawdd yr adnoddau a’r dysgu sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen hon ac mae pob ysgol wedi gallu datblygu model cyflwyno newydd – yn ei ffordd ei hun – o fewn ei hardal.

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg werthusiadau ei hun o waith y chwe ysgol, a daeth i’r casgliad bod 115% o gynnydd wedi bod yn y galw am becynnau sgrinio’r coluddyn yn ardal leol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd y chwe ysgol wedi cyflwyno’r rhaglen. Roedd hyn o’i gymharu â chynnydd o 22% mewn ardal gyfagos yn yr awdurdod lleol. Yn ogystal â hynny, adroddwyd bod cynnydd o 72% wedi bod yn nifer y profion sgrinio a gafodd eu dychwelyd yn ein hardal – sy’n arwyddocaol – ac fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd fod y gwaith mewn ysgolion wedi cyfrannu’n fawr at y gwelliant hwn.

Mae’r effaith o ran ennyn diddordeb disgyblion hefyd wedi bod yn glir, ac mae pob ysgol wedi bod yn datblygu’r prosiect wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7 ac 8. Mae’r gwersi wedi meithrin sgiliau trawsbynciol ac wedi cwmpasu Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; ac Iechyd a Lles, ac mae’r cyd-destun yn dod â realiti bywyd go iawn i’r dosbarth.

Dywedodd y cydlynydd, Marie Sidoli, “Mae’r disgyblion yn gweld ‘pam’ mae angen dysgu wrth weithio gydag ystadegau iechyd gwirioneddol fel y rhai ar gyfer canser y coluddyn ac mae’n ennyn diddordeb mawr ynddyn nhw. Ac wrth gwrs, mae’r prosiect cyfan yn cyd-fynd yn naturiol â’r pedwar diben.”

Read more

Diolch ichi gyd a Nadolig Llawen!

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru ar waith bellach ym mhob un o’n hysgolion cynradd ac yn nifer o’n hysgolion uwchradd. Diolch ichi athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, arweinwyr ysgolion a holl staff yr ysgolion am eich cymorth wrth sicrhau hyn ar gyfer eich disgyblion.

Bydd y gyfres o adnoddau i’ch cefnogi yn parhau i dyfu yn 2023 diolch i garedigrwydd ysgolion sy’n darparu rhestr chwarae neu yn croesawu ein criw ffilmio i’w dal nhw wrth eu gwaith. Ceir rhai o uchafbwyntiau 2022 isod, ond os ydych yn credu bod gennych bersbectif diddorol i’w rannu, gadewch inni wybod ar bob cyfri!

A neges Nadolig i chi gyd!

48 o adnoddau Dysgu Proffesiynol, mewn un rhestr, gyda dolenni

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mewn ymateb i alw, mae grŵp gwych o adnoddau a ddatblygwyd gan ysgolion, ar gyfer ysgolion, wedi’u cyfuno mewn PDF sy’n hawdd ei chwilio.

Mae 48 o restrau chwarae/cyflwyniadau wedi’u cynnwys, sy’n cwmpasu dysgu proffesiynol staff, datblygu gweledigaeth ysgol gyfan, gweithredu’r cwricwlwm, modelu arweinyddiaeth dysgu, a sefydlu diwylliant o newid.

Mae’r adnoddau i gyd yn ymddangos ar Hwb, ond mae’r rhestr gyfeirio gyflym hon yn ei gwneud yn haws chwilio amdanynt.

I weld y cefndir llawn a’r wybodaeth ategol, gweler y Daith Dysgu Proffesiynol ar Hwb.

Ysgol Gynradd Santes Gwladys, Bargod – Dull ysgol gyfan o ymdrin ag Ieithoedd Rhyngwladol, ein taith hyd yn hyn…

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae dysgu iaith yn rhoi mwy nag un ffenestr i edrych ar y byd.  Heb os, mae’r ddihareb Tsieineaidd hon yn taro tant i ni yma yn Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed lle rydym yn croesawu dysgu iaith fel Ysgol Gynradd Amlieithog Arweiniol. 

Gan ein bod yn gweithio yng nghymoedd y De mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, mae gennym ddysgwyr nad ydynt efallai wedi ymweld â Chaerdydd, heb sôn am Loegr neu du hwnt; Felly, teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnom i ddarparu profiadau dysgu sy’n dod â’r byd i’n dysgwyr. Y Datganiad Yr Hyn Sy’n Bwysig 1 ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw ein mantra i raddau helaeth iawn; i wreiddio hunaniaeth greadigol a balch sy’n croesawu amrywiaeth yn ein hysgol.

Rhan annatod o’n darpariaeth Ieithoedd Rhyngwladol oedd sicrhau yn gyntaf bod gan ein dysgwyr ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth Gymreig a balchder yn eu cymuned.  Fel rhan o gwestiwn yr ymholiad: Pwy ti’n feddwl wyt ti? mae dysgwyr yn dysgu ei fod ymhell o fod yn gwestiwn syml gan fod yn rhaid iddyn nhw ymrafael o ddifrif â’u dealltwriaeth o hunaniaeth. Yn yr ymholiad hwn, mae dysgwyr yn mynd allan i’w bro ac yn edrych ar ddata’r cyfrifiad, mapiau a ffotograffau er mwyn rhoi dealltwriaeth dda iddynt o ble maen nhw’n byw nawr ac yn y gorffennol. Rydym yn ceisio cynnig ffyrdd ystyrlon i ddysgwyr archwilio pynciau fel ymfudo, hiraeth a chynefin hefyd.  Trwy ddysgu am eu treftadaeth a’u cymuned bresennol, mae dysgwyr yn ceisio gwneud synnwyr o bwy ydyn nhw a’u lle yn y byd.

Gwyddom fod meithrin ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth ein dysgwyr, boed yr un fath neu’n wahanol i’w cyfoedion, yn bwysig. Wrth gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol, felly, roeddem yn gwybod bod angen darlun clir o gymuned ein hysgol fel y gallai cyflawni ein cwricwlwm ddathlu ac adlewyrchu ein teuluoedd. Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni oedd archwilio ein poblogaeth ysgol i ddarganfod yr amrywiaeth o ieithoedd sy’n cael eu siarad ac estyn allan i deuluoedd yn ein cymuned i rannu eu hunaniaeth ddiwylliannol gyda ni. Fe wnaethom ddarganfod amryw o ieithoedd a siaredir yn y cartrefi: Tyrceg, Pwyleg, Tsieinëeg, Groeg a Sinhaleg ac roeddem yn falch iawn o glywed gan rieni a brodyr a chwiorydd hŷn a oedd yn cynnig addysgu patrymau iaith a gwelsom gyflwyniadau am eu diwylliant a rannwyd mewn gwasanaethau dosbarth.  Mae gennym gynorthwyydd dysgu o Lithwania ac un arall o Ynysoedd Philippines, sy’n cyfoethogi dysgu mewn ffordd debyg wrth iddynt rannu agweddau ar eu hiaith a’u diwylliant gyda’r ysgol.

Read more

Sut lwyddon ni i helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol – a pham

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn ymrwymiad Gweinidogol i ddysgu proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd. Ond mae’n bwysig nodi iddi gael ei datblygu ar y cyd gan y rhai hynny sy’n ymwneud â maes dysgu proffesiynol.

Mae dau o’r bobl hynny a oedd yn rhan o’r gwaith o’i datblygu ar y cyd, sef Dan Davies, Partner Arweiniol Dysgu Proffesiynol o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysg, a Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De, yn egluro eu rôl wrth ddatblygu’r Hawl, ac yn rhoi gwybod pam maen nhw’n teimlo ei bod yn bwysig, a beth maen nhw’n meddwl y gall yr Hawl ei gyflawni.

Clara Seery

Beth oedd cyfraniad Consortiwm Canolbarth y De at y gwaith o ddatblygu’r Hawl ar y cyd?

Buon ni’n hwyluso grwpiau o randdeiliaid ar y cyd â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau gweithlu ysgolion yn ein rhanbarth yn cael eu clywed a’u defnyddio i lunio’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Roedden ni’n awyddus i sicrhau y byddai’r hawl yn cefnogi arweinwyr, athrawon, cynorthwywyr addysgu, a’r consortia i wella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr. Roedd Consortiwm Canolbarth y De, fel pob rhanbarth, yn gallu ystyried rolau a chyfrifoldebau’r haen ganol yn ofalus.

Pam mae’r Hawl yn bwysig i arweinwyr ysgolion?

Mae’r Hawl yn rhoi’r mandad i arweinwyr wireddu’r hyn rydyn ni’n ei wybod am bwysigrwydd dysgu proffesiynol.  Mae’n cefnogi sgyrsiau proffesiynol ynghylch sut y gallai dysgu proffesiynol edrych a’r ffordd orau i ennyn diddordeb gweithwyr proffesiynol. Mae’n hyrwyddo diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus i bawb yn unol â datblygu ein hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae hefyd yn sicrhau bod yr arweinwyr eu hunain yn ystyried eu hawl, ynghyd â’r rhai y maent yn eu cefnogi, i gael mynediad at ddysgu proffesiynol

Sut bydd yr Hawl yn effeithio ar y ffordd y mae rhanbarthau a phartneriaethau yn gweithio?

Byddwn ni’n parhau i siarad ag arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr i ddarparu cynnig eang a chytbwys ar gyfer dysgu proffesiynol sy’n cynnig pecynnau cymorth pwrpasol i alluogi ysgolion i fanteisio ar yr hyn sydd ei angen arnynt. Byddwn ni’n sicrhau bod ein staff i gyd yn ymwybodol o’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol, gan hyrwyddo’r ffordd hon o weithio mewn ysgolion gydag arweinwyr a staff ar bob lefel.

Sut bydd yr Hawl yn gwneud gwahaniaeth go iawn?

Mae’r hyn y gall unrhyw newid polisi ei gyflawni yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei weithredu.  Ac mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae yn hynny o beth.  Os ydyn ni am gael system sy’n cefnogi dysgu proffesiynol trawsnewidiol fel norm, bydd yr hawl, a’r disgwyliadau sy’n rhan ohoni, yn cefnogi’r system i wireddu dyheadau’r diwygiadau.

Dan Davies:

Beth oedd eich rôl chi yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol?

Fel rhanbarth, buon ni’n cydweithio i ddatblygu’r hawl ar gyfer dysgu proffesiynol gyda Llywodraeth Cymru. Roedden ni’n rhan o’r meddylfryd cychwynnol y tu ôl i’r hawl ac yn cynnig adborth ar ddrafftiau cynnar. Rydyn ni hefyd wedi bod yn rhan o rannu’r meddylfryd hwnnw ag ysgolion yn ein rhanbarth a’r tu hwnt. Rwy’n credu ei fod yn sbardun allweddol i allu gwireddu’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yn y Cwricwlwm i Gymru.

Pam mae’n bwysig i bartneriaethau rhanbarthol?

Mae’r ddogfen yn arwyddocaol am ei bod yn pennu disgwyliadau clir ar gyfer unigolion, ysgolion, a rhanbarthau. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu proffesiynol i bawb sy’n rhan o’n system, ac yn cefnogi ein cynnig rhanbarthol. Mae’n ein herio ni i newid ein ffordd o feddwl rywfaint mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Hynny yw, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i ni, mae cyfrifoldeb arnon ni i arwain ein dysgu proffesiynol ein hunain. Bydd hyn, yn fy marn i, yn cael effaith gadarnhaol ar les ymarferwyr, ac yn rhoi ymdeimlad o foddhad iddyn nhw ynghylch eu gwaith. 

Beth mae’n ei olygu i ymarferwyr gan gynnwys cynorthwywyr addysgu?

Heb os, mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol i bawb syn rhan o’r system addysg. Mae’n nodi’n glir beth mae gan weithwyr proffesiynol yr hawl iddo, a beth mae hynny’n ei olygu pan fydd hwnnw’n effeithiol iawn. Mae hefyd yn ein herio ni i fynd ati i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol, a chynllunio ein dysgu ein hunain. Rwy’n arbennig o hoff o’r gair hawl gan ei fod yn rhoi mwy o rym i bwysigrwydd dysgu proffesiynol.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd yn ei gyflawni?

Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl i gydweithiwr ddweud “nad oedd modd datblygu’r cwricwlwm heb ddatblygu’r bobl sy’n ymwneud ag e”. Roedd hyn yn taro deuddeg i mi ar y pryd ac yn dal i wneud synnwyr i mi heddiw. Os ydyn ni am ddatblygu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol, yna mae’n rhaid i ni ddatblygu ein gweithlu addysg. Mae’r hawl yn rhoi dysgu proffesiynol ar frig yr agenda, ac rwy’n siŵr y bydd hwnnw’n cefnogi ein gallu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru a gwella canlyniadau i’n dysgwyr.

Gweler y rhaglen genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol o’n partneriaethau rhanbarthol yma.

Deunyddiau ar gyfer Gweithdai Cynnydd ac Asesu – yn barod i’w defnyddio gan ysgolion

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae cyfres o weithdai ar gael ar Hwb i helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau ym maes hanfodol o ddefnyddio asesiad i gefnogi cynnydd. Mae gwaith ymchwil ac arbenigedd athrawon wedi bod yn ganolog i’w datblygiad.

Mae’r gweithdai hyn yn helpu ymarferwyr i wella eu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu a’r berthynas bwysig rhyngddynt. Yn y pen draw, maent wedi’u cynllunio i helpu i ddatblygu dulliau asesu sy’n sicrhau bod cynnydd wrth ddysgu yn symud ymlaen, yn hytrach na phrofi’r hyn sy’n cael ei ddysgu ar y pryd.

Mae’r chwe gweithdy wedi’u trefnu mewn tri phâr – a phob pâr yn ymdrin â thema bwysig sy’n gysylltiedig ag asesu a chynllunio cwricwlwm o dan y Cwricwlwm i Gymru:

  • Gweithdai 1 a 2: cynnydd ac asesu
  • Gweithdai 3 a 4: y dysgwr wrth galon yr asesiad
  • Gweithdai 5 a 6: integreiddio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg

Mae’r deunyddiau ar gael am ddim i unrhyw ysgol neu ymarferwyr eu defnyddio. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:

  • Er bod y chwe gweithdy’n gysylltiedig mewn cyfres, gall ymarferwyr ddefnyddio unrhyw un neu rai ohonynt fel y dewisant os yw’r cynnwys yn berthnasol i’w hanghenion ar y pryd
  • Os yw’r chwe gweithdy’n cael eu defnyddio fel cyfres, gall ymarferwyr amrywio faint o sylw ac amser a roddir i weithgaredd neu thema benodol
  • Argymhellir defnyddio’r gweithdai yn gydweithredol:: gellir trefnu cydweithredu o fewn ysgol neu leoliad, neu ar draws clwstwr (e.e. ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd cysylltiedig), neu o fewn rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli
  • Gellir trefnu gweithgareddau cydweithredu a hwyluso cyfranogiad, a chefnogi hynny o’r gwaelod i fyny, neu eu datblygu drwy gymorth allanol  
  • Er bod cyfranogiad cydweithredol yn cael ei argymell, gall ymarferwyr unigol barhau i ddefnyddio’r deunyddiau yn fuddiol ar gyfer datblygiad personol

Mae staff mewn partneriaethau a chonsortia rhanbarthol yn barod i gynghori a chefnogi cydweithwyr i ddefnyddio adnoddau’r gweithdai. Gallwch gysylltu â’r canlynol:

Partneriaeth Sir Gaerfyrddin-Sir Benfro-Abertawe – Debbie Moon – DEBBIE.MOON@partneriaeth.cymru

Partneriaeth Canolbarth Cymru – Chris Davies – christopher.davies2@powys.gov.uk/

Consortiwm Canolbarth y De – Kath Lewis – Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk

Consortiwm GwE – Dafydd Rhys – dafyddrhys@gwegogledd.cymru

Consortiwm GCA – James Kent – James.Kent@sewaleseas.org.uk

Awdurdod Lleol Casnewydd – Owain Hywett – o.hyett@npt.gov.uk

Dod o hyd i’r ffordd orau i fynd i’r afael â Chanllawiau Cwricwlwm i Gymru

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae Canllawiau Cwricwlwm i Gymru o reidrwydd yn eithaf mawr – mae’n cynnwys cwricwlwm cyfan ar gyfer 3 i 16 oed. Dydy penderfynu ar ble i ddechrau darllen, a sut i ffeindio’ch ffordd drwyddo i gael y gorau ohono ddim bob amser yn amlwg.

Bydd yr esboniwr byr hwn yn dangos y lle gorau i chi ddechrau, gan helpu i sicrhau nad ydych yn rhuthro’n syth at y  manylion ac yn methu’r pethau sylfaenol.