Neidio i'r prif gynnwy

Dull newydd o ddatblygu athrawon yng Nghymru

Read this post in English

Gan ddechrau ym mis Medi 2025, mae Cymru yn ailwampio sut mae athrawon a staff y sector addysg yn datblygu eu sgiliau. Bydd Corff Addysg Cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth yng Nghymru yn dwyn dysgu proffesiynol ledled y wlad ynghyd. Nod y dull hwn yw creu system unedig sy’n darparu cymorth cyson ar gyfer gwella canlyniadau dysgu.

Yn ystod cyfnod trosi ei flwyddyn gyntaf, bydd y sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb am raglenni cenedlaethol mewn meysydd fel llythrennedd, rhifedd a lles, ochr yn ochr â chymorth i arweinwyr.

Bydd gwaith a gallu’r corff yn datblygu yn unol â thair thema allweddol: Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth; Cwricwlwm ac Addysgu; a Lles a Chynhwysiant, a bydd yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldebau a reolwyd yn flaenorol gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) a’r consortia rhanbarthol, gan gynnwys cefnogi cynorthwywyr addysgu.

Gyda tua 25 aelod yn y tîm a chyllideb gychwynnol o £6m, ac yn codi wrth i’r corff gymryd cyfrifoldeb am feysydd pellach, bydd y sefydliad newydd hwn yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar bolisi, ag Estyn ar ganfyddiadau arolygu a materion cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg, ac ag awdurdodau lleol a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant wedi’i deilwra i fynd i’r afael ag anghenion penodol ysgolion drwy fodelau trosglwyddo o ysgol i ysgol. 

Mae’r ad-drefnu hwn yn cynrychioli newid sylweddol tuag at ddull symlach a chyson o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer addysg yng Nghymru – sydd â’r nod yn y pen draw o gefnogi addysgwyr yn well a gwella canlyniadau i ddysgwyr ledled Cymru.

Dilynwch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd fel rhan o’r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion:

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading