Pam ydym yn newid ein ffordd o gefnogi ysgolion
Dywedwyd wrthym fod ein system addysg wedi cael ei llethu gan gymhlethdod, gyda gormod o sefydliadau sy’n gorgyffwrdd, ffrydiau cyllido dryslyd, ac ymdeimlad bod gwelliant yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i ysgolion yn hytrach na phroses o gydweithio â nhw.
Rydych wedi dweud wrthym eich bod angen:
- Adnoddau mwy uniongyrchol ar gyfer eich ystafelloedd dosbarth
- Llai o fiwrocratiaeth a strwythurau cymorth cliriach
- Llais cryfach yn y ffordd y mae gwelliant yn digwydd
- Mwy o gydweithio â chydweithwyr sy’n deall eich heriau
- Datblygiad proffesiynol sy’n diwallu eich anghenion mewn gwirionedd
Y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion yw ein hymateb i’r pryderon hyn, ac mae’n allweddol i sbarduno newid, gan eich rhoi chi, y gweithlu addysg, wrth wraidd codi safonau ledled Cymru.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi yn ymarferol?
Os ydych chi’n athro dosbarth neu’n staff cymorth:
- Cymorth mwy penodol ar addysgu llythrennedd a rhifedd – Rydym yn buddsoddi £1.1 miliwn mewn rhaglenni sydd wedi’u targedu i helpu plant i ddatblygu sgiliau darllen a dealltwriaeth fathemategol, gydag adnoddau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich ystafell ddosbarth
- Disgwyliadau cliriach – Bydd canllawiau newydd ar lythrennedd a rhifedd yn eich helpu i ddeall yn union beth ddylai myfyrwyr ei gyflawni ym mhob cam
- Datblygiad proffesiynol symlach – O fis Medi 2025 ymlaen, bydd corff dysgu proffesiynol newydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi clir, cyson y gallwch gael gafael arnynt waeth ble rydych yn addysgu
- Mwy o gydweithredu rhwng ysgolion – Byddwch yn cael mwy o gyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr sy’n wynebu heriau tebyg a dysgu ganddynt
Os ydych chi’n arweinydd ysgol:
- Mwy o ymreolaeth wrth arwain gwelliant – Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch awdurdod lleol ar flaenoriaethau gwella ym mhob maes addysg
- Cyllid symlach – Mae prosesau grant symlach yn golygu llai o waith papur a mwy o adnoddau yn cyrraedd eich ysgol
- Mewnbwn uniongyrchol i flaenoriaethau cenedlaethol – Bydd Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd ar gyfer Penaethiaid yn sicrhau bod eich llais yn llywio polisi addysg
- Cymorth arbenigol pan fydd ei angen arnoch – Bydd y Tîm Gwella Addysg newydd yn eich cysylltu ag atebion i’ch heriau mwyaf dybryd
Os ydych chi’n arweinydd addysg mewn awdurdod lleol:
- Rôl gliriach wrth gefnogi ysgolion – Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion mewn model partneriaeth gydweithredol
- Mwy o gyllid – Bydd cynnydd o 5.5% yng Ngrant Addysg yr Awdurdodau Lleol (cyfanswm o bron i £400m) yn cefnogi eich gwaith
- Gwell darpariaeth dysgu proffesiynol – Bydd y corff cenedlaethol newydd yn gweithio gyda chi i sicrhau ansawdd cyson ledled Cymru
Beth sy’n wahanol am y dull hwn?
Ymreolaeth broffesiynol wrth ei wraidd: Nid yw hon yn fenter o’r brig i lawr arall. Mae eich arbenigedd a’ch arweinyddiaeth yn hanfodol i wneud iddo weithio.
Canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: Rydym yn blaenoriaethu’r hanfodion – presenoldeb, llythrennedd, rhifedd a lles – gan roi eglurder i chi ar beth i ganolbwyntio arno.
Lleihau cymhlethdod: Rydym yn symleiddio’r system, gyda llai o sefydliadau a chyfrifoldebau cliriach.
Creu partneriaethau dilys: Ysgolion, awdurdodau lleol, a llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd yn hytrach nag mewn hierarchaethau.
Cefnogi ymarfer yn yr ystafell ddosbarth: Bydd ein hadnoddau a’n hyfforddiant yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddysgu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Ionawr-haf 2025: Cynigion awdurdodau lleol ar gyfer eich ardal yn cael eu gweithredu a’r broses bontio yn cael ei chwblhau
- Gwanwyn/haf 2025 Ffurfio corff Dysgu Proffesiynol newydd
- Medi 2025: Y corff Dysgu Proffesiynol newydd yn dod yn gwbl weithredol
- Erbyn Ebrill 2026: Pob ysgol yn ymwneud â phartneriaethau gwella cydweithredol
Sut allaf gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd?
Rydym wedi ymrwymo i wneud i’r pontio hwn weithio i chi a’ch dysgwyr, ac mae eich hysbysu am unrhyw ddatblygiadau yn flaenoriaeth i ni.
Dilynwch ein sianeli:
Addysg Cymru | Facebook
Llywodraeth Cymru Addysg (@LlC_Addysg) / X
Lynne & Vikki (@AddysgEducation) / X
Addysg Cymru / Education Wales – YouTube
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system addysg lle mae pob athro yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i helpu pob plentyn i lwyddo.