Gan Meurig Jones, Prifathro Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ymgynghorydd Proffesiynol, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru

I ni fel arweinwyr ysgolion yng Nghymru, mae’n dda gweld newidiadau o flwyddyn academaidd 2025/26 i’r cyllid grant sydd ar gael i ysgolion sy’n cefnogi myfyrwyr ar raglenni TAR cyflogedig. Bydd y newidiadau hyn yn galluogi mwy o’n hysgolion i gael mynediad at y cyllid hwn nawr, ac mewn rhai achosion ar gyfradd uwch na chynt.
Beth yw’r TAR Cyflogedig a sut y gallai fod o fudd i fy ysgol?
Y TAR Cyflogedig yw rhaglen addysg gychwynnol athrawon (AGA) Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar gyflogaeth, a ddarperir gan Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored. Mae myfyrwyr TAR cyflogedig yn cael eu cyflogi gan ysgol i gyflawni dyletswyddau a dysgu i fod yn athro â statws athro cymwysedig tra maent yn ennill cyflog. Mae’r opsiwn hwn yn cynyddu’r cyfleoedd i’r rhai sy’n ceisio ymuno â’r proffesiwn gwerth chweil hwn, mewn ffordd fwy hyblyg.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu cost lawn hyfforddiant myfyriwr TAR cyflogedig ynghyd â chyfraniad at gyflog yr athro dan hyfforddiant i’r ysgol sy’n ei gyflogi. Fel ysgol sy’n cefnogi athro dan hyfforddiant TAR Cyflogedig, rydym yn dod yn rhan o Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored. Mae llawer o fanteision i ymuno â phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored, gan fod y cymorth a gynigir i athro dan hyfforddiant TAR cyflogedig yn cynnwys:
- cyfle i’ch ysgol dyfu ei hathrawon eich hun– datblygu athrawon sy’n deall anghenion ac addysg eich dysgwyr, a’u cymuned ac a allai hefyd fod o fudd i ysgolion eraill yn y gymuned ehangach
- datblygu ac arallgyfeirio eich cymuned addysgu drwy gefnogi rhai ag uchelgais i fod yn athrawon nad ydynt yn gallu cael mynediad at raglenni AGA amser llawn
- cymhellion ariannol, hyfforddiant pwrpasol a datblygiad proffesiynol cyffrous i’n staff mentora yn yr ysgol – gan gefnogi a datblygu eich ysgol ymhellach fel sefydliad sy’n dysgu.
Mae gan Ysgol Dyffryn Conwy yn y Gogledd chwech o athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglen TAR Cyflogedig eleni. Dywedodd y Pennaeth ,Owain Gethin Davies
“Mae’r cynllun llwybr cyflogedig wedi ei gwneud yn bosibl inni recriwtio’r athrawon gorau ac adeiladu gweithlu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig mewn pynciau allweddol fel Cymraeg neu Fathemateg.”
Gweithlu addysgu wedi’i wneud yng Nghymru | LLYWODRAETH. CYMRU
Beth sydd wedi newid o ran meini prawf y cyllid grant?
O flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen, gall ysgolion cynradd gael mynediad at y grant cyfrannu at gyflog pan fyddant yn cefnogi a chyflogi athro dan hyfforddiant ar y rhaglen TAR Cyflogedig.
Gall ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oedran ar draws ystod ehangach o gategorïau iaith (e.e. T2, C2, T3) gael mynediad at gyfradd uwch y grant cyfrannu at gyflog, sef 100%, pan fyddant yn cefnogi a chyflogi athro dan hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ar y rhaglen TAR Cyflogedig, ynghyd â’r rhai sy’n dymuno addysgu’r Gymraeg mewn lleoliadau addysg uwchradd cyfrwng Saesneg.
Ewch i wefan y Brifysgol Agored https://university.open.ac.uk/wales/en/our-work/ou-ite-partnership os ydych chi:
- yn ysgol sy’n dymuno cefnogi aelod presennol o staff nad ydynt yn addysgu i ymuno â’r rhaglen TAR Cyflogedig
- â diddordeb mewn gweithio gyda Phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored i ddod o hyd i athro dan hyfforddiant TAR Cyflogedig i weithio yn eich ysgol
Mae canllawiau a gwybodaeth am y cyllid grant sydd ar gael i ymgeiswyr ac i ysgolion sydd â diddordeb mewn cefnogi athro dan hyfforddiant TAR cyflogedig ar gael yma hefyd https://www.llyw.cymru/tystysgrif-addysg-i-raddedigion-tar-cyflogedig
Sut gall fy ysgol gymryd rhan mewn cefnogi athrawon yfory?
Beth am ddod yn Ysgol Bartner AGA? Ers 2019 mae AGA yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy bartneriaethau ysgolion a phrifysgolion. Mae ysgolion partner AGA yn hanfodol i ddatblygiad y genhedlaeth nesaf o athrawon. Mae ar bob Partneriaeth AGA yng Nghymru angen ysgolion i lunio, mireinio a chyflwyno rhaglenni AGA. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod sut y gall eich ysgol gymryd rhan, bydd Partneriaethau AGA Cymru yn falch o glywed gennych:
- CaBan (Prifysgol Bangor)
- Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon (Met Caerdydd)
- Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
- Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored
- Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon Prifysgol De Cymru
- Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac Abertawe)