Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrdodau ddechrau’r tymor – Anna Brychan, Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Read this post in English

Un o bleserau mawr bywyd gweinidog addysg yw ymweld ag ysgolion – cwrdd â dysgwyr, arweinwyr, athrawon, cynorthwywyr addysgu a’r holl bobl anhygoel sy’n rhan o gymuned glos ein hysgolion. Dyna pam rwy wedi ymrwymo i ymweld ag ysgol bob wythnos tra mod i yn y swydd.

Ers dod yn Weinidog ym mis Mai, rwy wedi ymweld ag ysgolion o Ynys Môn i Dorfaen a beth sy’n fy nharo dro ar ôl tro yw’r holl waith sy’n digwydd, nid yn unig i addysgu ein plant,  ond y cyfraniad ehangach hefyd – o fwyd a hwyl i’r ymdrech wirioneddol i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo eu bod yn perthyn.

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â mwy ohonoch yn yr Hydref, wrth ymweld â’n hysgolion, ac mewn cynhadledd prifathrawon sy’n cael ei drefnu wedi hanner tymor – dyddiad i’w gadarnhau yn fuan.

Rwy’n falch ein bod ni wedi cyflawni’r hyn a ddwedon ni y bydden ni’n ei wneud yn ein 100 diwrnod cyntaf fel Llywodraeth.

Fe gyhoeddon ni gynnydd yn y cymhellion i ddenu darpar athrawon, ymrwymo i gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i deuluoedd ar gredyd cynhwysol, a datblygu canllawiau statudol cenedlaethol i gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar y canllawiau y tymor hwn.

Roedd yr haf hefyd yn gyfle i ddathlu. Derbyniodd miloedd o ddysgwyr eu cymwysterau TGAU, Lefel A, a galwedigaethol, ac roedd hi’n bleser pur cael mwynhau bwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond mae angen cydnabod bod yna feysydd i’w datrys, gan gynnwys cytuno ar ffordd ymlaen ar Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rwy’n deall ac yn cydnabod y pwysau ar ein gweithlu, ysgolion a lleoliadau i gefnogi’n dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Rwy’n gweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol i adeiladu ffordd ar y cyd o gefnogi’r system ADY, fel bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn, i ddiwallu eu hanghenion.

Rwy wedi dweud mwy nag unwaith mai dysgu yw un o’r proffesiynau mwyaf gwerth chweil, ond rwy’n gwerthfawrogi bod yr holl ddiwygiadau wedi cael effaith. Rwy wedi clywed wrthoch chi am eich pryderon am yr effaith ar ein dysgwyr, gan gynnwys y sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol sydd eu hangen arnynt i gael y budd llawn o’r Cwricwlwm i Gymru.

Dyna pam fy mhrif ffocws fel Gweinidog y Cabinet bydd ar wella llythrennedd a rhifedd. Cyn diwedd y tymor, ysgrifennais at ysgolion, gan amlinellu ein cynlluniau i  wella llythrennedd a rhifedd yng Nghymru, drwy ddarparu cefnogaeth fwy cyson i bob ysgol yng Nghymru, yng nghyd-destun Cwricwlwm Cymru, a chreu dangosyddion cenedlaethol newydd i fonitro cynnydd. Byddai’n cyhoeddi ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn amlinellu’r gefnogaeth y bydd ysgolion yn eu derbyn i gyflawni hyn.

Wrth ymweld ag ysgolion, mae un peth yn glir iawn: mae ein gweithlu addysg yn parhau i fod yn hollol ymrwymedig i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc, er gwaethaf y pwysau sylweddol.

Dyna pam bod gwella amodau dysgu yn flaenoriaeth, sicrhau eich bod chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi,  eich cefnogi ac yn gallu symud ymlaen a datblygu yn un o’r gyrfaoedd mwyaf pwysig. Bydd gwrando arnoch chi a lleihau’r beichiau diangen er mwyn i chi ganolbwyntio ar beth sy’n bwysig – ein plant a’n pobl ifanc – yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gwaith hwnnw.

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon, rwy’n gwybod bod llawer i’w wneud. Ac mae rhaid bod yn onest; mae ‘na heriau a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Ond ni’n gryfach gyda’n gilydd ac rwy’n ymrwymo i wrando a gweithio’n ddiflino i wella’r amodau ar gyfer addysgu a dysgu.

Diolch yn fawr

Anna Brychan, Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading