Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cynnydd mathemateg a rhifedd

Read this post in English

Mae’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol (y Cynllun) yn nodi camau gweithredu clir i wireddu ein huchelgais o weld gwelliant parhaus mewn deilliannau llythrennedd a rhifedd ledled Cymru. Bydd llwyddiant yn golygu bod mwy o ddysgwyr yn gwneud cynnydd sicr, gwell cyrhaeddiad wrth gyrraedd pwyntiau allweddol ar y daith ddysgu ac anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad a chynnydd yn lleihau dros amser.

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r ymroddiad parhaus sy’n cael ei ddangos gan y gweithlu addysg i’n dysgwyr, a’r pwysau y maent yn eu hwynebu o ran llwyth gwaith . Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio mewn partneriaeth â’r holl ymarferwyr, fel bod ganddynt yr adnoddau i wneud y gwaith.

Rydym yn agosáu at gyflwyno ein Cynllun a hynny gyda’r brys y mae’n ei haeddu.  Mae sgiliau mathemateg a rhifedd yn sgiliau hanfodol ar gyfer dysgu a bywyd yn gyffredinol, ac mae’r Panel Arbenigol Rhifedd wedi bod yn cydweithio i gyfrannu eu harbenigedd i’r gwaith o ddatblygu ein polisi.

Beth yw’r Panel Arbenigol Rhifedd?

Mae’r Panel Arbenigol Rhifedd yn grŵp o arbenigwyr sy’n dwyn ynghyd ystod o wybodaeth am addysgu a dysgu mathemateg a rhifedd. Mae’r aelodau’n dwyn ynghyd profiad ac arbenigedd o arferion yn yr ystafell ddosbarth, arweinyddiaeth, hyfforddiant athrawon ac ymchwil academaidd yng Nghymru a’r DU. 

Sefydlwyd y Panel gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg mis Gorffennaf ac mae eisoes wedi cyfarfod chwe gwaith. Mae’r Panel wedi gwrando ar dystiolaeth gan Estyn, Adnodd a Dysgu, sef y sefydliadau sy’n darparu cymorth cenedlaethol drwy Dysgu a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Maent wedi rhoi cyngor ar y canllawiau manwl ar gyfer cynnydd mewn mathemateg a rhifedd ac maent yn gweithio ar egwyddorion ar gyfer addysgu mathemateg a rhifedd yng Nghymru.

Ymgynghoriad ar ganllawiau mathemateg a rhifedd yn dechrau

Rydym wedi lansio’r ymgynghoriad ar ein canllawiau newydd ar gynnydd mewn mathemateg a rhifedd ar gyfer dysgwyr 3-16 oed. Mae hyn yn ymwneud â rhoi eglurder i ymarferwyr, athrawon ac arweinwyr ynghylch beth y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd. Nod y canllawiau yw darparu iaith broffesiynol gyffredin ar gyfer ystyried yr hyn y mae gan ddysgwyr mathemateg yr hawl i’w brofi a sut mae’r meddwl mathemategol yn datblygu trwy’r profiadau hynny.

Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i arweinwyr, ymarferwyr a phartneriaid lunio’r canllawiau terfynol.  Mae angen i ni glywed gennych chi er mwyn sicrhau bod y canllawiau yn rhoi’r eglurder yr ydych wedi’i gofyn amdano ac yn adnodd defnyddiol ar gyfer cynllunio ac arferion yn yr ystafell ddosbarth.