Gwyddom fod dewis y llwybr dysgu cywir rhwng 14 ac 16 oed yn gam pwysig i ddysgwyr a’u teuluoedd. I gefnogi hyn, rydym wedi datblygu dau fideo byr, hygyrch ar gyfer rhieni/gofalwyr a dysgwyr sy’n esbonio’r hawl i ddysgu 14 i 16 a’r canllawiau ategol.
Mae’r fideos yn nodi beth mae’r hawl i ddysgu yn ei olygu’n ymarferol, y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc, a sut mae ysgolion yn cynnig profiad dysgu eang a chytbwys. Maent wedi’u cynllunio i wneud y canllawiau yn haws eu deall, gan ddefnyddio iaith glir sy’n cyd-fynd â’r canllawiau llawn.
Ein nod yw helpu rhieni, gofalwyr a dysgwyr i deimlo’n hyderus am yr opsiynau sydd ar gael, deall beth y gallant ei ddisgwyl o’u hysgol neu leoliad, a gwybod ble i fynd am ragor o wybodaeth.
Rydym yn annog ysgolion, partneriaid a theuluoedd i wneud defnydd o’r fideos hyn, i ysgogi trafodaethau agored ynghylch opsiynau a llwybrau i ddysgwyr, yn enwedig wrth i ddysgwyr ddechrau gwneud eu dewisiadau. Trwy wella dealltwriaeth o’r hawl i ddysgu 14 i 16, gallwn gefnogi dewisiadau gwybodus a chanlyniadau cadarnhaol i bob dysgwr yn y cam hanfodol hwn o’u haddysg.