Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrio ar sgyrsiau a sesiynau ymgysylltu Rhwydwaith Cenedlaethol Galluogi dysgu

Read this post in English

Nia Evans – Cynghorydd Proffesiynol – Dysgu Sylfaen

Ar hyn o bryd mae Gayle Shenton a minnau ar secondiad i Lywodraeth Cymru. Ein cenhadaeth yw cryfhau addysgeg addysg gynnar a sicrhau bod y Canllawiau galluogi dysgu wedi’u hymgorffori’n llawn ar draws y sector.

Pam mae Galluogi dysgu mor bwysig?

Mae ein Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol Galluogi dysgu diweddar wedi profi i fod yn allweddol ar y daith tuag at ddeall sut y gall Galluogi dysgu chwarae rôl allweddol fel man cychwyn wrth i ni gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm sy’n briodol yn ddatblygiadol ac yn addysgegol ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

Fe wnaethom groesawu ymarferwyr o bob cwr o Gymru a hwyluso trafodaethau a chydweithrediad â darparwyr addysg feithrin nas cynhelir, arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion cynradd ac arbennig ynghyd â staff o awdurdodau lleol a rhanbarthau sy’n darparu cymorth uniongyrchol i ysgolion a lleoliadau.Cynhaliwyd y digwyddiadau ym Mharc y Scarlets yn y De a Venue Cymru yn y Gogledd.

Addysgeg a datblygu cwricwlwm

Dechreuodd y diwrnod gyda chroeso drwy fideo gan yr Athro Donaldson a’n hatgoffodd o bwysigrwydd Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru a pham ei bod yn hanfodol ein bod yn adeiladu ar egwyddorion addysgeg effeithiol yn y blynyddoedd cynnar ac ar hyd continwwm 3-16.

Nesaf, roeddem yn falch i gyflwyno Dr Stella Louis, ymgynghorydd, hyfforddwr ac awdur rhyngwladol o fri. Rhoddodd Stella gyweirnod ysbrydoledig yn ymwneud â phwysigrwydd ymarfer sy’n briodol yn ddatblygiadol ac yn addysgegol a phwysigrwydd sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y dysgwyr beth bynnag fo’u hoedran, gan roi’r plentyn/dysgwr wrth wraidd ein hymarfer. “Mae addysg yn ymwneud â phlant”

Rhannodd Dr Louis ei meddyliau a’i phrofiadau am sut y gall Galluogi dysgu ynghyd â’r pum llwybr datblygiadol gefnogi ac arwain ymarfer ar draws yr ystodau oedran, yn enwedig cynradd yng nghyd-destun y sesiwn hon. “I wybod ble i fynd, mae angen i chi wybod o ble rydych chi wedi dod”

Roedd arbenigedd Dr Louis yn atseinio’n ddwfn gyda mynychwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd deall datblygiad plant a phobl ifanc fel elfen graidd o ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm. Canolbwyntiodd y drafodaeth gychwynnol ar sut mae arfer cyfredol yn adlewyrchu addysgeg sy’n briodol i ddatblygiad a dealltwriaeth o ddatblygiad plant, gan ganiatáu i addysgwyr rannu eu heriau a’u llwyddiannau wrth weithredu Galluogi dysgu. Yna rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr wrando ar ymarferwyr gwadd o ystod o leoliadau, ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn arddangos ymarfer effeithiol gan ddefnyddio Galluogi dysgu i gefnogi a dylanwadu ar eu cwricwlwm a’u haddysgeg. 

 Ymunodd MET Caerdydd â ni hefyd a gyflwynodd eu hymchwil yn ymwneud â’r synergeddau rhwng Galluogi dysgu, Cwricwlwm i Gymru ac egwyddorion Froebeliaidd.

Mae’r amgylchedd cydweithredol hwn yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn ymhlith cyfranogwyr, gan hyrwyddo cyfnewid syniadau a strategaethau a all wella ein harferion addysgu a dysgu. Roedd digwyddiadau’r NNC yn llwyddiannus iawn wrth ddarparu cefnogaeth wrth gynllunio a dylunio cwricwlwm, cyfleoedd i rwydweithio, a sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed a’i werthfawrogi fel rhan allweddol o’r broses ar gyfer gwireddu Cwricwlwm Cymru ar gyfer pob dysgwr.

Sesiwn olaf y diwrnod oedd panel holi ac ateb dan arweiniad cyflwynwyr a gwesteion y dydd gan gynnwys Estyn. Roedd digon o gyfle ar gyfer ystod eang o gwestiynau yn ymwneud â phob agwedd ar y cwricwlwm ac addysgeg.

Roeddem yn ddiolchgar i Georgina Haarhoff, Cyfarwyddwr Addysg, a orffennodd y diwrnod gan atgyfnerthu pwysigrwydd Galluogi dysgu a’i rôl wrth gefnogi cynllunio, dylunio a gwireddu Cwricwlwm Cymru.

Sesiynau ymgysylltu Galluogi dysgu Yn dilyn Y Sgyrsiau rhwydwaith Cenedlaethol , cynhaliwyd cyfres o sesiynau ymgysylltu gydag uwch arweinwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd y canllawiau Galluogi dysgu. Pwrpas rhain oedd adnabod sut y gall gefnogi cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm addysgegol priodol i bob dysgwr. Roedd rhain yn agored i holl uwch arweinwyr ysgolion cynradd, uwchradd, pob oedran ac ysgolion arbennig, yn ogystal â UCDau yng Nghymru ac fe’u dechreuwyd dros dymor y Gwanwyn.

Myfyrdod personol:

Mae’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad gan ymarferwyr ac arweinwyr yn dilyn yr NNCs a’r digwyddiadau ymgysylltu wedi bod yn galonogol iawn. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae rhai negeseuon clir wedi amlygu ynglŷn â’r angen am hyfforddiant sy’n gysylltiedig â datblygiad plant a phobl ifanc, cydweithio ar draws ystodau oedran a chefnogaeth bellach i ysgolion uwchradd. Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

Adroddiad cryno o’r adborth o’r Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol ar gael yma:
https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/rhwydwaith-cenedlaethol-ar-gyfer-gweithredu-r-cwricwlwm/sgyrsiau-gorffennol-a-dadansoddiad/

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading