Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy’n gwneud crynodeb cwricwlwm gwych – a beth i’w osgoi

Read this post in English

Mae cyhoeddi crynodeb cwricwlwm yn fwy na chydymffurfio â deddfwriaeth. Wedi’u gwneud yn dda, gallai fod yn offeryn pwerus ar gyfer cyfathrebu i gynulleidfa eang ethos eich ysgol neu leoliad, y syniadau y tu ôl i’ch cwricwlwm, a phrofiad eich dysgwyr –  cynulleidfa sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr yn ogystal â llywodraethwyr a phartneriaid cymunedol eraill.

Rhieni, plentyn ac athrawes yn eistedd o gwmpas bwrdd mewn dosbarth yn ystod noson rieni

Felly, beth sy’n gwneud crynodeb cwricwlwm da? A beth ddylen ni osgoi?

Nodweddion crynodeb cwricwlwm effeithiol

1. Clir, hygyrch a chanolbwyntio ar y gynulleidfa

Mae crynodeb da yn cyfathrebu gweledigaeth i’r gynulleidfa. Mae hynny’n golygu:

  • Defnyddio iaith glir, heb jargon.
  • Teilwra’r iaith i weddu i rieni, gofalwyr, a phobl nad ydynt yn arbenigwyr addysg.
  • Bod yn gryno – crëwch grynodeb yn hytrach na dogfen bolisi.

2. Apelgar a wedi’i gyflwyno’n dda

Mae diwyg yn bwysig. Mae crynodeb wedi’i gynllunio’n dda yn:

  • defnyddio cynllun a brandio sy’n adlewyrchu hunaniaeth yr ysgol neu leoliad.
  • cynnwys lluniau, lliwiau, a hyd yn oed fideo i ddod â’r cwricwlwm yn fyw.
  • hawdd i’w lywio, gyda phenawdau a strwythur clir.

3. Pwrpasol ac yn adlewyrchu’r ysgol neu leoliad

Dylid osgoi cynnwys generig. Yn lle hynny:

  • dangoswch ethos, gweledigaeth a gwerthoedd unigryw eich ysgol neu leoliad.
  • defnyddiwch enghreifftiau o ddysgu dilys a phrofiadau disgyblion go iawn.
  • dangoswch y meddwl sydd y tu ôl i’ch penderfyniadau cwricwlwm.

4. Defnyddiol a chysylltiedig â gwybodaeth allweddol

Gwnewch hi’n ymarferol:

  • Gan gynnwys dolenni i fframweithiau statudol a chanllawiau’r cwricwlwm lle bo hynny’n briodol.
  • Trwy gynnig cyfle i ddarllenwyr sydd eisiau ymchwilio’n ddyfnach i agweddau sydd o ddiddordeb iddynt.
  • A thynnu sylw at gysylltiadau â lles, gofal bugeiliol, a chyfranogiad cymunedol.

5. Cyfredol a thryloyw

Mae ymddiriedaeth yn cael ei meithrin trwy dryloywder:

  • Nodwch yn glir pryd y cyhoeddwyd y crynodeb gyntaf a phryd y diweddarwyd ddiwethaf.
  • Gwnewch yn siŵr bod dolenni a chyfeiriadau yn gyfredol.
  • Dangoswch sut mae staff a rhanddeiliaid wedi cyfrannu at ei ddatblygiad.

Beth i’w osgoi

Er gwaethaf ein hymdrechion, dydy crynodebau cwricwlwm ddim bob amser  yn taro deuddeg. Dyma beth i ofalu amdano:

1. Gormod o jargon

  • Osgoi acronymau anesboniadwy ac iaith dechnegol.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod gan eich cynulleidfa gefndir mewn addysg.

2. Cynnwys wedi’i gopïo o rywle arall

  • Osgoi’r temtasiwn i ddefnyddio testun sydd wedi’i godi’n uniongyrchol o ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
  • Dydy crynodeb generig a allai fod yn perthyn i unrhyw ysgol neu leoliad ddim yn ateb y gofyn.

3. Gormod o fanylion

  • Ffocws – nid dyma’r lle i gynnwys eich holl gynlluniau gwaith.
  • Gall dogfennau rhy hir llethu a cholli eich darllenwyr.

4. Gwybodaeth sydd wedi’i dyddio neu sy’n amwys

  • Gwnewch yn siŵr bod eich crynodeb yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.
  • Ceisiwch osgoi cyfeiriadau at hen ddogfennau neu adnoddau nad ydynt yn adlewyrchu’r arfer cyfredol.

5. Cynnwys sydd ddim yn gysylltiedig

  • Gwnewch yn siŵr bod y crynodeb yn adlewyrchu’r ysgol neu leoliad i gyd, yn hytrach na dosbarth unigol neu ychydig o bynciau.
  • Ceisiwch osgoi cynnwys hyrwyddo os nad yw’n esbonio cynnydd neu fwriad y cwricwlwm.

Enghreifftiau

Diolch i’r ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau meithrin isod am ganiatáu i ni rannu eu crynodebau cwricwlwm cyhoeddedig:

Ysgolion cynradd:

Ysgol Bodhyfryd Wrecsam

Ysgol Gellifor Sir Ddinbych (Saesneg yn unig)

Ysgol Gelliswick Sir Benfro (Saesneg yn unig)

Ysgol Glan Aber Sir yFflint (Saesneg yn unig)

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen Abertawe

Ysgol Gynradd St David’s Abertawe (Saesneg yn unig)

Ysgol Iolo Morganwg Bro Morgannwg

Ysgol Llangan Bro Morgannwg (Saesneg yn unig)

Ysgol Maes y Coed Castell-Nedd Port Talbot (Saesneg yn unig)

Ysgol Pen Rhos Sir Gâr (Saesneg yn unig)

Ysgol Raglan Sir Fynwy (Saesneg yn unig)

Ysgol Santes Dwynwen Ynys Môn

Ysgolion pob oed:

Abertillery Learning Community Blaenau Gwent (Saesneg yn unig)

Ysgol Bro Pedr Ceredigion

Ysgol Nantgwyn Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig)

Ysgolion arbennig:

Ysgol Arbennig Crownbridge Torfaen (Saesneg yn unig)

Ysgol Robert OwenPowys (Saesneg yn unig)

Unedau cyfeirio disgyblion:

Teulu Ysgolion y Deryn Caerdydd (Saesneg yn unig)

Canolfan Cychwen Newydd Powys

Ysgolion uwchradd:

Ysgol Aberconwy Conwy (Saesneg yn unig)

Ysgol Chepstow  Sir Fynwy (Saesneg yn unig)

Ysgol Glan y Môr Sir Gâr (Saesneg yn unig)

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd Pen y Bont ar Ogwr

Ysgol Gyfun Gymuned Risca Caerffili (Saesneg yn unig)

Ysgol Pen y Dre Merthyr Tudful (Saesneg yn unig)

Ysgol Uwchradd Caergybi Ynys Môn (Saesneg yn unig)

Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi Caerdydd (Saesneg yn unig)

Ysgol Uwchradd Llanwern Casnewydd (Saesneg yn unig)

Ysgol Uwchradd Tywyn Gwynedd

Lleoliadau meithrin nas cynhelir:

Cylch Meithrin Rhuthun Sir Ddinbych

Meithrinfa Sticky Fingers Sir Fynwy (Saesneg yn unig)

I grynhoi…

Dylai crynodeb cwricwlwm fod yn ffenestr i’ch daith ddysgu – wedi ei ysgrifennu mewn ffordd glir, sy’n ymgysylltu’r darllenydd, ac sydd wedi’i wreiddio yn eich gwerthoedd. Trwy ganolbwyntio ar eglurder, dilysrwydd, ac hygyrchedd, gallwch greu crynodeb sydd nid yn unig yn hysbysu ond hefyd yn ysbrydoli.

Mae’r adran crynodeb o’r ddeddfwriaeth ar Hwb yn nodi’r gofyniad o ran cyhoeddi crynodeb  cwricwlwm.

Mae’r canllawiau statudol yn nodi y dylai’r crynodebau a gyhoeddwyd gynnwys:

  • gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu’r cwricwlwm yn barhaus
  • sut mae’r cwricwlwm yn bodloni’r elfennau gofynnol a nodir yn y Fframwaith hwn, gan ddechrau gyda’r pedwar diben
  • gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a’i threfniadau ar gyfer asesu
  • sut mae’r cwricwlwm yn cael ei adolygu’n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a mireinio’r cwricwlwm yn barhaus

a dylid eu cyhoeddi cyn dechrau pob blwyddyn academaidd.

Mae cymorth ymarferol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu ar gael ar Hwb.

Nid oes gofyniad i leoliadau meithrin nas cynhelir gynllunio cwricwlwm; mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu hyn ar eu cyfer. Dyma’r trefniadau cwricwlwm ac  asesu ar gyfer y lleoliadau hynny.  Fel ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, mae’n rhaid i leoliadau meithrin nas cynhelir gyhoeddi crynodeb o’u cwricwlwm. Mae canllawiau i leoliadau ar gyhoeddi crynodeb yn y pecyn cymorth ymgysylltu.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading