Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi buddsoddiad mawr mewn diwygiadau ADY

Read this post in English

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fel rhan o’i datganiad llafar ar y cynnydd a wnaed i ddiwygio’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru, gyfres o gamau gweithredu i gefnogi’r diwygiadau. Mae hyn yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o fframwaith deddfwriaethol ADY, ac mae’n cynnwys buddsoddiad sylweddol o £8.2 miliwn, wedi’i ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol, lleoliadau addysg a cholegau i sicrhau bod y diwygiadau’n cael eu cyflawni.

Dros bedair blynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £150 miliwn o refeniw a £170 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r system ADY

O fis Medi 2025 ymlaen, mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ynghyd â’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru a’r rheoliadau cysylltiedig, yn creu’r system statudol ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd ag ADY yng Nghymru.

Adeiladu ar gyflawniadau buddsoddi

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli ymrwymiad parhaus i wella’r ddarpariaeth ADY. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae mwy na £80 miliwn o gyllid cyfalaf eisoes wedi sicrhau gwelliannau mewn 249 o ysgolion ledled Cymru sy’n cyfrannu at drawsnewid mannau dysgu.  Mae hyn yn ychwanegol at y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy sydd gwerth £750 miliwn dros naw mlynedd sy’n creu darpariaeth arbenigol newydd.

Dathlu cyflawniadau

Trwy ymroddiad ymarferwyr addysg, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, dysgwyr a theuluoedd, mae mwy na 32,000 o gynlluniau datblygu unigol statudol. Mae’r cynlluniau hyn wedi’u datblygu trwy brosesau sy’n canolbwyntio ar anghenion a llais y dysgwr, gan wella mynediad at adnoddau arbenigol ac adeiladu ar bartneriaethau cydweithredol.

Beth sy’n gweithio’n dda?

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth o werthusiad ffurfiannol pedair blynedd o weithredu’r system ADY, sef arolwg o safbwyntiau rhieni a gofalwyr o dros 1,600 o deuluoedd, canfyddiadau adolygiad fframwaith deddfwriaethol ADY ac adolygiadau thematig Estyn sy’n cydnabod hyblygrwydd ysgolion ac ymyriadau creadigol.

Mae’r gwerthusiad cynhwysfawr yn dangos cynnydd cadarnhaol, mae’r ysgolion yn creu amgylcheddau dysgu trawsnewidiol lle mae plant yn ffynnu. Mae plant yn adrodd bod ganddynt fynediad at dechnoleg gynorthwyol a mannau tawel sy’n lleihau’r rhwystrau ac yn gwella eu cyfleoedd i ddysgu.Mae rhieni yn adrodd am brofiadau cadarnhaol proses y cynlluniau datblygu unigol, gan werthfawrogi amserlenni a chyfleoedd clir i drafod anghenion eu plentyn.

Cymorth i ymarferwyr

Mae rhieni’n canmol y Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a staff yr ysgol am eu gwaith eithriadol wrth gydnabod anghenion plant a darparu’r lefel gywir o gymorth.  Mae ysgolion yn llwyddo i ddarparu grwpiau llai, grwpiau anogaeth, a chyfleusterau addysgu arbenigol. Mae plant yn elwa ar amserlenni hyblyg, maint dosbarthiadau llai, a chymorth i gefnogi lles emosiynol trwy gael Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol.

Mae rhieni yn adrodd am welliannau mewn prosesau adnabod cynnar yn enwedig ar gyfer plant cyn-ysgol, ac yn nodi mai cryfder y system yw nad oes angen diagnosis meddygol cyn rhoi cymorth, ac felly mae plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt.

Edrych tua’r dyfodol

Bydd gwell cymorth cenedlaethol i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth, gan sicrhau cymorth teg waeth ble mae’r lleoliad.

Gan weithio gyda’r sector, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwrowahaniaeth plant a chryfhau’r cydweithio rhwng gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol fel bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae ymgynghoriad hefyd ar y gweill ar hyn o bryd ar newidiadau i ddata ADY, sy’n cynnwys data dysgwyr unigol, darpariaeth ADY a’r gwaith o gyflwyno’r system ADY, a gwybodaeth am y gweithlu. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 3 Rhagfyr 2025.

Gan gydnabod yr angen am well gwybodaeth, bydd rhieni a gofalwyr yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf cyn bo hir trwy becyn cymorth i rieni a gofalwyr a ddatblygwyd ar y cyd â theuluoedd sy’n cael ei lansio ym mis Tachwedd – a fydd yn cynnig gwybodaeth glir a hygyrch i lywio’r system ADY.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading