‘Mae cymryd rhan yn y Prosiect ‘Lessons from Auschwitz’ wedi bod yn brofiad trawsnewidiol iawn i mi. Mae wedi newid y ffordd rwy’n gweld hanes, dynoliaeth, a’r ffordd rydyn ni’n ymwneud â’n gilydd heddiw.’ – myfyriwr o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.

Mae’r dyfyniad hwn yn cyfleu effaith y Prosiect ‘Lessons from Auschwitz’, a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i feithrin dealltwriaeth ddofn o’r Holocost a’i berthnasedd parhaus heddiw.
Ym mis Chwefror 2025, bu mwy na 150 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn rhan o’r rhaglen drawsnewidiol hon trwy ymweld â Chofeb ac Amgueddfa Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl. Mae’r prosiect bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025–26 ac mae’n croesawu’r holl ysgolion a gynhelir sydd â darpariaeth ôl-16 a cholegau addysg bellach yng Nghymru. Gall y myfyrwyr fod yn astudio unrhyw bwnc.
Mae’r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol:
- Seminar ymgyfarwyddo sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd lle mae myfyrwyr yn dysgu am yr Holocost a bywyd Iddewig yn Ewrop cyn y rhyfel, yn cwrdd â goroeswr yr Holocost a chlywed am ei brofiadau, ac yn paratoi ar gyfer yr ymweliad â Gwlad Pwyl.
- Ymweliad undydd ag Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl, gan gynnwys teithiau tywys o Auschwitz I ac Auschwitz II (Birkenau). Ar yr ymweliad, bydd myfyrwyr yn ystyried ac yn myfyrio ar yr effaith barhaol a gafodd yr Holocost ar fywydau unigolion a chymunedau Iddewig ledled Ewrop.
- Seminar dilynol a gynhelir ar-lein lle mae myfyrwyr yn trafod eu myfyrdodau o’r ymweliad â Gwlad Pwyl ac yn ystyried perthnasedd parhaus yr Holocost yng nghyd-destun gwrthsemitiaeth a hiliaeth heddiw. Mae myfyrwyr hefyd yn dechrau cynllunio ar gyfer cam olaf y rhaglen, eu ‘Camau Nesaf’.
- Y cam olaf lle mae myfyrwyr, fel rhan o’u ‘Camau Nesaf’, yn rhannu’r hyn maent wedi’i ddysgu gydag eraill yn eu hysgol, coleg neu gymuned. Y myfyrwyr sy’n dewis sut y maent yn dymuno gwneud hyn. Er enghraifft, gallent arwain cynulliadau/gwasanaethau ysgol, trefnu arddangosfeydd neu ysgrifennu blogiau neu erthyglau i roi ychydig enghreifftiau.
Mae’r prosiect yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar y gorffennol a meddwl yn feirniadol am sut y gallant gyfrannu at gymdeithas fwy cynhwysol a pharchus, gan greu newid parhaol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’w profiad addysgol.
Mae’r Prosiect ‘Lessons from Auschwitz’ yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu mai dim ond £59 y myfyriwr yw’r gost. Gall ysgolion a cholegau wneud cais am le i ddau fyfyriwr, a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau nad ydynt wedi cymryd rhan o’r blaen. Mae cymorthdaliadau teithio hefyd ar gael i sicrhau bod y prosiect yn hygyrch.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost.