Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddiad i’r gweithdai Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg

Read this post in English

Ry’ ni eisiau clywed eich barn

Rydym ni’n datblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg Strategol a fydd yn nodi sut y byddwn yn cefnogi athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi dysgwyr yn ein hysgolion yn y blynyddoedd i ddod. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi y bydd y cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

  • Cefnogi ein gweithlu i sicrhau addysgu a dysgu o safon i wella deilliannau i ddysgwyr
  • Mynd i’r afael â materion llwyth gwaith
  • Ymateb i heriau newydd i weithlu’r ysgol a sicrhau mynediad at gymorth drwy weithlu arbenigol
  • Sicrhau bod addysgu, arweinyddiaeth a swyddi staff cymorth yn parhau i fod yn llwybrau gyrfa deniadol

Bydd llesiant staff yn ystyriaeth allweddol ym mhob un o’r pedwar maes. 

Gallwch ddarllen mwy yma: Datganiad Ysgrifenedig: Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg (3 Medi 2025) | LLYW.CYMRU

Dyma eich cyfle i drafod eich blaenoriaethau a’r heriau rydych chi’n eu hwynebu yn eich gwaith o ddydd i ddydd fel ymarferwyr i’n helpu i lunio’r camau y byddwn yn eu cymryd gyda’n partneriaid allweddol.

Gallwch gofrestru i fynychu un o’r sesiynau ar-lein yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/5EQQ01/?lang=1083308

Os na allwch fynychu sesiwn ar-lein, rydym yn dal i fod eisiau clywed gennych.

Byddwn yn rhannu arolwg byr ar ôl hanner tymor bydd yn gofyn am eich barn ar eich lles, eich llwyth gwaith, y gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch meddyliau am yr hyn a allai newid. Dewch yn ôl i’r dudalen hon, tanysgrifiwch i Dysg neu dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.


Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading