Y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu
Mae’r daflen isod yn dangos y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu mewn 4 cam syml sef Gofyn, Cynllunio, Addysgu a Myfyrio, a fydd yn cefnogi’r penderfyniadau a wneir ar lefel ysgol gyfan ac ystafell ddosbarth, gan roi fframwaith clir i chi ei ddilyn.
Y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
Sut mae’r broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu i fod i weithio?
Y broses gam wrth gam ar gyfer cynllunio dysgu ar lefel ystafell ddosbarth
Bydd y templedi hyn yn eich helpu i gynllunio profiadau dysgu.
Enghreifftiau ymarferol:
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair Forwyn eisoes wedi rhoi’r broses hon ar waith, ac mae eu fideo yn dangos sut maent wedi mynd ati i gynllunio cwricwlwm yn eu cyd-destun nhw.
Fideo Ysgol Dyffryn Conwy yn dangos sut maent wedi defnyddio’r templedi hyn i drawsnewid eu dull o gynllunio dysgu.
Bwrdd darlunio cwricwlwm
Mae’r dull bwrdd darlunio, er enghraifft, yn ein hannog i ganolbwyntio ar ‘pam’ dysgu – gan wneud y diben yn glir i ddysgwyr tra’n sicrhau cydlyniant ar draws gwahanol feysydd astudio.
Nod y templed hwn yw symleiddio’r broses o gynllunio’r cwricwlwm o fewn egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar ddiben y dysgu a gwneud hyn yn glir i athrawon a dysgwyr.
Enghraifft ymarferol:
Mae Ysgol Bodhyfryd yn rhannu sut mae byrddau darlunio wedi gwella’r ffordd maent yn datblygu cwricwlwm.
Animeiddiadau ar gynllunio cwricwlwm o fewn y meysydd dysgu a phrofiad
Bydd yr animeiddiadau hyn yn helpu ymarferwyr i ystyried sut y gall testun neu thema gyfrannu at ddealltwriaeth gysyniadol ehangach ac at wireddu’r pedwar diben.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Os hoffech fwy o gefnogaeth ac adnoddau, ewch i’n hardal offer a thempledi ar gyfer dylunio cwricwlwm ar Hwb