Neidio i'r prif gynnwy

Ffocws ar gefnogi llythrennedd ar Ddiwrnod y Llyfr

Read this page in English

Mae’r Ardal Llythrennedd ar Hwb yn parhau i dyfu gydag adnoddau newydd fel:

Y rhestr chwarae athrawon ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ledled Cymru yn sôn am ddulliau o darllen;

Dogfen ddefnyddiol i’w rhannu gyda’ch rhieni a’ch gofalwyr, sy’n rhoi help iddynt ar ddysgu darllen a sut i gefnogi eu plant; ac

Gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr ar ddarllen yn y Cwricwlwm i Gymru, yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a dolenni i ddeunyddiau ategol, adnoddau ac astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â cynnydd mewn darllen. Trefnir y rhain yn 4 rhan: cyn dechrau darllen, dechrau darllen, darllen yn rhugl, a darllen gyda soffistigedigrwydd cynyddol.

Yn ogystal ag adran newydd sbon i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau dysgu proffesiynol sy’n cefnogi llythrennedd dysgu ac addysgu.

Rhaglen Cynllun Pontio – ar agor ar gyfer ceisiadau

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Nod Cynllun Pontio yw denu athrawon Cymraeg eu hiaith i ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Mae’n agored i athrawon ysgol gynradd sy’n siarad Cymraeg sydd am drosi i addysgu uwchradd, yn ogystal ag athrawon Cymraeg sy’n dysgu y tu allan i Gymru ar hyn o bryd a’r rhai sydd wedi bod allan o addysg ers 5 mlynedd neu fwy.

Agorodd cynllun y rhaglen yr wythnos hon, mae’n rhedeg am dair wythnos ac yn cau ar 2 Mawrth.

Ar hyn o bryd mae Angharad Pari-Williams yn cymryd rhan yng Nghynllun Pontio ac yn dysgu Daearyddiaeth yn Ysgol David Hughes ar Ynys Môn.

Mae hi wedi trosi o addysgu cynradd i uwchradd. Dywedodd hi:

“Rwy’n mwynhau’r Cynllun Pontio yn fawr. Rwyf mor falch fy mod wedi ymgeisio. Gyda’r cwricwlwm newydd i Gymru mor drawsgwricwlaidd, roeddwn i’n teimlo bod fy mhrofiad mewn addysgu cynradd yn ddefnyddiol iawn yn fy rôl newydd.

“Yr hyn sy’n gwneud Cynllun Pontio yn unigryw yw eich bod yn derbyn cefnogaeth. Mae wastad rhywun o gwmpas i siarad â nhw am gyngor.”

Dysgwch fwy am strwythur y rhaglen a’r broses ymgeisio.

Ymgeisiwch yma: Teaching Wales – Cynllun Pontio | Educators wales

Ydych chi wedi ystyried cychwyn ar daith gyfnewid ryngwladol gyda’ch dysgwyr?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r manteision i ddysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn ddigonol a byddant yn para am oes. Mae’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn darparu safbwyntiau allweddol i ddysgwyr ac maent o bwys penodol o ran cefnogi dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Maent hefyd yn gallu cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a’u hannog i ymgysylltu â phersbectifau gwahanol a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach. 

Profiad sy’n newid bywyd

Ymwelodd Ysgol Gymuned Ferndale yn Rhondda Cynon Taf â Singapôr ar gynllun symudedd a ariannwyd gan Taith. Roedd yn brosiect sy’n seiliedig ar STEM gyda ffocws ar beirianneg a dyframaethu. I ysgol lle nad yw mwy na thraean o ddisgyblion erioed wedi bod dramor, roedd y cyfle i deithio i Singapore ar gyfer grŵp o ddysgwyr Blwyddyn 9 yn brofiad a newidiodd eu bywydau.

Dyma beth oedd gan un o’r athrawon i’w ddweud am y daith:

“Ni allwn roi gwerth ar yr hyn a gafodd y disgyblion o’r daith hon, yn enwedig yn y gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i rai o’r plant hyn yn rhywbeth na fydden nhw byth yn gallu cael mynediad iddo heb y cyllid hwn.”

Gallwch ddarllen y stori lawn yma a storïau eraill ar wefan Taith.

Sut y gallwch geisio cyllid ar gyfer cyfnewid rhyngwladol?

Rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru yw Taith. Mae’n cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhedwar ban byd. Mae symudiadau a phrosiectau Taith yn ceisio ysbrydoli dysgwyr a chodi dyheadau.

Mae cyllid Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewid dysgu yn rhyngwladol trwy symudedd allanol (cyfranogwyr sy’n mynd o Gymru) a symudedd mewnol (cyfranogwyr sy’n dod i Gymru) gan naill ai grwpiau neu gyfranogwyr unigol. Ar gyfer 2025, gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 trwy Gynllun Grantiau Bach newydd. Mae’r cynllun yn cynnwys ffurflen gais symlach gyda llai o gwestiynau a llai o ofynion rheoli prosiectau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.

Bydd galwadau am gyllid Llwybr 1 ar agor tan 27 Mawrth. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais o fewn pedwar mis i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Bydd Taith yn cynnal nifer o weminarau lle byddant yn rhannu manylion y meini prawf cymhwystra, gweithgareddau cymwys ac arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais.

Mae Cynllun Turing hefyd yn cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd. Mae ysgolion yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid.

Bydd ceisiadau ar gyfer Cynllun Turing ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 ar agor hyd at 14 Mawrth 2025. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi i ymgeiswyr ym mis Mehefin 2025.

Gwobr Ysgol Ryngwladol y British Council

Mae’r Wobr Ysgol Ryngwladol yn gwobrwyo ysgolion sydd wedi dangos ymrwymiad i ymgorffori ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngwladol yn eu dosbarth neu ysgol.

Mae lefel Sylfaen y Wobr Ysgol Ryngwladol ar gyfer ysgolion sy’n cychwyn ar eu taith ryngwladol. Yr unig ofyniad ar gyfer y lefel Sylfaen yw tystiolaeth i ddangos o leiaf un gweithgaredd rhyngwladol yn seiliedig ar gwricwlwm sy’n gwella dealltwriaeth myfyrwyr o wledydd, diwylliannau a materion byd-eang eraill. Gallai hyn fod yn symudedd a ariennir gan Gynllun Taith neu Turing. Mae derbynwyr y gwobrau yn derbyn tystysgrif cyflawniad ac adborth ac arweiniad arbenigol ar wella a chynnal eu gwaith rhyngwladol.

Diweddariadau 2025 i ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn eich ymatebion i’r ymgynghoriad yn ystod yr hydref, byddwn ni’n gwneud newidiadau i ganllawiau statudol fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mae rhai o’r newidiadau hyn wedi eu gwneud eisoes a bydd eraill yn digwydd dros yr wythnosau nesaf. Mae’r dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen o’r canllawiau ar Hwb yn dangos a oes newid wedi’i wneud. Darllenwch ymlaen i weld beth sy’n newid a pha rannau o’r canllawiau rydyn ni’n gweithio i’w gwella.

Llythrennedd

Rydym wedi gwneud mân newidiadau i fod yn glir am rôl a phwysigrwydd ffoneg. Mae’r canllawiau statudol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn glir bod rhaid i addysgu ffoneg, yn systematig ac yn gyson, fod yn rhan allweddol o ddull dysgu darllen yn ein hysgolion. Rydym wedi diweddaru’r adran hon o’r canllawiau i egluro ymhellach rôl addysgu ffoneg systematig a chyson i alluogi dysgwyr i ddadgodio geiriau.

Ar ôl dysgu dadgodio geiriau, bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o strategaethau i ddatblygu dealltwriaeth o ystyr geiriau a brawddegau. Mae newidiadau wedi eu gwneud i’r canllawiau i egluro’r defnydd o luniau a chiwiau i helpu dysgwyr i ddeall ystyr yr hyn maen nhw’n ei ddarllen – nid yw’n argymell defnyddio lluniau i helpu dysgwyr gyda dadgodio geiriau.

Bydd cefnogaeth bellach ar gyfer addysgu a datblygu llythrennedd yn dilyn nes ymlaen eleni. Rydym eisoes yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob ysgol ac ymarferydd fynediad at yr un hyfforddiant a chymorth ansawdd uchel i addysgu llythrennedd, ac rydym yn adolygu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i gefnogi’r proffesiwn addysgu cyfan i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Bydd hyn yn cael ei ategu gan egwyddorion cenedlaethol clir,  seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd yn effeithiol.

Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith cychwynnol i gefnogi llythrennedd yn y blog Cynllunio cwricwlwm: Tystiolaeth ac arbenigedd

Galluogi Dysgu

Yn dilyn adborth, rydym am gymryd mwy o amser i gael y newidiadau i’r adrannau Galluogi dysgu ac Addysgeg  yn iawn, felly ni fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r adrannau hyn yn y canllawiau ar hyn o bryd.

Pwrpas y ddwy adran hon yw i sicrhau bob pob ymarferydd yn mabwysiadu dull sy’n ddatblygiadol addas ac yn addas o ran addysgeg i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Cafodd y canllawiau Galluogi dysgu eu datblygu gyda phlant o bob oed ar bob cam o’u datblygiad mewn golwg. Gofynnodd ein ymgynghoriad am farn ar newid y canllawiau i fynegi yn fwy clir sut mae’r egwyddorion hyn yn gallu cefnogi dysgwyr hŷn hefyd. Mae dysgu ac addysgu effeithiol yn hollbwysig i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd a byddwn yn dal ati i weithio gydag ymarferwyr i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen i ddefnyddio’r 12 egwyddor addysgegol a’r 3 elfen galluogi yn effeithiol ar gyfer pob dysgwr.

Diffiniadau

Mae rhai o’r diffiniadau a welwch pan fyddwch yn hofran dros dermau sydd wedi’u hamlygu wedi’u diwygio i wneud y diffiniadau yn gliriach ac i sicrhau bod cysondeb yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Nid yw’r newidiadau hyn i ddiffiniadau yn newid sylwedd yr hyn sy’n cael ei gyfleu yn y canllawiau.

Fersiwn Gymraeg o’r canllawiau

Mae fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ganllawiau statudol fframwaith y  cwricwlwm (yn hytrach na chyfieithiad uniongyrchol o un iaith i’r llall). Roedd rhai rhannau o’r canllawiau yn destun proses golygu ddwyieithog cyn eu cyhoeddi ac roedd eich adborth trwy’r ymgynghoriad diweddar yn amlygu’r angen am adolygiad llawn o’r fersiwn Gymraeg yn benodol. Rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r adolygiad hwn dros y misoedd nesaf i wella ansawdd a chysondeb y fersiwn Gymraeg.

Mae’r newidiadau hefyd yn cynnwys:

  • cysoni geiriad i adlewyrchu’r dull o gyhoeddi crynodeb cwricwlwm eich ysgol a nodir yn yr adran Ymlaen â’r daith a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024
  • geiriad sy’n cysylltu asesiadau personol a chynnydd ac asesu yn well ac i egluro newidiadau deddfwriaethol sy’n ymwneud ag asesiadau personol o fis Medi
  • diwygiadau i eiriad yn yr adrannau Cynllunio’ch Cwricwlwm a Trefniadau Asesu i sicrhau cysondeb ag adrannau eraill o’r canllawiau ac i adlewyrchu bod pob ysgol a gynhelir a lleoliadau eraill bellach yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru gyda dysgwyr hyd at Flwyddyn 9
  • cywiro hyperddolenni a gwallau argraffyddol.

Os oes gennych ymholiad am y canllawiau, neu os gwelwch fod gwall neu broblem, rhowch wybod inni drwy e-bostio: cwricwlwmigymru@llyw.cymru ar gyfer adolygiad.

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025: Cymerwch rhan

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel bob blwyddyn ar 11 Chwefror.

Y thema ar gyfer eleni yw amddiffyn rhag sgamiau ar-lein.

Cofrestru ar gyfer gwasanaethau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Bydd e-sgol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau fel rhan o Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025. Nod y gwasanaethau hyn yw addysgu plant a phobl ifanc am sgamiau ar-lein a hyrwyddo arferion rhyngrwyd mwy diogel. Byddant hefyd yn hyrwyddo adnoddau a chanllawiau gwerthfawr i sicrhau profiad ar-lein mwy diogel i bawb yng Nghymru.

I gofrestru eich ysgol neu ddosbarth ar gyfer gwasanaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, cwblhewch y ffurflen gofrestru fer, gan sicrhau eich bod yn cofrestru gyda’ch cyfeiriad e-bost Hwb a dewis eich Iaith.

Pecynnau addysg

Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi cynhyrchu pecynnau addysg i ymarferwyr, sy’n llawn gweithgareddau deniadol i ddysgwyr o 3 i 18 oed.

Mae’r adnoddau dwyieithog hyn yn canolbwyntio ar thema’r diwrnod, sef sgamiau ar-lein, ac maent bellach ar gael ar Hwb:

Rhannu gweithgareddau eich ysgol

I ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025, rydym wedi gwahodd ysgolion i greu cynnwys ar gyfer yr ardal Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb, gyda’r cynnwys newydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Byddwn hefyd yn rhannu gweithgareddau dysgwyr gan ddefnyddio Microsoft Sway yn y cyfnod cyn ac ar y diwrnod ei hun, felly os hoffai eich ysgol gymryd rhan, cwblhewch ein ffurflen fer (angen mewngofnodi Hwb).

Digwyddiadau Dysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ein heitem blog ym mis Tachwedd darparwyd diweddariad am ganllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16 o dan Cwricwlwm i Gymru a dolenni i’r adnoddau i gefnogi ysgolion i drefnu a chynllunio eu cwricwlwm ar gyfer y garfan gyntaf o ddysgwyr blwyddyn 10 o dan Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2025. Dywedon ni hefyd y byddem yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru i’ch cefnogi.  

Cynhelir ein digwyddiadau dysgu 14 i 16 ar gyfer timau arweinyddiaeth ysgolion ledled Cymru rhwng Chwefror ac Ebrill 2025.

Rydym yn gobeithio y bydd holl arweinwyr ysgolion uwchradd a chydweithwyr mewn awdurdodau lleol sydd â diddordeb yn dysgu 14 i 16 (hyd at 2 o bob awdurdod lleol) yn gallu dod; os na fydd arweinydd neu gydweithiwr yn gallu dod i’w digwyddiad lleol nhw, mae croeso iddynt ddod i ddigwyddiad arall, lle bo’n bosibl.

Mae’r ffurflen gofrestru bellach yn fyw ac mae hon yn dangos lleoliad pob digwyddiad.

Agenda ar gyfer y digwyddiadau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI) mewn ysgolion

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae canllawiau ar gael ar Hwb i gefnogi ysgolion sy’n ystyried, neu’n dechrau defnyddio, Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae’n rhan o becyn ehangach o gymorth i ysgolion sydd ar gael ar Hwb ac fe’i datblygwyd gyda mewnbwn gan arbenigwyr diogelwch ar-lein blaenllaw, gan gynnwys Canolfan Rhyngrwyd Ddiogelach y DU, Common Sense Education, Praesidio Safeguarding a Internet Matters. 

Adolygiad Estyn

Bydd Estyn yn arwain adolygiad i ddeall sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd hyn yn cynnwys arolwg ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gofyn am eu barn a’u profiad, ac yna ymgysylltu mwy manwl ag athrawon. 

Rhannwch eich barn a’ch profiadau ar Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn arolwg Estyn.

Ymgynghoriad: Data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant a’r Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Rydym eisiau eich safbwyntiau ar ein dull o ddefnyddio Data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a a gwelliant.

Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar y fframwaith arfaethedig Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16.

Gweler fwy yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Mawrth 2025.

Gall y rhai sy’n gweithio yn y sector ysgolion gymryd rhan yma.

Gall y cyhoedd ymateb yma.