Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r manteision i ddysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn ddigonol a byddant yn para am oes. Mae’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn darparu safbwyntiau allweddol i ddysgwyr ac maent o bwys penodol o ran cefnogi dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Maent hefyd yn gallu cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a’u hannog i ymgysylltu â phersbectifau gwahanol a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach.
Profiad sy’n newid bywyd
Ymwelodd Ysgol Gymuned Ferndale yn Rhondda Cynon Taf â Singapôr ar gynllun symudedd a ariannwyd gan Taith. Roedd yn brosiect sy’n seiliedig ar STEM gyda ffocws ar beirianneg a dyframaethu. I ysgol lle nad yw mwy na thraean o ddisgyblion erioed wedi bod dramor, roedd y cyfle i deithio i Singapore ar gyfer grŵp o ddysgwyr Blwyddyn 9 yn brofiad a newidiodd eu bywydau.

Dyma beth oedd gan un o’r athrawon i’w ddweud am y daith:
“Ni allwn roi gwerth ar yr hyn a gafodd y disgyblion o’r daith hon, yn enwedig yn y gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i rai o’r plant hyn yn rhywbeth na fydden nhw byth yn gallu cael mynediad iddo heb y cyllid hwn.”
Gallwch ddarllen y stori lawn yma a storïau eraill ar wefan Taith.
Sut y gallwch geisio cyllid ar gyfer cyfnewid rhyngwladol?
Rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru yw Taith. Mae’n cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhedwar ban byd. Mae symudiadau a phrosiectau Taith yn ceisio ysbrydoli dysgwyr a chodi dyheadau.
Mae cyllid Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewid dysgu yn rhyngwladol trwy symudedd allanol (cyfranogwyr sy’n mynd o Gymru) a symudedd mewnol (cyfranogwyr sy’n dod i Gymru) gan naill ai grwpiau neu gyfranogwyr unigol. Ar gyfer 2025, gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 trwy Gynllun Grantiau Bach newydd. Mae’r cynllun yn cynnwys ffurflen gais symlach gyda llai o gwestiynau a llai o ofynion rheoli prosiectau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.
Bydd galwadau am gyllid Llwybr 1 ar agor tan 27 Mawrth. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais o fewn pedwar mis i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Bydd Taith yn cynnal nifer o weminarau lle byddant yn rhannu manylion y meini prawf cymhwystra, gweithgareddau cymwys ac arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais.
Mae Cynllun Turing hefyd yn cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd. Mae ysgolion yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid.
Bydd ceisiadau ar gyfer Cynllun Turing ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 ar agor hyd at 14 Mawrth 2025. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi i ymgeiswyr ym mis Mehefin 2025.
Gwobr Ysgol Ryngwladol y British Council
Mae’r Wobr Ysgol Ryngwladol yn gwobrwyo ysgolion sydd wedi dangos ymrwymiad i ymgorffori ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngwladol yn eu dosbarth neu ysgol.
Mae lefel Sylfaen y Wobr Ysgol Ryngwladol ar gyfer ysgolion sy’n cychwyn ar eu taith ryngwladol. Yr unig ofyniad ar gyfer y lefel Sylfaen yw tystiolaeth i ddangos o leiaf un gweithgaredd rhyngwladol yn seiliedig ar gwricwlwm sy’n gwella dealltwriaeth myfyrwyr o wledydd, diwylliannau a materion byd-eang eraill. Gallai hyn fod yn symudedd a ariennir gan Gynllun Taith neu Turing. Mae derbynwyr y gwobrau yn derbyn tystysgrif cyflawniad ac adborth ac arweiniad arbenigol ar wella a chynnal eu gwaith rhyngwladol.