Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau 2025 i ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn eich ymatebion i’r ymgynghoriad yn ystod yr hydref, byddwn ni’n gwneud newidiadau i ganllawiau statudol fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mae rhai o’r newidiadau hyn wedi eu gwneud eisoes a bydd eraill yn digwydd dros yr wythnosau nesaf. Mae’r dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen o’r canllawiau ar Hwb yn dangos a oes newid wedi’i wneud. Darllenwch ymlaen i weld beth sy’n newid a pha rannau o’r canllawiau rydyn ni’n gweithio i’w gwella.

Llythrennedd

Rydym wedi gwneud mân newidiadau i fod yn glir am rôl a phwysigrwydd ffoneg. Mae’r canllawiau statudol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn glir bod rhaid i addysgu ffoneg, yn systematig ac yn gyson, fod yn rhan allweddol o ddull dysgu darllen yn ein hysgolion. Rydym wedi diweddaru’r adran hon o’r canllawiau i egluro ymhellach rôl addysgu ffoneg systematig a chyson i alluogi dysgwyr i ddadgodio geiriau.

Ar ôl dysgu dadgodio geiriau, bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o strategaethau i ddatblygu dealltwriaeth o ystyr geiriau a brawddegau. Mae newidiadau wedi eu gwneud i’r canllawiau i egluro’r defnydd o luniau a chiwiau i helpu dysgwyr i ddeall ystyr yr hyn maen nhw’n ei ddarllen – nid yw’n argymell defnyddio lluniau i helpu dysgwyr gyda dadgodio geiriau.

Bydd cefnogaeth bellach ar gyfer addysgu a datblygu llythrennedd yn dilyn nes ymlaen eleni. Rydym eisoes yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob ysgol ac ymarferydd fynediad at yr un hyfforddiant a chymorth ansawdd uchel i addysgu llythrennedd, ac rydym yn adolygu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i gefnogi’r proffesiwn addysgu cyfan i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Bydd hyn yn cael ei ategu gan egwyddorion cenedlaethol clir,  seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd yn effeithiol.

Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith cychwynnol i gefnogi llythrennedd yn y blog Cynllunio cwricwlwm: Tystiolaeth ac arbenigedd

Galluogi Dysgu

Yn dilyn adborth, rydym am gymryd mwy o amser i gael y newidiadau i’r adrannau Galluogi dysgu ac Addysgeg  yn iawn, felly ni fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r adrannau hyn yn y canllawiau ar hyn o bryd.

Pwrpas y ddwy adran hon yw i sicrhau bob pob ymarferydd yn mabwysiadu dull sy’n ddatblygiadol addas ac yn addas o ran addysgeg i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Cafodd y canllawiau Galluogi dysgu eu datblygu gyda phlant o bob oed ar bob cam o’u datblygiad mewn golwg. Gofynnodd ein ymgynghoriad am farn ar newid y canllawiau i fynegi yn fwy clir sut mae’r egwyddorion hyn yn gallu cefnogi dysgwyr hŷn hefyd. Mae dysgu ac addysgu effeithiol yn hollbwysig i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd a byddwn yn dal ati i weithio gydag ymarferwyr i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen i ddefnyddio’r 12 egwyddor addysgegol a’r 3 elfen galluogi yn effeithiol ar gyfer pob dysgwr.

Diffiniadau

Mae rhai o’r diffiniadau a welwch pan fyddwch yn hofran dros dermau sydd wedi’u hamlygu wedi’u diwygio i wneud y diffiniadau yn gliriach ac i sicrhau bod cysondeb yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Nid yw’r newidiadau hyn i ddiffiniadau yn newid sylwedd yr hyn sy’n cael ei gyfleu yn y canllawiau.

Fersiwn Gymraeg o’r canllawiau

Mae fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ganllawiau statudol fframwaith y  cwricwlwm (yn hytrach na chyfieithiad uniongyrchol o un iaith i’r llall). Roedd rhai rhannau o’r canllawiau yn destun proses golygu ddwyieithog cyn eu cyhoeddi ac roedd eich adborth trwy’r ymgynghoriad diweddar yn amlygu’r angen am adolygiad llawn o’r fersiwn Gymraeg yn benodol. Rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r adolygiad hwn dros y misoedd nesaf i wella ansawdd a chysondeb y fersiwn Gymraeg.

Mae’r newidiadau hefyd yn cynnwys:

  • cysoni geiriad i adlewyrchu’r dull o gyhoeddi crynodeb cwricwlwm eich ysgol a nodir yn yr adran Ymlaen â’r daith a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024
  • geiriad sy’n cysylltu asesiadau personol a chynnydd ac asesu yn well ac i egluro newidiadau deddfwriaethol sy’n ymwneud ag asesiadau personol o fis Medi
  • diwygiadau i eiriad yn yr adrannau Cynllunio’ch Cwricwlwm a Trefniadau Asesu i sicrhau cysondeb ag adrannau eraill o’r canllawiau ac i adlewyrchu bod pob ysgol a gynhelir a lleoliadau eraill bellach yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru gyda dysgwyr hyd at Flwyddyn 9
  • cywiro hyperddolenni a gwallau argraffyddol.

Os oes gennych ymholiad am y canllawiau, neu os gwelwch fod gwall neu broblem, rhowch wybod inni drwy e-bostio: cwricwlwmigymru@llyw.cymru ar gyfer adolygiad.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading