Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Hoffech chi ddysgu mwy am adnoddau i athrawon a’r digwyddiadau rydyn ni’n eu trefnu ar y cyd ar gyfer timau arweinyddiaeth ysgolion yn y flwyddyn newydd?
Yn gynharach y tymor hwn, fe wnaethon ni gyhoeddi Canllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16 o dan Cwricwlwm i Gymru i gefnogi ysgolion i drefnu a chynllunio eu cwricwlwm ar gyfer y garfan gyntaf o ddysgwyr blwyddyn 10 o dan Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2025.
Mae Canllawiau Dysgu 14 i 16 hefyd yn ategu cyhoeddi’r don gyntaf o fanylebau arholiadau TGAU diwygiedig CBAC.
Wrth ymateb i’r adborth, rydyn ni wedi gweithio gydag arweinwyr ysgolion i greu pecyn cymorth dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm i ddysgwyr ym mlwyddyn 10 ac 11 sy’n gwneud y defnydd gorau o gymwysterau ac sy’n bodloni’r disgwyliadau a nodir yng Nghanllawiau Dysgu 14 i 16. Mae’r pecyn hwn yn ategu gwaith CBAC i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cymwysterau Yn arbennig i Gymru newydd.
Mae PowerPoint Dysgu 14 i 16 o dan Cwricwlwm i Gymru yn helpu ysgolion i ddeall a gweithredu’r canllawiau.
Mae’r adnodd ar ddefnyddio manylebau cymwysterau yn llwyddiannus o fewn Cwricwlwm i Gymru yn helpu ysgolion i ddeall sut i ddefnyddio manylebau cymwysterau newydd Gwneud-i-Gymru i gefnogi cynnydd dysgwyr ar hyd y cwricwlwm 3-16.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Addysg at benaethiaid dysgwyr oedran uwchradd yn eu gwahodd nhw a’u timau arweinyddiaeth i’n Cynadleddau Arweinyddiaeth 14-16 a gaiff eu cynnal ledled Cymru ddechrau 2025.
Bydd y cynadleddau yn rhoi cyfle ac amser i arweinwyr drafod Canllawiau Dysgu 14-16 yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru 3-16, a’u pwysigrwydd wrth gefnogi pob dysgwr i bontio’n effeithiol i addysg ôl-16; ond hefyd i ystyried goblygiadau o ran:
- Hunanwerthuso a gwella (gan gynnwys defnyddio data, gwybodaeth a thystiolaeth)
- Addysgeg (gan gynnwys cwricwlwm, cynnydd ac asesu, effeithiolrwydd dysgwyr a delio â rhwystrau i ddysgu)
- Cwricwlwm ac amserlennu (gan gynnwys ystyried amser ac adnoddau’r cwricwlwm, a chydbwysedd rhwng asesiadau nad ydynt yn arholiad/arholiadau ar draws y gyfres o gymwysterau)
Rydyn ni’n anelu at gynnal y cynadleddau hyn ar y diwrnodau HMS y cytunwyd arnynt ac ar y cyd â digwyddiadau Dysgu Proffesiynol CBAC ar gyfer TGAU nwydd ‘ton 1’. Bydd rhagor o fanylion am leoliad, agenda ynghyd â dolenni cofrestru yn cael eu rhannu gydag uwch arweinwyr yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rydyn ni’n gweithio gyda Dr James Mannion, ac uwch arweinwyr ledled Cymru, i ddatblygu rhaglen dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil, rhaglen yn ymwneud â gwreiddio effeithiolrwydd dysgwyr, i gefnogi ysgolion i addysgu dysgwyr a phobl ifanc o ran sut i fod yn ddysgwyr mwy hyderus, rhagweithiol sy’n gallu rheoli eu dysgu eu hunain.
Mae’r rhaglen yn cael ei threialu a’i hadolygu i’w chyhoeddi yn nhymor yr haf 2025, er mwyn i ysgolion ei defnyddio o fis Medi 2025.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi nifer o astudiaethau achos ochr yn ochr â chyhoeddi’r rhaglen, i arddangos effaith bwysig y gwaith hwn drwy gydol y broses o gynllunio’r cwricwlwm.