Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Bydd grantiau yn cael eu dyfarnu o fis Ebrill 2025 am hyd at 3 blynedd ariannol i amrywiol sefydliadau er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r cwricwlwm o dan raglen cymorth grant newydd y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno cynigion yn dechrau ar 29 Tachwedd 2024 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2025.
Mae’r rhaglen newydd yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau gwell adlewyrchiad o’r ffordd y mae’r cwricwlwm yn cael ei ddysgu ac anghenion cymorth ysgolion a lleoliadau.
Dyfernir grantiau naill ai’n uniongyrchol i sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni blaenoriaethau’r cwricwlwm, neu drwy gynigion cystadleuol i sefydliadau sy’n targedu prosiectau penodol yn erbyn blaenoriaethau cymorth cenedlaethol clir.
Bydd cynigion cystadleuol yn canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau allweddol y cwricwlwm:
- Cynllunio’r cwricwlwm
- Llythrennedd
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg
Bydd y rhaglen grant newydd hefyd yn cynnwys dyfarniadau cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol (drwy CLlLC) a Dysgu Sylfaen.
Gellir gwirio pwy sy’n gymwys yma: https://www.llyw.cymru/rhaglen-cymorth-grant-y-cwricwlwm-i-gymru-canllawiau
Bydd grantiau yn cael eu dyfarnu i sefydliadau sydd â hanes o gefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion a lleoliadau ac sy’n gallu dangos dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm i Gymru
Gwahoddir sefydliadau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus, prifysgolion a chwmnïau preifat i wneud cais am y grantiau i gefnogi ysgolion gydag arbenigedd, hyfforddiant, deunyddiau a digwyddiadau, gan sicrhau ystod o gefnogaeth gan sefydliadau allanol.