Neidio i'r prif gynnwy

Dull newydd o ddatblygu’r gweithlu addysg yng Nghymru

Read this post in English

Mae Cymru’n ailwampio’r ffordd y mae athrawon a staff addysg yn datblygu eu sgiliau. Ers mis Medi 2025, bydd Dysgu, corff Dysgu Proffesiynol ac Addysg Arweinyddiaeth Cenedlaethol Cymru, yn llywio cyfleoedd datblygu proffesiynol ar draws y wlad.

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Dysgu, yn arwain tîm o dri ar ddeg o staff sydd wrth y llyw yn arwain y newid.

Mae Dysgu yn cynrychioli symud sylweddol tuag at ddull symlach a mwy cyson o ddarparu datblygiad proffesiynol ym myd addysg, gyda’r nod yn y pen draw o wella cymorth ar gyfer addysgwyr a deilliannau i ddysgwyr ar draws Cymru.

Yn ystod ei flwyddyn gyntaf – sy’n flwyddyn drosiannol – bydd Dysgu’n derbyn cyfrifoldeb dros raglenni cenedlaethol mewn meysydd fel llythrennedd, rhifedd a lles, ochr yn ochr â datblygu cymorth ar gyfer arweinwyr ar bob lefel.

Bydd Dysgu yn adeiladu capasiti o amgylch tair prif thema:

  • Arweinyddiaeth
  • Cwricwlwm ac Addysgu
  • Lles a Chynhwysiant

Bydd arlwy Dysgu yn darparu Dysgu Proffesiynol safonol yn Gymraeg a Saesneg, gan adlewyrchu anghenion a dyheadau’r sector ac ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol.

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn cyflwyno’r rhaglen CPCP Cymru ar ei newydd wedd ar gyfer darpar benaethiaid ac mae cyfleoedd coetsio’n cael eu darparu i benaethiaid profiadol. Ddechrau mis Tachwedd, hysbysebwyd rhaglen beilot newydd, Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog: dysgu proffesiynol i addysgwyr, ar Hwb, ac mae sioe deithiol Fathemateg yn cael ei chynnal gan Dysgu ac Estyn ym mis Chwefror. Mae Cadeirydd newydd Dysgu – Yr Athro Dylan Jones – yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr ac mae aelodau newydd yn cael eu recriwtio i’r Bwrdd.

Bydd Dysgu yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar bolisi, gydag Estyn ar ganfyddiadau arolygu, a gydag awdurdodau lleol, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant wedi’i deilwra er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol ysgolion drwy fodelau cydweithredu rhwng ysgolion.

Bydd Dysgu yn datblygu dysgu proffesiynol sy’n hygyrch, yn gyson, ac yn cael effaith, gan rymuso addysgwyr i ffynnu a gwella deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.

Dewch ar y daith

Cofrestrwch i dderbyn newyddion Dysgu i ddarganfod cyfleoedd newydd, digwyddiadau ac adnoddau sy’n llunio dyfodol addysg yng Nghymru.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading