Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthuso Polisi Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru: Dywedwch eich dweud

Read this post in English

Mae ein hymchwil sy’n gwerthuso’r polisïau sy’n cefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru ar y gweill. Mae’r ymchwil wedi’i arwain gan grŵp llywio rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o:

  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Estyn
  • Partneriaethau AGA
  • Y Bwrdd Achredu Addysg Athrawon
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Ers y tymor haf, mae Alma Economics wedi bod yn gweithio gyda’n grŵp llywio i lunio’r gwerthusiad ac i baratoi ar gyfer cam gwaith maes yr ymchwil.

Bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall sut y gall ein polisïau gefnogi’n well recriwtio, datblygu a chefnogi myfyrwyr athrawon wrth iddynt ddechrau ar eu taith broffesiynol, yn ogystal â’r sector AGA ehangach.

Os ydych yn ymwneud ag AGA, yn fyfyriwr athro neu’n athro gyrfa gynnar, dyma eich cyfle i roi eich barn am ein system AGA.

Beth mae’r ymchwil yn ei archwilio

Mae AGA o ansawdd uchel yn hanfodol i sicrhau addysg ragorol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae’r gwerthusiad yn canolbwyntio ar bolisïau addysg Cymru a’r diwygiadau deddfwriaethol sy’n cefnogi ein system AGA ac yn archwilio sut mae cynlluniau cymhelliant AGA wedi dylanwadu ar recriwtio myfyrwyr athrawon.

Cymerwch ran

Os yw eich ysgol yn ymwneud ag AGA, efallai y bydd eich Partneriaeth AGA yn cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.

Gallwch hefyd ein helpu drwy gwblhau arolwg ar-lein. Cwblhewch un arolwg yn unig os gwelwch yn dda.

Os ydych yn gweithio mewn Sefydliad Addysg Uwch (SAU) neu’n fyfyriwr AGA, dilynwch y ddolen arolwg SAU:

https://www.surveymonkey.com/r/QBR6B75

Os ydych yn gweithio mewn Ysgol Ymarfer Clinigol AGA neu’n Athro Cymwysedig Newydd, dilynwch y ddolen arolwg Ysgolion:

https://www.surveymonkey.com/r/QBGBL5P

Mae’r arolwg yn cymryd tua 10–15 munud i’w gwblhau, ac mae eich cyfranogiad yn ddienw ac yn wirfoddol, a gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg drwy gau’r ffenestr borwr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei storio a’i ddefnyddio yma:

https://tinyurl.com/yh8pfpjp

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading