Neidio i'r prif gynnwy

Gwella addysg yn gyfrifoldeb a rennir – cyhoeddi Canllawiau Gwella Ysgolion diwygiedig

Read this post in English

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r diweddariad i Ganllawiau Gwella Ysgolion, sy’n cryfhau’r ffordd yr ydym yn cefnogi gwelliant ledled Cymru. Mae’r canllawiau yn adlewyrchu canlyniadau’r adolygiad diweddar o rolau a chyfrifoldebau ac yn nodi uchelgais clir a rennir: bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i gyrraedd ei botensial llawn, a hynny o fewn system addysg deg a chydweithredol.

Wrth wraidd y canllawiau mae egwyddor syml, sef bod gwelliant yn gyfrifoldeb a rennir.

Ni ddylai ysgolion weithio ar wahân. Trwy ddatblygu cymunedau gwella lleol cryf, gall partneriaid ddefnyddio arbenigedd ar y cyd, ymateb i heriau’n fwy effeithiol, a datblygu atebion sy’n gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr. Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu diwylliant sy’n seiliedig ar fod yn agored, meithrin ymddiriedaeth a dysgu parhaus.

Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar bum egwyddor graidd;

  • Cydgyfrifoldeb am godi safonau ar gyfer pob dysgwr.
  • Cydweithio pwrpasol sy’n dod â safbwyntiau allanol ac yn annog trafodaeth broffesiynol.
  • Ffocws ar weithgarwch sy’n gwella dysgu.
  • Meithrin capasiti o fewn y system ysgolion, fel bod modd rhannu a chryfhau arbenigedd.
  • Eglurder a chydlyniant rhwng partneriaid, gan gysylltu anghenion lleol â blaenoriaethau cenedlaethol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd newydd – trwy gydweithio fertigol a llorweddol, hunanwerthuso cadarn, a chynllunio strategol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r nod yn glir: deilliannau gwell, arweinyddiaeth gryfach, a system addysg fwy cynhwysol i Gymru.

Rydym yn annog pob partner i ymgysylltu’n llawn â’r canllawiau hyn a bod yn weithredol wrth lunio system wella sy’n gweithio i bawb. Trwy gydweithio, gallwn adeiladu system sy’n ymateb i heriau heddiw wrth osod sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading