Mae mwy i hyn na dim ond deall hanes na daearyddiaeth yn unig, mae’n ymwneud â pharatoi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu ymgysylltu â phrosesau democrataidd a gwneud penderfyniadau meddylgar am y byd o’u cwmpas.

I athrawon, mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn siapio beth rydym yn addysgu a sut rydym yn gwneud hynny. O’r blynyddoedd cynnar hyd at 16 oed, disgwylir i ddysgwyr archwilio cysyniadau fel hawliau, cyfrifoldeb, cyfiawnder a llywodraethu, a deall sut mae systemau gwleidyddol yn gweithredu’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Drwy wreiddio’r syniadau hyn wrth gynllunio eich cwricwlwm, rydych chi’n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau a rhesymu moesegol sy’n hanfodol ar gyfer bywyd yn y Gymru fodern a thu hwnt.
Bydd etholiad nesaf i’r Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026. Gall unrhyw un 16 oed neu’n hŷn sy’n byw yng Nghymru bleidleisio. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â gwleidyddiaeth amser real i fywyd yn y dosbarth.
Mae llawer o adnoddau a sefydliadau ar gael i’ch cefnogi i ennyn diddordeb eich dysgwyr mewn addysg ddemocrataidd cyn yr etholiad.
Adnoddau, digwyddiadau a mwy
Adnoddau ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2026
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiwn y Senedd a’r Comisiwn Etholiadol wedi gweithio mewn partneriaeth i greu adnoddau newydd sy’n cefnogi pobl ifanc i ddysgu am y Senedd a sut i bleidleisio, Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at bobl sy’n pleidleisio am y tro cyntaf ond maent yn addas ar gyfer pob person ifanc ym mlwyddyn 10 ac uwch.
Dyma rai o’r pynciau allweddol mae’r adnoddau’n ymdrin â hwy:
1. Hawliau plant a phwysigrwydd pleidleisio
2. Rôl a hanes y Senedd a sut mae’n newid yn 2026
3. Sut i gofrestru a phleidleisio yn etholiad Senedd Cymru
a cynnwys gwasanaeth, cynlluniau gwersi, gweithgareddau sydyn ac arweiniad i addysgwyr. Llwythwch adnoddau etholiad Senedd Cymru i lawr: https://senedd.cymru/ymweld-a-ni/addysg-ac-ymgysylltu-a-phobl-ifanc/adnoddau-addysgu/i-bobl-ifanc-14
Sgwrsio am y Senedd: Rhaglen Hyfforddiant i Addysgwyr
Mae sesiwn ar-lein Tim am ddim Comisiwn y Senedd ar gael am ddim ac wedi’i chynllunio’n arbennig gyfer addysgwyr sy’n dechrau dysgu am y Senedd. Ei nod yw rhoi hwb i hyder addysgwyr wrth ddechrau sgyrsiau â phobl ifanc am wleidyddiaeth, pleidleisio ac etholiadau.
Yn y sesiwn 45 munud hon, bydd addysgwyr yn dysgu am y Senedd, democratiaeth yng Nghymru, a byddant yn cael canllawiau cam wrth gam i chi ar sut i gyflwyno sesiynau i bobl ifanc.
Gadewch i ni Sgwrsio Senedd: egluro democratiaeth yng Nghymru (4 Chwefror, 16.00 – 16.45)
Gadewch i ni Sgwrsio Senedd: egluro democratiaeth yng Nghymru (5 Mawrth, 16.00 – 16.45)
Ymweld â’r Senedd
Gall addysgwyr drefnu sesiwn addysgol ysgol am ddim i’r Senedd a derbyn sesiwn bwrpasol gan Dîm Addysg y Senedd. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pob oed ac yn rhoi cipolwg ar sut mae’r Senedd, a democratiaeth yn gweithio yng Nghymru. Mae cymhorthdal teithio ar gael hefyd.
I archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen isod: https://senedd.cymru/ymweld-a-ni/addysg-ac-ymgysylltu-a-phobl-ifanc/ymweld-a-ni
Ymweliad Addysgol a Gwaith Maes
Mae tîm Addysg y Senedd hefyd yn darparu ymweliad addysgol am ddim i’ch ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid. Mae eu hymweliadau wedi’u teilwra i’ch anghenion ond gyda phwyslais clir ar waith y Senedd ac Etholiadau’r Senedd sydd ar ddod.
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais (9 – 16 Mawrth 2026)
Cyfle i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc ddechrau sgwrs am ddemocratiaeth a phleidleisio. Bob blwyddyn mae’r Comisiwn Etholiadol yn gwahodd ysgolion, grwpiau ieuenctid, a thimau etholiadau lleol i ymuno â ni i ddathlu democratiaeth trwy gynnal gweithgareddau sy’n helpu pobl ifanc i ddeall sut mae’n gweithio a sut i gymryd rhan.
Rhagor o wybodaeth a chofrestru i gymryd rhan.
Adnoddau’r Comisiwn Etholiadol gan gynnwys cynllun gwers ar sut i gynllunio ymgyrch cofrestru pleidleiswyr, cynnal ymgyrch gofrestru ac ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth
Canllawiau ar sut i ymgorffori addysg am ddemocratiaeth yn y Cwricwlwm i Gymru
Fideos i bobl ifanc am y Senedd ac am etholiadau’r Senedd.
Host a Hustings Cymru
Yma gall athrawon ac ymarferwyr ieuenctid gael cymorth i drefnu a chyflwyno eu digwyddiadau cyfarfod ieuenctid eu hunain ar gyfer etholiadau Senedd 2026.
Mae Hystings Ieuenctid yn rhoi llwyfan i bobl ifanc 14-25 oed ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymgeiswyr etholiadol yn etholiadau Cymru. Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau, lleisio eu barn, a chymryd rhan mewn deialog ystyrlon wrth iddynt baratoi am etholiadau lleol a chenedlaethol. Gellir cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am Host a Hustings Cymru, a dolen i gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, ar gael yma.
Rhaglen Digital Dialogues: Wales
Cymorth i ddysgwyr ledled Cymru gael sgyrsiau ystyrlon gyda’u cynrychiolwyr etholedig.
Mae hefyd yn helpu athrawon i baratoi dysgwyr ar gyfer y sgyrsiau hynny drwy gyflwyno gweithdai deniadol gydag adnoddau dysgu sy’n grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd, gan gefnogi un o bedwar pwrpas craidd Cwricwlwm Cymru yn uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am Digital Dialogue: Wales yma.
Mae Shout Out UK (SOUK)
yn cynnal rhaglen ddwy flynedd o weithdai rhyngweithiol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru i hysbysu a grymuso pobl ifanc (14-18 oed) i gymryd rhan ymarferol yn nemocratiaeth y wlad.
Nod y rhaglen yw cynyddu’r tebygolrwydd y bydd cyfranogwyr yn pleidleisio a chynyddu eu dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr werthuso gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag etholiadau, sylwi ar gamwybodaeth/twyllwybodaeth, mynd i’r afael â chasineb ar-lein, hyrwyddo diogelwch ymgeiswyr, a dod yn ddinasyddion digidol cyfrifol, gweithredol a gwybodus. Cysylltwch â caitlin@shoutoutuk.org i drefnu sesiynau am ddim yn eich ysgol!
Mae gwybodaeth a dolenni am y cyfan o’r uchod, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol i’ch cefnogi yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad 2026 ar gael ar dudalen Etholiadau’r Senedd ar Democracy Classroom.