Mae’r Gwasanaeth Llesiant Staff yn parhau i gynnig Goruchwyliaeth Broffesiynol i arweinwyr a rheolwyr ysgol yng Nghymru. Mae gan oruchwyliaeth ffocws proffesiynol ac mae’n gwbl gyfrinachol. Mae’n amser sydd wedi’i neilltuo i’ch rôl fel arweinydd addysg, a bydd yn eich helpu i wella’ch llesiant.
Ers 2020 maent wedi cefnogi bron i 2,500 o arweinwyr ysgol a choleg gyda 99% yn argymell y gwasanaeth i gydweithiwr neu ffrind. Gall y pynciau sy’n cael eu harchwilio mewn goruchwyliaeth gynnwys:
Ymdrin ag agweddau emosiynol heriol yn eich rôl
Cydbwyso gyrfa heriol gyda bywyd cartref iach
Eich hunaniaeth broffesiynol a’r gost bersonol o wneud eich gwaith
Rheoli perthnasoedd gwaith anodd
Ailgysylltu â’r hyn sy’n wych am yrfa mewn addysg
Mae goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a llesiant rheolwyr ac arweinwyr. Mae astudiaethau’n dangos bod goruchwyliaeth yn gysylltiedig â boddhad swydd, gwell llesiant emosiynol a llai o ddiffygiad (Dawson et al, 2013).
Dysgwch pam mae goruchwyliaeth yn hanfodol i arweinwyr a rheolwyr ysgol a beth i’w ddisgwyl o sesiwn, yn y sesiwn holi ac ateb hwn gyda’r Goruchwylydd, Toby Cooper. Dysgwch sut mae goruchwyliaeth yn diogelu llesiant staff, yn cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau, ac yn helpu i drawsnewid diwylliant yr ysgol er budd disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach.
Awgrymwn fod arweinwyr a rheolwyr ysgol yng Nghymru yn cofrestru nawr ar gyfer Goruchwyliaeth Broffesiynol sy’n cael ei hariannu, gan fod lleoedd yn gyfyngedig.
Mae Gareth Morgans wedi’i benodi i arwain yr adolygiad tirwedd cenedlaethol o ddarpariaeth eiriolaeth ADY yng Nghymru. Ar ôl ymddeol yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, mae Gareth yn dod â bron i bedwar degawd o brofiad sy’n rhychwantu’r ystafell ddosbarth, 18 mlynedd fel pennaeth ysgol gynradd, ac arweinyddiaeth uwch mewn awdurdod lleol.
Mae’r cyfuniad hwn o brofiad ystafell ddosbarth, arweinyddiaeth ysgol, a goruchwyliaeth strategol yn golygu bod Gareth yn dod â phersbectif cynhwysfawr unigryw i’r adolygiad hanfodol hwn. Mae’r adolygiad a’i argymhellion yn bwysig i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gan fod y system ADY wedi’i hadeiladu o amgylch ymarfer person ganolog.
Fe wnaethom eistedd gyda Gareth i glywed yn uniongyrchol am ei gynlluniau ar gyfer yr adolygiad.
C. Beth sbardunodd yr adolygiad tirwedd hwn o wasanaethau eiriolaeth ADY yng Nghymru?
Roedd tystiolaeth o ffynonellau lluosog yn tynnu sylw at faterion systemig o ran darpariaeth eiriolaeth ADY yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys canfyddiadau o’r adolygiad deddfwriaethol ADY, arolygon rhieni/gofalwyr, ac enghreifftiau uniongyrchol o deuluoedd yn cael trafferth llywio’r system ADY. Nododd llawer o deuluoedd nad oeddent yn ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth, na sut i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth, er bod awdurdodau lleol yn ei hyrwyddo. Mae arfer da yn sicr yn bodoli, ond mae anghysondebau ar draws Cymru y mae angen mynd i’r afael â nhw.
C. Beth yw eiriolaeth ADY, a pham mae mor bwysig i deuluoedd?
Yn ymarferol, mae eiriolaeth yn golygu cael cymorth annibynnol, hyfforddedig i helpu i rannu barn, dymuniadau a theimladau dysgwr am eu haddysg a’u hanghenion penodol. Mae’n golygu helpu dysgwyr i ddeall eu hawliau, eu cefnogi i gymryd rhan yn hyderus mewn penderfyniadau am eu cymorth ADY a helpu i herio penderfyniadau os ydynt yn teimlo nad yw rhywbeth yn iawn.
Yn hollbwysig, nid yw eiriolwyr yn gweithio i’r ysgol na’r awdurdod lleol ac maent yn gwbl annibynnol. Eu rôl yw sefyll ochr yn ochr â’r plentyn neu’r person ifanc a’u teulu, gan sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a bod eu hawliau’n cael eu diogelu drwy gydol y broses ADY.
C. Sut fyddwch chi’n mapio’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ar draws 22 awdurdod lleol Cymru?
Mae’r adolygiad yn dilyn dull tri cham. Yn gyntaf, ymarfer mapio cynhwysfawr o’r arfer presennol ar draws Cymru, yn ADY yn ogystal â sectorau eraill megis gofal cymdeithasol plant. Bydd ymgysylltu’n uniongyrchol â phob awdurdod lleol yng Nghymru yn hanfodol i adeiladu dealltwriaeth lawn a chadarn o’r hyn sy’n cael ei gynnig i’n plant, pobl ifanc a’u teuluoedd o ran eiriolaeth. Bydd angen adolygiad o’r costau cysylltiedig hefyd i lywio trafodaethau ac opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Yn ail, ymchwil ddesg i fodelau eraill o ddarpariaeth ac arfer eiriolaeth yng Nghymru ac mewn mannau eraill, cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol ac archwilio’r dystiolaeth sydd ar gael.
Yn drydydd, cyfarfodydd unigol gyda rhanddeiliaid allweddol e.e. awdurdodau lleol, darparwyr eiriolaeth, Estyn, i glywed am yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella.
Bydd hyn yn arwain at adroddiad yn nodi’r hyn a ddysgwyd a meysydd i’w datblygu, gydag opsiynau ac argymhellion clir i’w hystyried.
C. Sut fyddwch chi’n sicrhau bod teuluoedd a phobl ifanc eu hunain yn llunio’r canfyddiadau?
Mae llais defnyddwyr yn ganolog i’r adolygiad hwn. Bydd ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a’u rhieni yn cael ei hwyluso drwy arolwg rhieni.
Bydd ymchwil ac adroddiadau gan bartneriaid gan gynnwys Plant yng Nghymru, SNAP Cymru, Tribiwnlys Addysg Cymru hefyd yn llywio’r gwaith. Bydd profiad dysgwyr a theuluoedd o eiriolaeth ADY yn llunio’r adroddiad a’r argymhellion yn uniongyrchol.
C. Beth yw’r canfyddiadau cynnar a’r themâu sy’n dod i’r amlwg?
Mae hon yn faes darpariaeth gymhleth. Mae’r ddeddfwriaeth ADY yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ynghylch gwybodaeth a chyngor, osgoi anghytundebau, datrys anghytundebau ac eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Gall deall y system ADY a sut i gael mynediad at gymorth fod yn ddryslyd iawn i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r pecyn cymorth Anghenion dysgu ychwanegol (ADY): rhieni a gofalwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â’r mater hwn. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith i sicrhau cysondeb neges ar draws gwefannau awdurdodau lleol a gwelliannau yn y ffordd y rhennir gwybodaeth.
Mae angen diffiniad a rennir yn amlwg o sut olwg sydd ar eiriolaeth effeithiol. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys arweinwyr awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth.
Mae hefyd yn amlwg bod darpariaeth eiriolaeth mewn sectorau eraill wedi’i rheoleiddio a’i harolygu a’i monitro’n rheolaidd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau’n derbyn cymorth o ansawdd uchel. Mae hyn yn rhywbeth i’w ystyried.
Mae angen i ddarpariaeth eiriolaeth hefyd symud o fod yn ddewis olaf i gael ei defnyddio’n gynharach i gefnogi plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Gall eiriolwyr sicrhau bod llais dysgwr yn cael ei glywed a bod eu dymuniadau a’u teimladau’n cael eu parchu o’r cychwyn cyntaf.
Mae cysondeb mewn gofynion hyfforddi ar gyfer eiriolwyr yn flaenoriaeth arall. Mae gan rai arferion yng Nghymru ofynion hyfforddi clir a fframweithiau penodol i wasanaethau sy’n sicrhau ansawdd a chysondeb. Mae cwestiynau ynghylch cofrestru a sicrhau ansawdd yn parhau i fod heb eu datblygu’n ddigonol.
Yn olaf, mae gwasanaeth eiriolaeth o ansawdd uchel yn gofyn am fuddsoddiad priodol. Mae angen i ni ddenu a chadw eiriolwyr cymwys, wedi’u hyfforddi’n dda a sicrhau seilwaith cymorth cadarn o’u cwmpas.
Edrych Ymlaen
C. Beth fydd yr adroddiad terfynol yn ei gynnwys?
Bydd adroddiad yr adolygiad yn darparu map cynhwysfawr o’r ddarpariaeth bresennol ar draws pob awdurdod lleol, yn sefydlu dealltwriaeth glir a rennir o sut olwg ddylai fod ar eiriolaeth o ansawdd uchel, yn nodi opsiynau ac argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer gwella, ac yn cynnig cynigion clir ar gyfer cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth diffiniedig i deuluoedd.
Mae’r adolygiad tirwedd ar y gweill ar hyn o bryd, gyda chanfyddiadau ac argymhellion i’w hadrodd i Fwrdd Cyflawni a Gwella ADY Cenedlaethol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiwedd mis Mawrth.
Mae Gareth yn glir nad ymarfer academaidd yn unig yw hwn, mae’n ymrwymiad i wella, wedi’i gefnogi gan gefnogaeth weinidogol gref ac wedi’i yrru gan leisiau’r sector addysg, teuluoedd a dysgwyr eu hunain.
Mae hanes Cymru’n dapestri cymhleth o straeon a phrofiadau tra gwahanol sydd eto’n gorgyffwrdd, a’r rheini’n adlewyrchu amrywiaeth rhyfeddol pobl a chymunedau’r genedl. Mae rhai o’r straeon hyn yn filoedd o flynyddoedd oed. Mae gan eraill wreiddiau mwy diweddar. Mae rhai’n tarddu o dir a daear Cymru. Mae gan eraill gysylltiadau â phedwar ban byd. Mae deall a pharchu profiadau pobl a chymunedau Cymru – yn eu holl amrywiaeth – yn fodd o werthfawrogi’n well pam fod Cymru fel mae hi. Mae’n fodd o’n helpu ni i ddeall mai cryfder, yn hytrach na gwendid, yw amrywiaeth.
Delwedd: Corb Davies
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ceisio sicrhau bod plant Cymru’n cael cyfleoedd difyr, gwerth chweil a dilys i ddysgu a deall yr hanes hwn.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru ein Grŵp Arbenigwyr yn 2024 i roi cyngor am sut i greu adnoddau a fyddai’n cefnogi ac yn ysbrydoli ysgolion wrth iddyn nhw addysgu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Roedd ein briff cychwynnol yn canolbwyntio ar ddatblygu un adnodd yn unig, sef amserlen hanes. Ond roedd hi’n amlwg i ni bod angen gwneud mwy o lawer i wir rymuso addysgwyr ac i hybu dealltwriaeth dysgwyr o hanes ein gwlad.
Rydyn ni wedi datblygu datganiad gweledigaeth ar gyfer gwreiddio Hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru:
Datblygu adnoddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol dwyieithog mewn ffordd barhaus a chydlynus, a hynny drwy’r holl gontinwwm 3-16, er mwyn ysbrydoli a galluogi athrawon a dysgwyr i drafod a darganfod ehangder, cyfoeth ac amrywiaeth hanes Cymru mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy’r Cwricwlwm i Gymru.
Ein syniad ni yw creu platfform hygyrch a hwnnw’n llawn dop o adnoddau arloesol a modern a fydd yn helpu i addysgu hanes Cymru mewn ffordd effeithiol a difyr. Rydyn ni’n awyddus i weld pecyn o adnoddau dwyieithog o ansawdd gwych sy’n hawdd i addysgwyr eu darganfod a’u defnyddio. Mae angen adnoddau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ehangach y cwricwlwm, sy’n gwella gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon, ac sy’n eu helpu i greu profiadau dysgu dilys a difyr, a hynny yn y dosbarth ac y tu hwnt iddo. Mae pob athro ac athrawes yn gwybod bod dysgu da’n seiliedig ar brofiadau uniongyrchol. Gan hynny, y ffordd orau o ddysgu hanes, fel daearyddiaeth, yw pan fydd hwnnw wedi’i wreiddio yn yr hyn sy’n gyfarwydd i ddysgwyr – eu cynefin.
Ar y platfform newydd, rydyn ni am i ehangder a dyfnder hanes Cymru ysbrydoli athrawon a’u llenwi â brwdfrydedd. Rydyn ni am weld platfform lle gallan nhw ystyried safbwyntiau newydd, a lle gallan nhw ddod o hyd i adnoddau diddorol, dilys a chyfredol a fydd yn eu helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn galluogi ysgolion i ddatblygu ar y cryfderau niferus sydd eisoes yn bodoli wrth addysgu hanes Cymru. Mae’r gwobrau sy’n cael eu rhoi’n flynyddol gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn dangos yr addysgu effeithiol sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn ysgolion ledled Cymru. Rydyn ni am weld ysgolion yn datblygu ar eu cryfderau ac yn rhannu ac yn myfyrio am y ffordd orau o addysgu hanes Cymru.
Mae’r weledigaeth bellach yn dechrau magu siâp. Yr wythnos hon, mae Adnodd (y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu adnoddau) wedi lansio Casgliad Hanes Cymru ar Hwb. Mae’r casgliad pwrpasol hwn, sy’n benodol i’r pwnc, wedi’i drefnu mewn fformat amserlen, ac mae’n rhoi fframwaith cronolegol a deunydd thematig i adlewyrchu hanes Cymru yn ei holl gyfoeth ac amrywiaeth. Gan gydweithio’n agos â Dysgu (y corff Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol newydd), rydyn ni’n falch o weld bod Adnodd wedi ymrwymo i ddod â’n gweledigaeth ar gyfer hanes Cymru’n fyw.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn parhau i esblygu, ac yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi addysgwyr ledled y wlad i addysgu hanes Cymru mewn ffordd gyfoethog, gynhwysol ac ystyrlon.
Mae Grŵp Polisi y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gyfarfod yn fisol mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Mae’r gweithdai yn canolbwyntio ar y broses barhaus o adolygu a mireinio canllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, cyd-ddatblygu deunyddiau ategol, a chyfrannu at waith partneriaid Llywodraeth Cymru lle mae ein gwaith yn gorgyffwrdd. Mae cynrychiolwyr Adoption UK, Adnodd, Arad Research, DARPL, a Microsoft wedi cwrdd â’r Grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf.
Maen nhw wedi cyfrannu at waith ar gynllunio cwricwlwm ac asesu, canllawiau galluogi dysgu, llythrennedd a rhifedd, ac ieithoedd rhyngwladol.
Mae rhestr wrth gefn i sicrhau bod y Grŵp Polisi yn parhau i gynrychioli bob math o ysgol a lleoliad ledled Cymru. Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu leoliad sy’n defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru ac os ydych chi’n angerddol am weithio gydag eraill i fynd i’r afael â heriau, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb. Byddwn yn cysylltu ag ymarferwyr ar y rhestr wrth gefn pan fydd lle ar gael. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan ymarferwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion (PRUs) ac eraill sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ynghyd ag eraill sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Ddinbych, a Sir Fynwy
Yr aelodau presennol yw:
Jane Altham-Watkins, Y.G.G. Gellionnen , Abertawe
Leon Andrews, Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd/ Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Lisa Ashton, Ysgol Gynradd Llanidloes, Powys
Shubnam Aziz, Ysgol Gynradd Mount Stuart, caerdydd
Rebekah Bawler, Ysgol Gyfun Risca, Caerffili
Dawn Bayliss, Ysgol Merllyn, Sir y Fflint
Suzanne Chamberlain, Ysgol Gynradd Gatholig St. David, Torfaen
Kirsty Davies, Ysgol Crownbridge, Torfaen
Kelly Davis, Ysgol Uchradd Connah’s Quay, Sir y Fflint
Dale Duddridge, Ysgol Uwchradd Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr
Catrin Evans, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr
Rachel Faulkner, Ffederasiwn Western Learning (Tŷ Gwyn/Woodlands/Riverbank), Caerdydd
Rachel George, Ysgol Maes Y Coed, Castell-nedd Port Talbot
James Griffiths, Ysgol Gynradd Llangan, Bro Morgannwg
Eleri Gwyn, Ysgol Dyffryn Conwy, Conwy
Stacey Hughes, Ysgol Gynradd Saltney Ferry, Sir y Fflint
Helen Jarman, Ysgol Stanwell,Bro Morgannwg
Victoria Jobson, Ysgol Gyfun Gatholig ac Anglican St. Joseph, Wrecsam
Anwen Jones, Ysgol Preseli, Sir Benfro
Bethan Jones, Ysgol Robert Owen, Powys
Richard Jones, Ysgol Gynradd Llysfaen, Caerdydd
Sarah Jones, Meithrinfa’r Bont, Pen-y-bont ar Ogwr
Geraint Llyn, Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn
Jamie McAllister, Ysgol Aberconwy, Conwy
Lana Martin, Ysgol Gynradd Pontygwaith, Rhondda Cynon Taf
Katie Morris, Ysgol Gymuned Pembroke Dock, Sir Benfro
Catrin Penge, Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam
Lowri Roberts, Ysgol Brynrefail , Gwynedd
Elizabeth Stonhold, Ysgol Gelliswick, Sir Benfro
Rachel Teague, Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd
Janine Tennant Jones, Ysgol Y Gogarth, Conwy
Sarah Tudur, Ysgol Iolo Morganwg, Bro Morgannwg
Craig Wade, Ysgol Gyfun Gowerton, Abertawe
Kate Watkins-Freeman, Meithrinfa Ribbons, Bro Morgannwg
Nia Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin
Richard Williams, Ysgol Gynradd Rhydyfro, Castell-nedd Port talbot
Mae mwy i hyn na dim ond deall hanes na daearyddiaeth yn unig, mae’n ymwneud â pharatoi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu ymgysylltu â phrosesau democrataidd a gwneud penderfyniadau meddylgar am y byd o’u cwmpas.
I athrawon, mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn siapio beth rydym yn addysgu a sut rydym yn gwneud hynny. O’r blynyddoedd cynnar hyd at 16 oed, disgwylir i ddysgwyr archwilio cysyniadau fel hawliau, cyfrifoldeb, cyfiawnder a llywodraethu, a deall sut mae systemau gwleidyddol yn gweithredu’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Drwy wreiddio’r syniadau hyn wrth gynllunio eich cwricwlwm, rydych chi’n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau a rhesymu moesegol sy’n hanfodol ar gyfer bywyd yn y Gymru fodern a thu hwnt.
Bydd etholiad nesaf i’r Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026. Gall unrhyw un 16 oed neu’n hŷn sy’n byw yng Nghymru bleidleisio. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â gwleidyddiaeth amser real i fywyd yn y dosbarth.
Mae llawer o adnoddau a sefydliadau ar gael i’ch cefnogi i ennyn diddordeb eich dysgwyr mewn addysg ddemocrataidd cyn yr etholiad.
Adnoddau, digwyddiadau a mwy
Adnoddau ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2026
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiwn y Senedd a’r Comisiwn Etholiadol wedi gweithio mewn partneriaeth i greu adnoddau newydd sy’n cefnogi pobl ifanc i ddysgu am y Senedd a sut i bleidleisio, Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at bobl sy’n pleidleisio am y tro cyntaf ond maent yn addas ar gyfer pob person ifanc ym mlwyddyn 10 ac uwch.
Dyma rai o’r pynciau allweddol mae’r adnoddau’n ymdrin â hwy:
1. Hawliau plant a phwysigrwydd pleidleisio
2. Rôl a hanes y Senedd a sut mae’n newid yn 2026
3. Sut i gofrestru a phleidleisio yn etholiad Senedd Cymru
Sgwrsio am y Senedd: Rhaglen Hyfforddiant i Addysgwyr
Mae sesiwn ar-lein Tim am ddimComisiwn y Senedd ar gael am ddim ac wedi’i chynllunio’n arbennig gyfer addysgwyr sy’n dechrau dysgu am y Senedd. Ei nod yw rhoi hwb i hyder addysgwyr wrth ddechrau sgyrsiau â phobl ifanc am wleidyddiaeth, pleidleisio ac etholiadau.
Yn y sesiwn 45 munud hon, bydd addysgwyr yn dysgu am y Senedd, democratiaeth yng Nghymru, a byddant yn cael canllawiau cam wrth gam i chi ar sut i gyflwyno sesiynau i bobl ifanc.
Gall addysgwyr drefnu sesiwn addysgol ysgol am ddim i’r Senedd a derbyn sesiwn bwrpasol gan Dîm Addysg y Senedd. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pob oed ac yn rhoi cipolwg ar sut mae’r Senedd, a democratiaeth yn gweithio yng Nghymru. Mae cymhorthdal teithio ar gael hefyd.
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais (9 – 16 Mawrth 2026)
Cyfle i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc ddechrau sgwrs am ddemocratiaeth a phleidleisio. Bob blwyddyn mae’r Comisiwn Etholiadol yn gwahodd ysgolion, grwpiau ieuenctid, a thimau etholiadau lleol i ymuno â ni i ddathlu democratiaeth trwy gynnal gweithgareddau sy’n helpu pobl ifanc i ddeall sut mae’n gweithio a sut i gymryd rhan.
Adnoddau’r Comisiwn Etholiadol gan gynnwys cynllun gwers ar sut i gynllunio ymgyrch cofrestru pleidleiswyr, cynnal ymgyrch gofrestru ac ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth
Canllawiau ar sut i ymgorffori addysg am ddemocratiaeth yn y Cwricwlwm i Gymru
Fideos i bobl ifanc am y Senedd ac am etholiadau’r Senedd.
Host a Hustings Cymru
Yma gall athrawon ac ymarferwyr ieuenctid gael cymorth i drefnu a chyflwyno eu digwyddiadau cyfarfod ieuenctid eu hunain ar gyfer etholiadau Senedd 2026.
Mae Hystings Ieuenctid yn rhoi llwyfan i bobl ifanc 14-25 oed ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymgeiswyr etholiadol yn etholiadau Cymru. Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau, lleisio eu barn, a chymryd rhan mewn deialog ystyrlon wrth iddynt baratoi am etholiadau lleol a chenedlaethol. Gellir cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am Host a Hustings Cymru, a dolen i gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, ar gael yma.
Rhaglen Digital Dialogues: Wales
Cymorth i ddysgwyr ledled Cymru gael sgyrsiau ystyrlon gyda’u cynrychiolwyr etholedig.
Mae hefyd yn helpu athrawon i baratoi dysgwyr ar gyfer y sgyrsiau hynny drwy gyflwyno gweithdai deniadol gydag adnoddau dysgu sy’n grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd, gan gefnogi un o bedwar pwrpas craidd Cwricwlwm Cymru yn uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am Digital Dialogue: Wales yma.
Mae Shout Out UK (SOUK)
yn cynnal rhaglen ddwy flynedd o weithdai rhyngweithiol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru i hysbysu a grymuso pobl ifanc (14-18 oed) i gymryd rhan ymarferol yn nemocratiaeth y wlad.
Nod y rhaglen yw cynyddu’r tebygolrwydd y bydd cyfranogwyr yn pleidleisio a chynyddu eu dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr werthuso gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag etholiadau, sylwi ar gamwybodaeth/twyllwybodaeth, mynd i’r afael â chasineb ar-lein, hyrwyddo diogelwch ymgeiswyr, a dod yn ddinasyddion digidol cyfrifol, gweithredol a gwybodus. Cysylltwch â caitlin@shoutoutuk.org i drefnu sesiynau am ddim yn eich ysgol!
Mae gwybodaeth a dolenni am y cyfan o’r uchod, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol i’ch cefnogi yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad 2026 ar gael ar dudalen Etholiadau’r Senedd ar Democracy Classroom.
Mae Cymru’n ailwampio’r ffordd y mae athrawon a staff addysg yn datblygu eu sgiliau. Ers mis Medi 2025, bydd Dysgu, corff Dysgu Proffesiynol ac Addysg Arweinyddiaeth Cenedlaethol Cymru, yn llywio cyfleoedd datblygu proffesiynol ar draws y wlad.
Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Dysgu, yn arwain tîm o dri ar ddeg o staff sydd wrth y llyw yn arwain y newid.
Mae Dysgu yn cynrychioli symud sylweddol tuag at ddull symlach a mwy cyson o ddarparu datblygiad proffesiynol ym myd addysg, gyda’r nod yn y pen draw o wella cymorth ar gyfer addysgwyr a deilliannau i ddysgwyr ar draws Cymru.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf – sy’n flwyddyn drosiannol – bydd Dysgu’n derbyn cyfrifoldeb dros raglenni cenedlaethol mewn meysydd fel llythrennedd, rhifedd a lles, ochr yn ochr â datblygu cymorth ar gyfer arweinwyr ar bob lefel.
Bydd Dysgu yn adeiladu capasiti o amgylch tair prif thema:
Arweinyddiaeth
Cwricwlwm ac Addysgu
Lles a Chynhwysiant
Bydd arlwy Dysgu yn darparu Dysgu Proffesiynol safonol yn Gymraeg a Saesneg, gan adlewyrchu anghenion a dyheadau’r sector ac ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn cyflwyno’r rhaglen CPCP Cymru ar ei newydd wedd ar gyfer darpar benaethiaid ac mae cyfleoedd coetsio’n cael eu darparu i benaethiaid profiadol. Ddechrau mis Tachwedd, hysbysebwyd rhaglen beilot newydd, Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog: dysgu proffesiynol i addysgwyr, ar Hwb, ac mae sioe deithiol Fathemateg yn cael ei chynnal gan Dysgu ac Estyn ym mis Chwefror. Mae Cadeirydd newydd Dysgu – Yr Athro Dylan Jones – yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr ac mae aelodau newydd yn cael eu recriwtio i’r Bwrdd.
Bydd Dysgu yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar bolisi, gydag Estyn ar ganfyddiadau arolygu, a gydag awdurdodau lleol, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant wedi’i deilwra er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol ysgolion drwy fodelau cydweithredu rhwng ysgolion.
Bydd Dysgu yn datblygu dysgu proffesiynol sy’n hygyrch, yn gyson, ac yn cael effaith, gan rymuso addysgwyr i ffynnu a gwella deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.
Dewch ar y daith
Cofrestrwch i dderbyn newyddion Dysgu i ddarganfod cyfleoedd newydd, digwyddiadau ac adnoddau sy’n llunio dyfodol addysg yng Nghymru.
Mae ein hymchwil sy’n gwerthuso’r polisïau sy’n cefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru ar y gweill. Mae’r ymchwil wedi’i arwain gan grŵp llywio rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o:
Cyngor y Gweithlu Addysg
Estyn
Partneriaethau AGA
Y Bwrdd Achredu Addysg Athrawon
Llywodraeth Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ers y tymor haf, mae Alma Economics wedi bod yn gweithio gyda’n grŵp llywio i lunio’r gwerthusiad ac i baratoi ar gyfer cam gwaith maes yr ymchwil.
Bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall sut y gall ein polisïau gefnogi’n well recriwtio, datblygu a chefnogi myfyrwyr athrawon wrth iddynt ddechrau ar eu taith broffesiynol, yn ogystal â’r sector AGA ehangach.
Os ydych yn ymwneud ag AGA, yn fyfyriwr athro neu’n athro gyrfa gynnar, dyma eich cyfle i roi eich barn am ein system AGA.
Beth mae’r ymchwil yn ei archwilio
Mae AGA o ansawdd uchel yn hanfodol i sicrhau addysg ragorol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae’r gwerthusiad yn canolbwyntio ar bolisïau addysg Cymru a’r diwygiadau deddfwriaethol sy’n cefnogi ein system AGA ac yn archwilio sut mae cynlluniau cymhelliant AGA wedi dylanwadu ar recriwtio myfyrwyr athrawon.
Cymerwch ran
Os yw eich ysgol yn ymwneud ag AGA, efallai y bydd eich Partneriaeth AGA yn cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.
Gallwch hefyd ein helpu drwy gwblhau arolwg ar-lein. Cwblhewch un arolwg yn unig os gwelwch yn dda.
Os ydych yn gweithio mewn Sefydliad Addysg Uwch (SAU) neu’n fyfyriwr AGA, dilynwch y ddolen arolwg SAU:
Mae’r arolwg yn cymryd tua 10–15 munud i’w gwblhau, ac mae eich cyfranogiad yn ddienw ac yn wirfoddol, a gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg drwy gau’r ffenestr borwr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei storio a’i ddefnyddio yma:
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r diweddariad i Ganllawiau Gwella Ysgolion, sy’n cryfhau’r ffordd yr ydym yn cefnogi gwelliant ledled Cymru. Mae’r canllawiau yn adlewyrchu canlyniadau’r adolygiad diweddar o rolau a chyfrifoldebau ac yn nodi uchelgais clir a rennir: bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i gyrraedd ei botensial llawn, a hynny o fewn system addysg deg a chydweithredol.
Wrth wraidd y canllawiau mae egwyddor syml, sef bod gwelliant yn gyfrifoldeb a rennir.
Ni ddylai ysgolion weithio ar wahân. Trwy ddatblygu cymunedau gwella lleol cryf, gall partneriaid ddefnyddio arbenigedd ar y cyd, ymateb i heriau’n fwy effeithiol, a datblygu atebion sy’n gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr. Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu diwylliant sy’n seiliedig ar fod yn agored, meithrin ymddiriedaeth a dysgu parhaus.
Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar bum egwyddor graidd;
Cydgyfrifoldeb am godi safonau ar gyfer pob dysgwr.
Cydweithio pwrpasol sy’n dod â safbwyntiau allanol ac yn annog trafodaeth broffesiynol.
Ffocws ar weithgarwch sy’n gwella dysgu.
Meithrin capasiti o fewn y system ysgolion, fel bod modd rhannu a chryfhau arbenigedd.
Eglurder a chydlyniant rhwng partneriaid, gan gysylltu anghenion lleol â blaenoriaethau cenedlaethol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd newydd – trwy gydweithio fertigol a llorweddol, hunanwerthuso cadarn, a chynllunio strategol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r nod yn glir: deilliannau gwell, arweinyddiaeth gryfach, a system addysg fwy cynhwysol i Gymru.
Rydym yn annog pob partner i ymgysylltu’n llawn â’r canllawiau hyn a bod yn weithredol wrth lunio system wella sy’n gweithio i bawb. Trwy gydweithio, gallwn adeiladu system sy’n ymateb i heriau heddiw wrth osod sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
Hoffem longyfarch Simon Roberts ar dderbyn y wobr ‘Cyfraniad Eithriadol i Arweinyddiaeth Busnes Ysgol’, yng Nghynhadledd Genedlaethol y Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol (ISBL) ddiwedd mis Tachwedd.
Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru brosiect peilot cyffrous gyda’r ISBL, wedi’i hwyluso gan Simon Roberts, Cyfarwyddwr Cyllid Busnes yn Ysgol Olchfa yn Abertawe, sydd â 24 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg, ac 16 mlynedd fel Uwch Arweinydd ac Arweinydd Busnes Ysgol.
Gan weithio gyda charfan o 50 o Weithwyr Proffesiynol Busnes Ysgol (SBPs) ledled Cymru, nod y cynllun peilot yw asesu a chefnogi anghenion datblygu’r proffesiwn, darparu hyfforddiant a mentora ochr yn ochr ag achrediad proffesiynol, a chefnogi’r gwaith o greu Hyrwyddwyr SBP i ddarparu adolygiad gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth system.
Dywedodd Bethan Cullen, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol ISBL: “Mae Simon Roberts wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio’r rhaglen beilot ar gyfer gweithwyr proffesiynol busnes ysgolion yng Nghymru, menter a fydd yn codi proffil y proffesiwn yng Nghymru yn sylweddol. Mae ei arweinyddiaeth wedi cryfhau dealltwriaeth a chymhwyso metrigau Cynllunio Ariannol Cwricwlwm Integredig (ICFP) ac wedi grymuso arweinwyr ysgol i werthuso a gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael iddynt yn fwy effeithiol.
Mae ymrwymiad diwyro Simon, trwy ei eiriolaeth dros y proffesiwn a’i gyflwyniad effeithiol o gynnwys y rhaglen, wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gwaith hwn. Mae ISBL yn falch o gydnabod cyflawniadau rhagorol Simon a’i ddathlu fel un o’n Cymrodorion”.
Wrth ennill y wobr, dywedodd Simon. “Mae’n anrhydedd a braint go iawn i mi, yn bennaf oherwydd ei fod yn cael ei dyfarnu gan y Sefydliad sy’n cynrychioli fy mhroffesiwn. Ni fyddwn byth wedi ennill y wobr heb y gefnogaeth, yr ymddiriedaeth a’r rhyddid proffesiynol rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i’w gael gan yr holl Benaethiaid rydw i wedi gweithio gyda nhw yn fy ngyrfa. Rwyf wedi hyrwyddo rôl Arweinyddiaeth Busnes Ysgol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd ac roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ar brosiect i ymhelaethu ar rôl Arweinwyr Busnes Ysgol yng Nghymru a chynhyrchu’r gydnabyddiaeth y mae’r rôl yn ei haeddu, sydd, heb os, yn ffactor sylweddol a gyfrannodd i mi gael y wobr hon, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr cael y cyfle i wneud hynny.”
“Mae’r prosiect hwn yn parhau, ond mae’n cael tracsiwn cyflym a phryniant gan randdeiliaid ar draws y sector addysg, sy’n wych, ond mae’n rhaid iddo barhau os yw ysgolion yng Nghymru am ddod yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol – mae’n arwydd gwirioneddol o gynnydd i rôl Arweinwyr Busnes Ysgol yng Nghymru ac yn arwydd sylweddol o fwriad gan Lywodraeth Cymru eu bod yn ei gefnogi yn y ffordd y maent.”
Dechreuodd y cynllun Bwyd a Hwyl fel peilot gan Gyngor Caerdydd i helpu plant yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’r rhaglen, a ddarperir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bellach yn rhedeg mewn ysgolion ledled y wlad.
Enillwyr y gwobrau oedd:
Cydlynydd y Cyngor – Paul Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Cynllun gwobrwyo cydlynydd – Sabrina Amor, Ysgol Gynradd Herbertt Thompson
Gwobr Staff y Cynllun – Luke Cross Ysgol Cwm Brombil
Gwobr Arlwyo – Sarah Lever a Caroline Clatworthy, Arlwyo Pen-y-bont ar Ogwr
Gwobr Gwirfoddolwr – Harri a Sion Colthard, Ysgol Calon y Cymoedd
Gwobr y Bwrdd Iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Gwobrau Hyfforddwr Chwaraeon – MonLife
Gwobr Gweithio Gyda’n Gilydd – Ysgol Gynradd Gymunedol Neyland
Gwobr Effaith Ysgol – Gemma Ness Ysgol Awel Y Môr
Gwobr Cyfraniad Rhagorol – Angharad Williams Ysgol y Gogarth, Ysgol Gynradd Chantelle Matthias Howardian
Gwobr Dewis y Plant – Justin Johnson Chwarae Torfaen
Gofynnon ni i Gemma Ness, Ysgol Awel y Môr, enillydd y Wobr Effaith Ysgol, ddweud wrthym am ei thaith.
“Dechreuodd y cynnwrf ymhell cyn y digwyddiad, dechreuodd gydag e-bost annisgwyl. Dechreuodd y cyffro, ac ychydig o nerfusrwydd ddatblygu.
Roedd y dyddiau’n arwain at y digwyddiad yn llawn chwerthin a herian am y posibilrwydd o roi araith. Er fy mod i wedi’n enwebu’n bersonol, roedd y wobr ar ein cyfer ni. There’s no I in team.
Roedd bore’r digwyddiad yn un cyson. Roedd y daith ei hun yn gymysgedd o fyfyrio a chyffro. Pan gyrhaeddais, roedd yr awyrgylch yn ddigyffro. Roedd yr ystafell wedi’i osod yn wych! Roedd hyn yn teimlo’n swyddogol ac yn arbennig.
Yna cafodd fy enw ei alw fel enillydd gwobr Effaith Ysgol yng Nghymru. Roeddwn i wir mewn sioc. Wrth i mi fynd ymlaen i gasglu’r wobr, roeddwn i’n gallu clywed y sŵn o’r gynulleidfa’n ffrwydro.
Pan ddychwelais adref, nes i rannu’r newyddion gyda fy nheulu, rhoddodd fy mhlentyn hynaf pawen lawen i mi. Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld sylwadau mor hyfryd i gyd yn adleisio’r un “You deserve it”.
Roedd rhannu’r cyflawniad gyda phawb yn Ysgol Gynradd Awel y Môr yn foment falch fythgofiadwy i mi. Nid fy nghyflawniad i yn unig oedd hwn – roedd yn gyflawniad ni.”