Mae hanes Cymru’n dapestri cymhleth o straeon a phrofiadau tra gwahanol sydd eto’n gorgyffwrdd, a’r rheini’n adlewyrchu amrywiaeth rhyfeddol pobl a chymunedau’r genedl. Mae rhai o’r straeon hyn yn filoedd o flynyddoedd oed. Mae gan eraill wreiddiau mwy diweddar. Mae rhai’n tarddu o dir a daear Cymru. Mae gan eraill gysylltiadau â phedwar ban byd. Mae deall a pharchu profiadau pobl a chymunedau Cymru – yn eu holl amrywiaeth – yn fodd o werthfawrogi’n well pam fod Cymru fel mae hi. Mae’n fodd o’n helpu ni i ddeall mai cryfder, yn hytrach na gwendid, yw amrywiaeth.

Delwedd: Corb Davies
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ceisio sicrhau bod plant Cymru’n cael cyfleoedd difyr, gwerth chweil a dilys i ddysgu a deall yr hanes hwn.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru ein Grŵp Arbenigwyr yn 2024 i roi cyngor am sut i greu adnoddau a fyddai’n cefnogi ac yn ysbrydoli ysgolion wrth iddyn nhw addysgu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Roedd ein briff cychwynnol yn canolbwyntio ar ddatblygu un adnodd yn unig, sef amserlen hanes. Ond roedd hi’n amlwg i ni bod angen gwneud mwy o lawer i wir rymuso addysgwyr ac i hybu dealltwriaeth dysgwyr o hanes ein gwlad.
Rydyn ni wedi datblygu datganiad gweledigaeth ar gyfer gwreiddio Hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru:
Datblygu adnoddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol dwyieithog mewn ffordd barhaus a chydlynus, a hynny drwy’r holl gontinwwm 3-16, er mwyn ysbrydoli a galluogi athrawon a dysgwyr i drafod a darganfod ehangder, cyfoeth ac amrywiaeth hanes Cymru mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy’r Cwricwlwm i Gymru.
Ein syniad ni yw creu platfform hygyrch a hwnnw’n llawn dop o adnoddau arloesol a modern a fydd yn helpu i addysgu hanes Cymru mewn ffordd effeithiol a difyr. Rydyn ni’n awyddus i weld pecyn o adnoddau dwyieithog o ansawdd gwych sy’n hawdd i addysgwyr eu darganfod a’u defnyddio. Mae angen adnoddau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ehangach y cwricwlwm, sy’n gwella gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon, ac sy’n eu helpu i greu profiadau dysgu dilys a difyr, a hynny yn y dosbarth ac y tu hwnt iddo. Mae pob athro ac athrawes yn gwybod bod dysgu da’n seiliedig ar brofiadau uniongyrchol. Gan hynny, y ffordd orau o ddysgu hanes, fel daearyddiaeth, yw pan fydd hwnnw wedi’i wreiddio yn yr hyn sy’n gyfarwydd i ddysgwyr – eu cynefin.
Ar y platfform newydd, rydyn ni am i ehangder a dyfnder hanes Cymru ysbrydoli athrawon a’u llenwi â brwdfrydedd. Rydyn ni am weld platfform lle gallan nhw ystyried safbwyntiau newydd, a lle gallan nhw ddod o hyd i adnoddau diddorol, dilys a chyfredol a fydd yn eu helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn galluogi ysgolion i ddatblygu ar y cryfderau niferus sydd eisoes yn bodoli wrth addysgu hanes Cymru. Mae’r gwobrau sy’n cael eu rhoi’n flynyddol gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn dangos yr addysgu effeithiol sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn ysgolion ledled Cymru. Rydyn ni am weld ysgolion yn datblygu ar eu cryfderau ac yn rhannu ac yn myfyrio am y ffordd orau o addysgu hanes Cymru.
Mae’r weledigaeth bellach yn dechrau magu siâp. Yr wythnos hon, mae Adnodd (y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu adnoddau) wedi lansio Casgliad Hanes Cymru ar Hwb. Mae’r casgliad pwrpasol hwn, sy’n benodol i’r pwnc, wedi’i drefnu mewn fformat amserlen, ac mae’n rhoi fframwaith cronolegol a deunydd thematig i adlewyrchu hanes Cymru yn ei holl gyfoeth ac amrywiaeth. Gan gydweithio’n agos â Dysgu (y corff Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol newydd), rydyn ni’n falch o weld bod Adnodd wedi ymrwymo i ddod â’n gweledigaeth ar gyfer hanes Cymru’n fyw.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn parhau i esblygu, ac yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi addysgwyr ledled y wlad i addysgu hanes Cymru mewn ffordd gyfoethog, gynhwysol ac ystyrlon.
Gyda diolch i’r Panel Arbenigwyr Hanes
Yr Athro Charlotte Williams
Dr Elin Jones
Yr Athro Martin Johnes
Nicky Hagendyk