Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Dathlu 10 mlynedd Bwyd a Hwyl 2025

Read this post in English

Yn ddiweddar, dathlodd ‘Bwyd a Hwyl’ degawd  yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru.

Dechreuodd y cynllun Bwyd a Hwyl fel peilot gan Gyngor Caerdydd i helpu plant yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’r rhaglen, a ddarperir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bellach yn rhedeg mewn ysgolion ledled y wlad.

Enillwyr y gwobrau oedd:

  • Cydlynydd y Cyngor – Paul Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot 
  • Cynllun gwobrwyo cydlynydd – Sabrina Amor, Ysgol Gynradd Herbertt Thompson 
  • Gwobr Staff y Cynllun – Luke Cross Ysgol Cwm Brombil 
  • Gwobr Arlwyo – Sarah Lever a Caroline Clatworthy, Arlwyo Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Gwobr Gwirfoddolwr – Harri a Sion Colthard, Ysgol Calon y Cymoedd 
  • Gwobr y Bwrdd Iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 
  • Gwobrau Hyfforddwr Chwaraeon – MonLife 
  • Gwobr Gweithio Gyda’n Gilydd – Ysgol Gynradd Gymunedol Neyland 
  • Gwobr Effaith Ysgol – Gemma Ness Ysgol Awel Y Môr 
  • Gwobr Cyfraniad Rhagorol – Angharad Williams Ysgol y Gogarth, Ysgol Gynradd Chantelle Matthias Howardian
  • Gwobr Dewis y Plant – Justin Johnson Chwarae Torfaen 

Gofynnon ni i Gemma Ness, Ysgol Awel y Môr, enillydd y Wobr Effaith Ysgol, ddweud wrthym am ei thaith.

“Dechreuodd y cynnwrf ymhell cyn y digwyddiad, dechreuodd gydag e-bost annisgwyl. Dechreuodd y cyffro, ac ychydig o nerfusrwydd ddatblygu.

Roedd y dyddiau’n arwain at y digwyddiad yn llawn chwerthin a herian am y posibilrwydd o roi araith. Er fy mod i wedi’n enwebu’n bersonol, roedd y wobr ar ein cyfer ni. There’s no I in team.

Roedd bore’r digwyddiad yn un cyson. Roedd y daith ei hun yn gymysgedd o fyfyrio a chyffro.  Pan gyrhaeddais, roedd yr awyrgylch yn ddigyffro. Roedd yr ystafell wedi’i osod yn wych! Roedd hyn yn teimlo’n swyddogol ac yn arbennig.

Yna cafodd fy enw ei alw fel enillydd gwobr Effaith Ysgol yng Nghymru. Roeddwn i wir mewn sioc. Wrth i mi fynd ymlaen i gasglu’r wobr, roeddwn i’n gallu clywed y sŵn o’r gynulleidfa’n ffrwydro.

Pan ddychwelais adref, nes i rannu’r newyddion gyda fy nheulu, rhoddodd fy mhlentyn hynaf pawen lawen i mi. Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld sylwadau mor hyfryd i gyd yn adleisio’r un “You deserve it”.

Roedd rhannu’r cyflawniad gyda phawb yn Ysgol Gynradd Awel y Môr yn foment falch fythgofiadwy i mi. Nid fy nghyflawniad i yn unig oedd hwn – roedd yn gyflawniad ni.”

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading