Neidio i'r prif gynnwy

Dweud Eich Dweud: Bwyd a diod mewn ysgolion

Read this post in English

Fel addysgwyr, rydych chi’n gweld yn uniongyrchol sut mae maeth yn effeithio ar egni eich disgyblion a’u gallu i ganolbwyntio, yn ogystal â’r gallu i ddysgu a ffynnu.

Mae’r bwyd y gellir ei ddarparu mewn ysgolion yn cael ei newid fel y gall pob plentyn yng Nghymru fanteisio ar ddeiet maethlon sy’n cyd-fynd â’r cyngor deietegol diweddaraf.

Rydym yn lansio ymgynghoriad ar Fwyta ac Yfed yn Iach mewn Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru i helpu i lywio’r newidiadau hyn.

Rydyn ni’n golygu diweddaru:

  • Pa fwydydd a diodydd y gellir eu darparu mewn ysgolion
  • Canllawiau i arlwywyr ar y rheoliadau, gan gynnwys gofynion deietegol a ragnodir yn feddygol (deietau arbennig)
  • Canllawiau ar gyfrifoldebau o ran hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach

Bwyd iach i ysgolion | LLYW.CYMRU

Cwmpas yr ymgynghoriad:

Rydyn ni’n casglu eich barn mewn tair rhan.

  1. Ysgolion cynradd: Cynigion newydd ar gyfer bwyd a diod

Bydd y rhain yn gwneud y canlynol:

  • Cynnig mwy o ffrwythau a llysiau i helpu plant Cymru i gael eu “pump y dydd”
  • Cynnwys carbohydradau startshlyd (fel grawn cyflawn) oherwydd bod tystiolaeth yn awgrymu nad yw plant Cymru yn cael digon o ffibr
  • Cyfyngu ar fwydydd crwst, pwdinau a bwydydd wedi’u pobi a felyswyd, ynghyd â bwydydd wedi’u ffrio, hyn i gyd ar sail y cyngor deietegol diweddaraf
  • Teilwra maint dognau ar sail grwpiau oedran er mwyn gwastraffu llai o fwyd
  • Cynnig llai o gig wedi’i brosesu a chyfyngu ar ddewisiadau amgen wedi’u prosesu i bysgod a chig, gan y gallant fod yn uchel mewn halen a braster dirlawn
  • Diogelu cig coch mewn cymedroldeb i sicrhau bod plant yn mwynhau ei fanteision maethol
  • Gwahardd diodydd siwgrllyd, sy’n gysylltiedig â gordewdra a phydru dannedd

2. Hyrwyddo bwyta’n iach: Canllawiau cliriach ar gyfrifoldebau

Bydd y rhain yn:

  • Diffinio yn glir ddyletswyddau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion o ran hyrwyddo bwyta’n iach
  • Darparu enghreifftiau ymarferol o sut y gall ysgolion hyrwyddo arferion bwyta iach yn effeithiol
  • Egluro pwy sy’n gyfrifol am ddyletswyddau penodol mewn gwahanol leoliadau ysgol
  • Esbonio sut y gall ysgolion ddangos eu bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol arnynt
  • Cefnogi dull ysgol gyfan o greu amgylchedd iachach o ran bwyd

3. Ysgolion uwchradd: Galwad am dystiolaeth am fwyd a diod a weinir ar hyn o bryd

Gwyddom fod y ffordd y mae dysgwyr yn yr sector uwchradd yn dewis cael bwyd yn yr ysgol wedi newid. Mae’n edrych yn wahanol i ysgolion cynradd lle mae’r rhan fwyaf o blant yn eistedd gyda’i gilydd am ginio dau gwrs traddodiadol wedi’i ddarparu ar blatiau.

Mae gan ddysgwyr uwchradd fwy o ddewis, mwy o ymreolaeth, ac mae amrywiaeth o fwydydd ar gael iddynt eu bwyta “wrth fynd” yn ogystal â phrydiau ar blât.

Rydym yn casglu mwy o ddata ar fwyd mewn ysgolion uwchradd. Rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth i’n helpu i ddeall sut orau i fynd ati i gynnig bwyd sy’n gytbwys faethlon a deniadol mewn ysgolion uwchradd.

Sut byddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth

Bydd eich ymatebion yn ein helpu i lunio:

  • Canllawiau newydd ar hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion
  • Rheoliadau newydd ar gyfer bwyd a diod mewn ysgolion (gan ddechrau yn 2026-27)
  • Cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer gwella rheoliadau bwyd ysgolion uwchradd

Rhowch eich barn i ni drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading