Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn helpu i atal digartrefedd a chadw pobl ifanc mewn addysg

Read this post in English

Mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid  yn amlinellu sut y gall sefydliadau gydweithio er mwyn adnabod a chefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd wedi ymddieithrio neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu sydd mewn perygl o ddioddef digartrefedd.

Astudiaethau achos Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (YEPF)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag awdurdodau lleol ac wedi cyhoeddi 11 o astudiaethau achos i ddangos y prosesau sydd gan awdurdodau lleol ar waith.

Mae’r astudiaethau achos yn caniatáu i randdeiliaid ddysgu o brofiadau ei gilydd a gweld pa brosesau sydd gan sefydliadau eraill ar waith y gellir eu hefelychu neu eu haddasu.  Mae hyn yn helpu sefydliadau i weithio gyda’i gilydd yn well, i gryfhau’r rhwyd ddiogelwch anweledig sy’n cefnogi pobl ifanc.

Ymyrraeth gynnar

Adnabod yn gynnar pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau i ymgysylltu neu sydd â risg o ddod yn ddigartref yw sylfaen y Fframwaith Nod sefydliadau yw darparu cymorth wedi’i dargedu a diwallu anghenion person ifanc cyn gynted â phosibl.

Cliciwch yma i weld ein  canllawiau ar adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET neu’n ddigartref

Sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithredu’r Fframwaith

Yn ddiweddar, dangosodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili eu dull ataliol o helpu pobl ifanc i adeiladu dyfodol cadarnhaol. Mae’r ffocws ar adnabod risg yn gynnar, a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau fel ysgolion, colegau, Gyrfa Cymru a sefydliadau’r trydydd sector.

Cliciwch yma i ddarllen mwy. – Mae ymyrraeth gynnar yn atal digartrefedd ac yn helpu i gadw pobl ifanc mewn addysg.

Mae John Poyner, cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd yng ngwasanaeth ieuenctid Caerffili, yn dod â sefydliadau ynghyd i gefnogi tua 400 o bobl ifanc. Mae’r ymyrraeth yn cynnwys cymorth wedi’i deilwra i helpu pobl ifanc i drosglwyddo’n esmwyth i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol.

Mae John yn gweithio’n agos gyda chydgysylltydd digartrefedd y gwasanaeth ieuenctid, Nichola Davies i nodi a chefnogi’r bobl ifanc hynny a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd hefyd.

I glywed gan Nichola Davies a dau berson ifanc y mae eu bywydau wedi newid er gwell o ganlyniad i’r gefnogaeth y maent wedi’i chael, cliciwch yma :- https://www.facebook.com/watch/?v=1201055725147075

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading