Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN): Gwella iechyd a lles dysgwyr

Read this post in English

Cyn bo hir, bydd ysgolion uwchradd ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngweithgaredd Casglu Data y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) ar gyfer 2025, ac mae’r cyfnod cofrestru yn agor ar 9 Mehefin ac yn cau ar 18 Gorffennaf 2025.

Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN)?

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion  yn fenter gynhwysfawr sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles dysgwyr ledled Cymru. Trwy ddarparu data iechyd a lles cadarn ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion, mae SHRN yn galluogi sefydliadau addysgol i wneud penderfyniadau gwybodus a gweithredu strategaethau effeithiol wedi’u teilwra i anghenion eu dysgwyr.

Mae’r rhwydwaith wedi dod yn rhan annatod o’r dull sy’n gweithredu yng Nghymru i sicrhau lles dysgwyr, a chyfeirir ato mewn nifer o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Dull Gweithredu Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).

Manteision ar gyfer ysgolion uwchradd

Bydd ysgolion sy’n cymryd rhan yng  ngweithgarwch Casglu Data SHRN 2025 yn manteisio ar:

Mae effaith aelodaeth SHRN yn ymestyn y tu hwnt i gasglu data yn unig.

“Mae arolwg SHRN yn adnodd gwerthfawr wrth i ni ei ddefnyddio i gymharu â data arall rydyn ni’n ei gasglu i nodi cryfderau a gwendidau. Ar ôl eu nodi, gellir canolbwyntio ar y rhain fel rhan o’n Cynllun Gwella Ysgol.” – Henriette Bertheux, Pennaeth Cynorthwyol Cyswllt, Ysgol Uwchradd Whitmore

“Mae fy ysgol i yn defnyddio ein data SHRN pwrpasol i gefnogi gwaith hunanwerthuso ein hysgol ar draws meysydd iechyd a lles, gan sicrhau bod y camau a gymerwn yn ymateb i anghenion gwirioneddol ein dysgwyr. Rydym yn teimlo’n gyffrous am barhau i ddefnyddio ein data SHRN i nodi blaenoriaethau a llunio camau gweithredu sy’n targedu iechyd a lles ein holl ddysgwyr.” – Tom Lewis, Arweinydd Iechyd a Lles, Ysgol Gynradd Cogan

Edrych i’r dyfodol

Wrth edrych ymlaen at 2026, mae SHRN yn datblygu dangosfwrdd arloesol ar lefel ysgol a fydd yn darparu mewnwelediadau hyd yn oed yn fwy penodol, gan rymuso ysgolion i olrhain cynnydd a gweithredu strategaethau effeithiol.

Mae partneriaeth strategol y rhwydwaith ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), ynghyd â buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru, wedi galluogi SHRN i dyfu i fod yn rhwydwaith cenedlaethol pwerus sy’n cefnogi ymchwil a gwerthuso.

Atal problemau ac ymyrryd yn fuan

Mae dull SHRN yn cyd-fynd â’r egwyddor bod atal problem yn y lle cyntaf yn well na gorfod mynd ati i’w datrys. Trwy helpu ysgolion i nodi problemau iechyd a lles yn gynnar, mae’r rhwydwaith yn galluogi ymyriadau amserol a all wella’r canlyniadau i ddysgwyr a lleihau absenoldeb.

Mae’r ffocws ar ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyfeirio lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf, gan greu amgylcheddau cefnogol ar gyfer dysgu a grymuso dysgwyr i ddatblygu arferion iach am oes.

Cymryd Rhan

Dylai arweinwyr Iechyd a Lles Ysgolion Uwchradd wirio eu blychau derbyn am gwahoddiadau SHRN o 9 Mehefin. Gyda 95.5% o ysgolion uwchradd wedi cymryd rhan yn yr arolwg diwethaf yn 2023, mae’r fenter hon yn parhau i adeiladu ar lwyddiant blaenorol wrth gefnogi lles myfyrwyr ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i shrn.org.uk neu cysylltwch â Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth SHRN yn boffeym1@caerdydd.ac.uk.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading