Neidio i'r prif gynnwy

Hunanladdiad a hunan-niwed – arweiniad a chefnogaeth i oedolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Cafodd y gynhadledd ‘Dod o hyd i’r geiriau: Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio mewn Ysgolion’ ei chynnal ym mis Ebrill gyda dros 300 o bobl yn bresennol.

Mae araith Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle bellach ar gael ar-lein.

Mae canllawiau ar gael i helpu oedolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ymateb i faterion hunanladdiad a hunan-niweidio.

Maent yn cynnwys cyngor ar sut i ofyn cwestiynau ynghylch teimladau hunanladdol neu hunan-niweidio, a sut i ymateb pan fo’r teimladau a’r ymddygiadau hyn yn cael eu datgelu.

Ydych chi’n gwneud y mwyaf o dechnoleg ddigidol?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Trwy Hwb, mae gan bob ymarferydd mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru fynediad at ystod o offer ac adnoddau digidol.

Beth bynnag yw lefel eich sgiliau digidol neu wybodaeth – mae gan Hwb yr adnoddau a’r cymorth i’ch helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg ddigidol.

Gall technolegau digidol wella profiadau dysgu drwy greu gweithgareddau gwersi arloesol a rhyngweithiol yn ogystal â galluogi athrawon i addasu eu harferion addysgu i weddu anghenion dysgwyr unigol. 

Gŵyl Digi

Er mwyn helpu ymarferwyr i wneud y mwyaf o’r dechnoleg sydd ar gael, cynhelir Gŵyl Digi Hwb ar 2 Medi. Diwrnod llawn o sesiynau rhithwir ysbrydoledig wedi’u cynllunio ar gyfer athrawon yw hwn.

Drwy gydol y dydd, bydd cyfranogwyr yn dysgu am yr ystod o offer ac adnoddau digidol sydd ar gael drwy Hwb. Cynhelir dros 40 o sesiynau rhyngweithiol gan bartneriaid byd-eang fel Google, Microsoft, Apple, Adobe, Britannia, J2E, Common Sense Media, Flip, a Minecraft.

Ymunwch am y diwrnod cyfan neu dewiswch o’r ystod o sesiynau sydd ar gael. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.

Hyfforddiant a chymorth parhaus

Ddim ar gael adeg Gŵyl Digi?

Gallwch barhau i fanteisio ar yr ystod o gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael drwy Hwb.

Dyma rai o’r sesiynau sydd ar gael ym mis Gorffennaf:

  • Diogelwch ar-lein yn fyw
  • Hwb yn cyflwyno… Minecraft Education
  • Sesiynau Byw Adobe Express

Cefnogi darpariaeth ADY drwy gyfrwng y Gymraeg – cyfweliad gyda Trystan Williams

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ddiweddar mae Trystan Williams wedi dechrau yn ei swydd fel Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY (Iaith Gymraeg) ac mae wedi bod yn brysur yn asesu tirwedd darpariaeth ADY Iaith Gymraeg ledled Cymru. 

Gan fod y gwaith o weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn mynd rhagddo, mae Trystan yn canolbwyntio ar argaeledd darpariaethau cyfrwng Cymraeg.

Beth yw eich cefndir ym maes ADY?

Hyfforddais fel athro Cymraeg iaith gyntaf a dechreuais fy ngyrfa fel athro Cymraeg yn Sir Benfro.

Yna symudais i Gaerdydd lle dechreuais weithio gyda disgyblion ag anghenion lefel uwch a dod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phennaeth Cynorthwyol mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.

Bûm yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol am dros ddegawd a gweithiais fel Arweinydd Clwstwr a hyrwyddwr Cynllun Datblygu Unigol yn ystod camau cychwynnol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

Yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn gweithio i sefydlu Darpariaeth Arbenigol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anawsterau Iechyd a Llesiant Emosiynol yng Nghaerdydd.

Beth ydych chi’n anelu i’w gyflawni?

Yn syml, rwy’n ceisio sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a’r gweithlu addysg.

Wrth ystyried dulliau asesu neu ddiagnostig er enghraifft, mae’n llawer gwell asesu dysgwyr sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn Gymraeg, yn enwedig o ran llythrennedd ac Iaith a Lleferydd. Nifer bach iawn o asesiadau safonol ffurfiol ac offer diagnostig sydd ar gael yn y Gymraeg, ac un o fy mlaenoriaethau allweddol yw ‘llenwi’r bylchau’ mewn perthynas ag adnoddau cyfrwng Cymraeg.  Gallai hyn gynnwys edrych ar gynyddu adnoddau presennol, lle bo’n addas cyfieithu adnoddau presennol neu archwilio opsiynau i ddatblygu adnoddau newydd.

Byddaf yn ymdrechu i gael trosolwg cenedlaethol o’r gweithlu Cyfrwng Cymraeg ac yn edrych ar ffyrdd o ddenu addysgwyr i’r proffesiwn.  Yn ogystal â hyn, byddaf yn edrych ar staffio cyfrwng Cymraeg mewn rolau arbenigol fel Athrawon Arbenigol a Seicoleg Addysgol a dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r system cyfrwng Cymraeg yn effeithiol. 

Un elfen allweddol o hyn yw cofleidio’r gwaith o ansawdd uchel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a rhannu’r arfer da hwn gydag eraill.  Byddaf hefyd yn sicrhau bod unrhyw adnodd newydd yn dod ag hyfforddiant manwl drwy fideos ac ati i sicrhau bod y cydweithwyr cyfrwng Cymraeg yn gwbl hyderus yn yr offer sydd ganddynt wrth law.

Sut fyddwch chi’n cyflawni hyn?

Ar hyn o bryd rwy’n ymweld â’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ac yn cael sgyrsiau gyda gwahanol swyddogion i weld lle mae awdurdodau lleol yn teimlo bod angen o fewn eu cyd-destun penodol.  Law yn llaw â’r Awdurdodau Lleol, byddaf yn ymweld ag amryw o leoliadau ysgolion ac yn cael mewnbwn gan ymarferwyr cyfrwng Cymraeg o bob rhan o Gymru.  Byddaf hefyd yn siarad â’r unigolion hynny sydd eisoes wedi bod yn rhan o greu asesiadau ac ymyriadau amrywiol o Brifysgolion i Gonsortia.

Byddaf hefyd yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gefnogi eu gwaith o ran Canlyniad 6 y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac i edrych ar yr arfer da o ran lleoliadau arbenigol.  Cefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg i ddarparu’n gyfartal ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg. 

Rhan o’r rôl hefyd fydd cefnogi’r arweinydd gweithredu ôl-16 gyda’i waith i sicrhau bod llwybr Cyfrwng Cymraeg clir ar gael i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i addysg bellach lle nad yw’r ysgol bellach yn opsiwn. 

Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn sut y gall technolegau cynorthwyol gefnogi pob dysgwr mewn ysgolion a byddaf yn edrych ar argaeledd y technolegau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Unrhyw sylwadau i gloi?

Mae’n amlwg o sgyrsiau cychwynnol fod gan sefydliadau ledled Cymru farn glir ynghylch ble maen nhw’n teimlo bod angen gwell darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac maen nhw’n croesawu’r gefnogaeth a’r gwaith i wella’r cynnig i ddysgwyr a staff cyfrwng Cymraeg. 

Rwy’n awyddus i glywed gan gynifer o ymarferwyr â phosibl gan droi pob carreg wrth geisio sicrhau Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ardderchog yn y Gymraeg.

Os ydych chi, fel ymarferydd, yn gwybod am unrhyw arfer da, ymyrraeth neu offer asesu llwyddiannus, neu’n credu bod angen mynd i’r afael â maes penodol, anfonwch e-bost ataf i:  trwilliams@sirgar.gov.uk

Pecynnau cymorth Blynyddoedd Cynnar ac Addysgu a Dysgu: adnodd newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) wedi lansio partneriaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Mae fersiynau Cymraeg newydd o’r pecynnau cymorth Blynyddoedd Cynnar ac Addysgu a Dysgu bellach ar gael drwy Hwb, gan roi cyfle i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar gael mynediad at dystiolaeth sy’n deillio o dros 2,500 o astudiaethau addysg o ansawdd uchel, wedi’u crynhoi i gefnogi penderfyniadau athrawon ac arweinwyr sy’n brin o amser.

Mae lansio’r pecynnau cymorth dwyieithog yn rhan o bartneriaeth i wella’r defnydd o dystiolaeth ar draws y system yng Nghymru er mwyn cefnogi ei strategaeth tegwch addysg.

Gyda’i gilydd, mae’r Pecynnau Cymorth yn cwmpasu 40 o wahanol ddulliau addysgu a dysgu y gallai ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar eu defnyddio. Mae dulliau yn amrywio o adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, i ymyriadau ymddygiad, ac ailadrodd blwyddyn.  Mae pob dull yn cael ei grynhoi o ran:

  • Ei effaith gyfartalog ar gyrhaeddiad
  • Cryfder y dystiolaeth sy’n ei ategu; a’i
  • Gost.

Nid yw’r Pecyn Cymorth yn gwneud honiadau pendant ynghylch yr hyn a fydd yn gweithio i wella canlyniadau mewn ysgolion a lleoliadau. Yn hytrach, mae’n rhoi crynodeb o ganfyddiadau ymchwil academaidd ynghylch pa ddulliau a allai fod yn addawol a pha ddulliau sy’n wynebu’r risg o niweidio canlyniadau plant.  Nod y Pecyn Cymorth yw gwneud tystiolaeth yn hygyrch i athrawon, wedi’i hysgrifennu mewn iaith glir ac yn rhad ac am ddim i bawb ei chyrchu. Er enghraifft, yn hytrach na gorfod darllen 155 o bapurau ymchwil ar gyflwyno adborth mewn ysgolion, gall athrawon gael crynodeb cyflym sy’n rhoi trosolwg gwrthrychol o’r dystiolaeth ac sy’n rhoi mewnwelediadau clir ar sut i gyflawni’r dull gweithredu.

Mae pob maes yn cynnwys adran weithredu sy’n cynnig arweiniad ynghylch realiti ymarferol cyflwyno dull. Nod hyn yw cefnogi arweinwyr ysgolion i roi dulliau newydd ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r adran ‘tu ôl i’r cyfartaledd’ yn trafod effeithiau gwahaniaethol dulliau ar gyfer gwahanol oedrannau neu mewn pynciau gwahanol. Mae hyn yn rhoi mwy o fewnwelediad i ysgolion i naws y dystiolaeth.

Mae darparu’r Pecynnau Cymorth yn ddwyieithog yn eu gwneud yn hygyrch i lawer mwy o athrawon ac arweinwyr. Mae’r canllaw Cymraeg cysylltiedig i’r Pecynnau Cymorth yn rhoi mwy o wybodaeth am sut y gall athrawon ddefnyddio’r adnodd hwn wrth gynllunio yn eu hysgol.

Pecyn cymorth addysgu a dysgu gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol

Pecyn cymorth blynyddoedd cynnar gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol

Ymatebion i’r ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau na fydd cynlluniau i newid gwyliau’r ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon, er mwyn rhoi cyfle ac amser i athrawon a staff gyflwyno diwygiadau eraill.

Mewn datganiad ddoe cadarnhaodd na fydd newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn digwydd yn 2025 i 2026 a bydd unrhyw benderfyniad ar amseru yn cael ei ohirio tan dymor nesaf y Senedd.

Mae hynny’n golygu na fydd unrhyw newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno cyn 2028.

Yr ymgynghoriad hwn oedd yr ymgynghoriad addysg mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru, gan gynhyrchu ymhell dros 16,000 o ymatebion, a oedd yn gofyn am farn ar newid calendr yr ysgol i wasgaru’r gwyliau ysgol yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn.

Bydd dyddiadau tymhorau 2025 i 2026 yn cael eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol yn fuan.

Canlyniadau’r ymgynghoriad
Hysbysiad i’r wasg
Datganiad yn y Cyfarfod Llawn

Pencampwyr Cyrhaeddiad – a allech chi fod yn ysgol bartner newydd?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot Pencampwyr Cyrhaeddiad a lansiwyd ym mis Ionawr 2023, mae ysgolion newydd yn cael eu recriwtio wrth i’r cynllun gael ei ehangu am 12 mis arall.

Mae Pencampwyr Cyrhaeddiad yn arweinwyr ysgolion a benodwyd ar sail eu gwaith i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn eu hysgolion. Maent yn cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion eraill ac yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol.

Bydd ail gam y cynllun Pencampwyr Cyrhaeddiad yn dechrau ym mis Medi gyda phenaethiaid yr ysgolion newydd sy’n cymryd rhan yn cydweithio â Phencampwr Cyrhaeddiad mewn un o bum rhwydwaith, gyda hyd at 3 ysgol ym mhob rhwydwaith.

Bydd pob ysgol yn cael cefnogaeth o’r rhwydwaith gan athrawon sydd â phrofiad o gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.

Dylai ysgolion sydd â diddordeb gysylltu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL), sy’n darparu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais, lawrlwythwch y pecyn recriwtio yma.

Dyddiad cau i ysgolion wneud cais: 24 Mehefin 2024

Y Pencampwyr Cyrhaeddiad a benodwyd yn 2023:

  • Janet Hayward OBE, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Cynradd Cadoxton a Oak Field yn y Barri.
  • Heather Nicholas, Pennaeth Ysgol Gymunedol Tonyrefail
  • Jennifer Ford, Pennaeth Ysgol Gyfun Treorci yn Rhondda Cynon Taf
  • Joe Cudd, Pennaeth Gweithredol Ysgol Pen Rhos ac Ysgol Pentip yn Llanelli.
  • Innes Robinson, Pennaeth Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri.
  • Stuart Davies, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd
  • Gethin Davies, Pennaeth Ysgol y Bedol, Cwmaman yn Sir Gaerfyrddin

Diogelwch ar-lein a blacmel rhywiol – help a hyfforddiant i athrawon

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae digwyddiadau o gam-drin ar-lein yn esblygu’n gynnyddol, a ‘blacmel rhywiol’ yw’r mater diweddaraf i ddenu penawdau.

Mae gan ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb yr holl gefnogaeth ddiweddaraf a chymorth ymarferol i athrawon ar faterion sy’n dod i’r amlwg, â blaenoriaeth uchel a gwybodaeth am y tueddiadau presennol mewn ymddygiad ar-lein plant a phobl ifanc.

Blacmel Rhywiol

Caiff blacmel rhywiol ei ysgogi’n ariannol.

Mae ar gynnydd yn fyd-eang gydag adroddiadau bod plant a phobl ifanc yn cael eu gorfodi i dalu arian neu ateb galw ariannol arall (fel prynu cerdyn rhodd rhagdaledig) ar ôl i droseddwr fygwth rhyddhau lluniau noeth neu hanner noeth ohonynt.

Mae’r gefnogaeth ddiweddaraf i ysgolion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) bellach ar gael yn ddwyieithog ar Hwb.

Mae’n cynnwys llythyr templed ar gyfer rhieni a gofalwyr i’w gwneud yn ymwybodol o’r cynnydd diweddar mewn adrodd blacmel rhywiol.

Crëwyd rhannu canllawiau lluniau noeth a hanner noeth i athrawon helpu ymateb i ddigwyddiadau ac mae’n rhoi cyd-destun cyfreithiol.

Mae Hwb hefyd wedi cynhyrchu fideo 10 munud am rannu delweddau noeth sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion:

  • Cynllunio eu dull o atal ac ymateb i ddigwyddiadau
  • Deall pryderon diogelwch rhannu delweddau cyfredol, gan gynnwys blacmel rhywiol a chyfryngau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial
  • Cael cyngor cyfrinachol a’r gwasanaethau adrodd sydd ar gael

Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol

Mae dwy ran o dair o blant 3-17 oed yn defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol. Y llynedd, treuliodd plant yn y DU 2 awr y dydd ar TikTok ar gyfartaledd

Mae’r niferoedd hyn yn cynyddu felly mae deall sut mae helpu pobl ifanc i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn hanfodol.

Mae fideo newydd ar gael i helpu ysgolion.

Mae’n ymdrin â sut y gall ysgol reoli ei phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol ei hun yn ddiogel, gyda chanllawiau pellach ar gael yma.

Mae’n darparu gwybodaeth ar sut y gall ysgolion ddeall a sylwi ar faterion sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol sy’n dod i’r amlwg ac ymddygiadau niweidiol, fel dylanwadwyr ar-lein pwerus a chamwybodaeth.

Mae’n llywio ysgolion drwy ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn Hwb i ddod o hyd i’r ffynonellau cymorth cywir a’r ffyrdd gorau o siarad â phlant a phobl ifanc am y materion hyn.

Cymorth i rieni a gofalwyr

Mae adnoddau ar gael i ysgolion eu rhannu gyda rhieni a gofalwyr:

  • Taflen: Cefnogi eich plentyn pan fydd ar-lein
  • Canllawiau ynghylch apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau: trosolwg o’r apiau mwyaf poblogaidd, fel TikTok, Snapchat a Call of Duty.
  • Fideo i gyfeirio rhieni a gofalwyr i ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb

Tegwch a chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion a lleoliadau addysgol eraill ledled Cymru yn cynllunio, defnyddio a mireinio eu cwricwlwm i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Yn dilyn digwyddiadau’r Rhwydwaith Cenedlaethol a gynhaliwyd ledled Cymru,  mae astudiaethau achos bellach ar gael ar Hwb  lle mae ysgolion yn dangos sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch, gan helpu plant i symud ymlaen yn eu dysgu a chyflawni eu potensial.

Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i ymarferwyr rannu eu profiadau a chael cipolwg gwerthfawr ar ddulliau eraill o weithredu er mwyn sicrhau bod eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb i bawb.

Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys gwybodaeth am ddulliau o gyflwyno darpariaeth  dysgu ychwanegol, dod yn ysgol sy’n ystyriol o drawma, goresgyn anfantais economaidd a mwy.

Mae cyfeiriadur o sefydliadau o’r digwyddiadau a all gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda thegwch a chynwysoldeb hefyd ar gael ar Hwb.

Yr astudiaethau achos

Am ragor o gyfleoedd rhwydweithio ac i gael gwybodaeth ynghylch tegwch a chynwysoldeb y Cwricwlwm i Gymru, mewngofnodwch i Hwb ac ymunwch â’r rhwydwaith (drwy chwilio yn adran rhwydweithiau Hwb am ‘Equity and Inclusion Tegwch a Chynhwysoldeb).

Trwy gofrestru ar lwyfan y Rhwydwaith Cenedlaethol, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sgyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn ogystal â chael mynediad at ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol.

Ysgol Gynradd Sili – dull ysgol gyfan o ymdrin ag ieithoedd rhyngwladol. Y daith hyd yma…

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Drwy integreiddio profiadau diwylliannol yn eu cwricwlwm newydd, mae Ysgol Gynradd Sili yn ysbrydoli disgyblion i ddarganfod mwy am y byd o’u cwmpas a chanfod cariad at ieithoedd. 

Gyda phoblogaeth amrywiol o ddisgyblion, mae’r ysgol wedi creu amgylchedd lle mae iaith yn rym dynamig i ddathlu, magu hunaniaeth a chysylltu. Gwahoddir rhieni a sefydliadau diwylliannol i’r ysgol i rannu eu profiadau personol, eu gwybodaeth a’u sgiliau iaith.

Drwy ddod i gysylltiad â’r Gymraeg, Sbaeneg, Mandarin, Ffrangeg ac Eidaleg, mae dull aml-iaith wedi cael ei ddatblygu.

Cwricwlwm newydd

Datblygodd yr ysgol nod a gweledigaeth glir o’r hyn yr oeddent eisiau ei gael o’r cwricwlwm newydd a’r modd o gyflawni hynny.

Eu gweledigaeth oedd i ddisgyblion dderbyn addysg iaith ddifyr – addysg iaith a fyddai’n datblygu eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn hytrach na’u bod ond yn ei derbyn mewn ffordd oddefol.

Mae eu cwricwlwm wedi’i gynllunio i sicrhau bod ieithoedd rhyngwladol mewn sefyllfa gadarn i gysylltu â’r meysydd dysgu a phrofiad eraill, gyda’r pedwar diben yn gonglfeini iddynt.

Rhoi theori ar waith

Roedden nhw eisiau cael cydnabyddiaeth o’u taith cwricwlwm, a’u nod oedd dod yn ysgol ryngwladol gydag achrediad gan y British Council. Cynigiodd hyn fframwaith y gellid cynllunio y tu mewn iddo.

Ar ddechrau eu taith, roeddent yn ffodus bod ganddynt aelod o staff a oedd yn angerddol dros astudiaethau ac ieithoedd rhyngwladol. Gyda chefnogaeth yr uwch dîm arwain, gweithredodd y person hwn fel sbardun i newid pethau. I ddechrau, roedd rhai o aelodau’r staff ychydig yn gyndyn i ymroi’n llwyr i’r ffordd hon o weithio a oedd ar y gweill ond, yn raddol, dros amser, a chydag arweiniad cryf a diddordeb amlwg ymhlith y disgyblion, daeth y staff i gyd i’w chefnogi’n llawn. 

Ar y dechrau, cafodd cynlluniau gweithredu eu rhannu â rhanddeiliaid er mwyn ennyn cefnogaeth pob aelod o staff, gan hefyd sicrhau cyd-ddealltwriaeth teuluoedd a’r corff llywodraethu.

Yn gyflym, fe wnaethant ddatblygu cysylltiadau cryf â Llysgenhadaeth yr Eidal, Sefydliad Confucius a’r British Council, sydd i gyd wedi bod yn hynod gefnogol wrth helpu Ysgol Gynradd Sili i ddod yn ysgol ryngwladol.

Wrth wraidd eu cwricwlwm mae’r dull trawsieithu. Anogir disgyblion i archwilio cysylltiadau a phatrymau ieithyddol drwy ddod i gysylltiad â’r Gymraeg, Sbaeneg, Mandarin, Ffrangeg ac Eidaleg ar wahanol gyfnodau drwy gydol eu haddysg. Dewiswyd yr ieithoedd hyn o ganlyniad i’w trafodaethau â’u hathrawon Ieithoedd Tramor Modern mewn ysgolion uwchradd, a gynghorodd iddynt beidio â darparu un iaith yn unig a’u hannog, yn lle hynny, i ddatblygu dull aml-iaith er mwyn meithrin cariad a chwilfrydedd tuag at ieithoedd.

Dysgu proffesiynol

Roedd yn bwysig iawn sicrhau bod y staff yn cefnogi’r dull yn llawn a’u bod yn ddigon hyderus gyda’u sgiliau iaith a’u gwybodaeth ddiwylliannol eu hunain.  Gyda chyllid gan y British Council bu cyfle i staff deithio i wledydd yn cynnwys Sbaen, yr Eidal a Tsieina.

Helpodd yr ymweliadau diwylliannol ledled y byd feithrin dull mwy annibynnol o ddatblygu proffesiynol, gyda staff yn ceisio cynyddu eu sgiliau iaith eu hunain.

Gofynnodd ambell aelod o staff am hyfforddiant gloywi yn y Gymraeg. Cofrestrodd aelod arall ar gwrs ysgol nos gyda’i gŵr er mwyn dysgu Eidaleg, a dechreuodd ambell un arall gystadlu â’i gilydd gan ddefnyddio Duolingo. 

Datblygwyd sgiliau’r gweithlu presennol ynghyd â pherthnasoedd ag asiantaethau allanol a allai cyfrannu eu harbenigedd i’r ysgol, gan ddwyn buddion i’r plant a’r staff fel ei gilydd. Erbyn hyn, mae’r aelodau hynny o staff sy’n teimlo’n gyfforddus o ran darparu sesiynau Sbaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg sylfaenol yn cael eu defnyddio i ddarparu gwersi iaith wythnosol ar draws yr ysgol, ynghyd ag athrawon Eidaleg a Tsieinëeg peripatetig.

Iaith fel offeryn ar gyfer datblygu gwybodaeth a chysylltu

Gan gydnabod y berthynas rhwng iaith a diwylliant, mae profiadau diwylliannol yn cael eu hintegreiddio’n weithredol i mewn i’r addysg iaith. Mae ‘Wythnos Ieithoedd Rhyngwladol’ yn cynnig cyfle i ddisgyblion ymdrwytho yn y gwaith o archwilio gwlad benodol, gan ymchwilio i’w diwylliant, ei hiaith a’i chrefydd. Mae’r wythnosau hyn yn cynnig llwyfan ar gyfer gwahodd rhieni i’r ysgol i rannu eu cefndiroedd personol, eu gwybodaeth ddiwylliannol a’u sgiliau iaith. Wedi’u cefnogi gan gymuned ehangach yr ysgol, mae’r wythnosau hyn yn dod i ben gydag arddangosfa ddathlu, gan roi cyfle i’r plant arddangos y sgiliau a’r wybodaeth y maent newydd eu caffael i gynulleidfa eang.

Y llynedd cafodd yr ysgol ei dethol i weithio gyda’r British Council ar gyfer y prosiect Cerdd Iaith, pan fu disgyblion yn dysgu caneuon mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol. Buont yn gweithio gyda Tim Riley, yr awdur a’r cyfansoddwr, a Lily Beau, yr actores a’r gantores o Gymru. Cafodd y prosiect hwn effaith gadarnhaol amlwg ar y disgyblion. Gadawodd y disgyblion y sesiynau wythnosol yn teimlo’n llawn egni ac yn gyffrous, gan ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd mewn gwahanol ieithoedd.

Daeth cyfranogiad yr ysgol yn y prosiect i ben gyda chyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru pan gafodd disgyblion y cyfle i berfformio gyda cherddorfa fyw ochr yn ochr â phlant o bob cwr o Gymru.

Mae’r defnydd o wefan Cerdd Iaith yn parhau gyda chynulliad canu i blant hŷn a gynhelir yn wythnosol. Mae’r adnoddau y mae Cerdd Iaith wedi’u darparu yn cyd-fynd yn berffaith â’r ffordd y mae’r ysgol yn addysgu ieithoedd rhyngwladol – dull sy’n canolbwyntio ar drawsieithu.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft ynghylch dysgwyr traws i ysgolion – diweddariad

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae arweinwyr ac ymarferwyr addysg wedi dweud yn glir bod angen canllawiau cenedlaethol arnynt i gefnogi plant a phobl ifanc traws ac anneuaidd i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys, a’u bod yn ddiogel yn eu haddysg.

Rydym yn gwybod bod athrawon ac ysgolion eisoes yn gweithio’n galed i gefnogi plant a phobl ifanc. Mae darparu canllawiau cenedlaethol priodol i ysgolion yng Nghymru i gefnogi plant a phobl ifanc traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol mewn addysg yn un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag arweinwyr ysgolion, ymarferwyr, dysgwyr ac ystod eang o randdeiliaid ar ddatblygu canllawiau i Gymru.

Cynlluniwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu cymryd mwy o amser i ddatblygu’r canllawiau fel eu bod yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, gan gynnwys canfyddiadau’r Adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid, gan gynnwys y dysgwyr eu hunain a rhieni.

Rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r canllawiau hyn. Mae angen i bob dysgwr deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i fod yn ddiogel. Sicrhau eu llesiant yw ein prif flaenoriaeth.

Diolch i bawb, yn enwedig i’r plant a’r bobl ifanc sydd wedi siarad â ni hyd yma ac wedi helpu i ddatblygu’r canllawiau hyn.