Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion a lleoliadau addysgol eraill ledled Cymru yn cynllunio, defnyddio a mireinio eu cwricwlwm i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Yn dilyn digwyddiadau’r Rhwydwaith Cenedlaethol a gynhaliwyd ledled Cymru, mae astudiaethau achos bellach ar gael ar Hwb lle mae ysgolion yn dangos sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch, gan helpu plant i symud ymlaen yn eu dysgu a chyflawni eu potensial.
Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i ymarferwyr rannu eu profiadau a chael cipolwg gwerthfawr ar ddulliau eraill o weithredu er mwyn sicrhau bod eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb i bawb.
Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys gwybodaeth am ddulliau o gyflwyno darpariaeth dysgu ychwanegol, dod yn ysgol sy’n ystyriol o drawma, goresgyn anfantais economaidd a mwy.
Mae cyfeiriadur o sefydliadau o’r digwyddiadau a all gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda thegwch a chynwysoldeb hefyd ar gael ar Hwb.
Yr astudiaethau achos
- Ysgol Arbennig Crownbridge, Torfaen – cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ag ystod amrywiol o anghenion dysgu cymhleth.
- Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd – sicrhau cynhwysant mewn ysgol lle mae Saesneg yn iaith ychwanegol i dua 75% o’r dysgwyr.
- Ysgol Lewis Pengam, Caerffili – hyrwyddo dinasyddiaeth, tegwch a chynwysoldeb o fewn y cwricwlwm.
- Ysgol Gynradd Malpas Court, Casnewydd – ysgol sydd â chanolfan iaith a lleferydd lle mae gan 44% o ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol
- Ysgol Gynradd Monkton, Penfro – creu cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac ymdeimlad o gynefin.
- Ysgol Gynradd Moorland, Sblot, Caerdydd – Dysgu sy’n seiliedig ar ymholi
- Victoria Gems, Meithrinfa Jewels and Gems, yn Ysgol Gynradd Sirol Victoria, Wrecsam – datblygu cwricwlwm lleoliad meithrin sy’n hyrwyddo tegwch a chynwysoldeb
- Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, (un o’r ysgolion 3 i 19 cyntaf yng Nghymru) – datblygu cwricwlwm cynhwysol mewn ysgol bob oed.
- Ysgol Gynradd, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin – goresgyn anfantais economaidd.
- Uned Cyfeirio Disgyblion Ysgol Maes Derw, Abertawe – y Cwricwlwm i Gymru mewn Uned Cyfeirio Disgyblion
- Uned Cyfeirio Disgyblion Ysgol Plas Cefndy, Sir Ddinbych – datblygu cwricwlwm sy’n hyrwyddo tegwch a chynhwysiant.
- Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch, Ynys Môn (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) – ysgol sy’n ystyriol o drawma
- Ysgol Sant Christopher Wrecsam – cefnogi pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau mewn amgylcheddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- Trochi yn y Gymraeg, Caerdydd – darpariaeth i hwyluso disgyblion sy’n dymuno trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg.
Am ragor o gyfleoedd rhwydweithio ac i gael gwybodaeth ynghylch tegwch a chynwysoldeb y Cwricwlwm i Gymru, mewngofnodwch i Hwb ac ymunwch â’r rhwydwaith (drwy chwilio yn adran rhwydweithiau Hwb am ‘Equity and Inclusion Tegwch a Chynhwysoldeb).
Trwy gofrestru ar lwyfan y Rhwydwaith Cenedlaethol, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sgyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn ogystal â chael mynediad at ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol.