Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae digwyddiadau o gam-drin ar-lein yn esblygu’n gynnyddol, a ‘blacmel rhywiol’ yw’r mater diweddaraf i ddenu penawdau.
Mae gan ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb yr holl gefnogaeth ddiweddaraf a chymorth ymarferol i athrawon ar faterion sy’n dod i’r amlwg, â blaenoriaeth uchel a gwybodaeth am y tueddiadau presennol mewn ymddygiad ar-lein plant a phobl ifanc.

Blacmel Rhywiol
Caiff blacmel rhywiol ei ysgogi’n ariannol.
Mae ar gynnydd yn fyd-eang gydag adroddiadau bod plant a phobl ifanc yn cael eu gorfodi i dalu arian neu ateb galw ariannol arall (fel prynu cerdyn rhodd rhagdaledig) ar ôl i droseddwr fygwth rhyddhau lluniau noeth neu hanner noeth ohonynt.
Mae’r gefnogaeth ddiweddaraf i ysgolion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) bellach ar gael yn ddwyieithog ar Hwb.
Mae’n cynnwys llythyr templed ar gyfer rhieni a gofalwyr i’w gwneud yn ymwybodol o’r cynnydd diweddar mewn adrodd blacmel rhywiol.
Crëwyd rhannu canllawiau lluniau noeth a hanner noeth i athrawon helpu ymateb i ddigwyddiadau ac mae’n rhoi cyd-destun cyfreithiol.
Mae Hwb hefyd wedi cynhyrchu fideo 10 munud am rannu delweddau noeth sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion:
- Cynllunio eu dull o atal ac ymateb i ddigwyddiadau
- Deall pryderon diogelwch rhannu delweddau cyfredol, gan gynnwys blacmel rhywiol a chyfryngau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial
- Cael cyngor cyfrinachol a’r gwasanaethau adrodd sydd ar gael
Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol
Mae dwy ran o dair o blant 3-17 oed yn defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol. Y llynedd, treuliodd plant yn y DU 2 awr y dydd ar TikTok ar gyfartaledd
Mae’r niferoedd hyn yn cynyddu felly mae deall sut mae helpu pobl ifanc i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn hanfodol.
Mae fideo newydd ar gael i helpu ysgolion.
Mae’n ymdrin â sut y gall ysgol reoli ei phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol ei hun yn ddiogel, gyda chanllawiau pellach ar gael yma.
Mae’n darparu gwybodaeth ar sut y gall ysgolion ddeall a sylwi ar faterion sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol sy’n dod i’r amlwg ac ymddygiadau niweidiol, fel dylanwadwyr ar-lein pwerus a chamwybodaeth.
Mae’n llywio ysgolion drwy ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn Hwb i ddod o hyd i’r ffynonellau cymorth cywir a’r ffyrdd gorau o siarad â phlant a phobl ifanc am y materion hyn.
Cymorth i rieni a gofalwyr
Mae adnoddau ar gael i ysgolion eu rhannu gyda rhieni a gofalwyr:
- Taflen: Cefnogi eich plentyn pan fydd ar-lein
- Canllawiau ynghylch apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau: trosolwg o’r apiau mwyaf poblogaidd, fel TikTok, Snapchat a Call of Duty.
- Fideo i gyfeirio rhieni a gofalwyr i ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb