Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot Pencampwyr Cyrhaeddiad a lansiwyd ym mis Ionawr 2023, mae ysgolion newydd yn cael eu recriwtio wrth i’r cynllun gael ei ehangu am 12 mis arall.

Mae Pencampwyr Cyrhaeddiad yn arweinwyr ysgolion a benodwyd ar sail eu gwaith i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn eu hysgolion. Maent yn cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion eraill ac yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol.
Bydd ail gam y cynllun Pencampwyr Cyrhaeddiad yn dechrau ym mis Medi gyda phenaethiaid yr ysgolion newydd sy’n cymryd rhan yn cydweithio â Phencampwr Cyrhaeddiad mewn un o bum rhwydwaith, gyda hyd at 3 ysgol ym mhob rhwydwaith.
Bydd pob ysgol yn cael cefnogaeth o’r rhwydwaith gan athrawon sydd â phrofiad o gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.
Dylai ysgolion sydd â diddordeb gysylltu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL), sy’n darparu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
I gael gwybodaeth am sut i wneud cais, lawrlwythwch y pecyn recriwtio yma.
Dyddiad cau i ysgolion wneud cais: 24 Mehefin 2024
Y Pencampwyr Cyrhaeddiad a benodwyd yn 2023:
- Janet Hayward OBE, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Cynradd Cadoxton a Oak Field yn y Barri.
- Heather Nicholas, Pennaeth Ysgol Gymunedol Tonyrefail
- Jennifer Ford, Pennaeth Ysgol Gyfun Treorci yn Rhondda Cynon Taf
- Joe Cudd, Pennaeth Gweithredol Ysgol Pen Rhos ac Ysgol Pentip yn Llanelli.
- Innes Robinson, Pennaeth Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri.
- Stuart Davies, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd
- Gethin Davies, Pennaeth Ysgol y Bedol, Cwmaman yn Sir Gaerfyrddin