Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol Gynradd Sili – dull ysgol gyfan o ymdrin ag ieithoedd rhyngwladol. Y daith hyd yma…

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Drwy integreiddio profiadau diwylliannol yn eu cwricwlwm newydd, mae Ysgol Gynradd Sili yn ysbrydoli disgyblion i ddarganfod mwy am y byd o’u cwmpas a chanfod cariad at ieithoedd. 

Gyda phoblogaeth amrywiol o ddisgyblion, mae’r ysgol wedi creu amgylchedd lle mae iaith yn rym dynamig i ddathlu, magu hunaniaeth a chysylltu. Gwahoddir rhieni a sefydliadau diwylliannol i’r ysgol i rannu eu profiadau personol, eu gwybodaeth a’u sgiliau iaith.

Drwy ddod i gysylltiad â’r Gymraeg, Sbaeneg, Mandarin, Ffrangeg ac Eidaleg, mae dull aml-iaith wedi cael ei ddatblygu.

Cwricwlwm newydd

Datblygodd yr ysgol nod a gweledigaeth glir o’r hyn yr oeddent eisiau ei gael o’r cwricwlwm newydd a’r modd o gyflawni hynny.

Eu gweledigaeth oedd i ddisgyblion dderbyn addysg iaith ddifyr – addysg iaith a fyddai’n datblygu eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn hytrach na’u bod ond yn ei derbyn mewn ffordd oddefol.

Mae eu cwricwlwm wedi’i gynllunio i sicrhau bod ieithoedd rhyngwladol mewn sefyllfa gadarn i gysylltu â’r meysydd dysgu a phrofiad eraill, gyda’r pedwar diben yn gonglfeini iddynt.

Rhoi theori ar waith

Roedden nhw eisiau cael cydnabyddiaeth o’u taith cwricwlwm, a’u nod oedd dod yn ysgol ryngwladol gydag achrediad gan y British Council. Cynigiodd hyn fframwaith y gellid cynllunio y tu mewn iddo.

Ar ddechrau eu taith, roeddent yn ffodus bod ganddynt aelod o staff a oedd yn angerddol dros astudiaethau ac ieithoedd rhyngwladol. Gyda chefnogaeth yr uwch dîm arwain, gweithredodd y person hwn fel sbardun i newid pethau. I ddechrau, roedd rhai o aelodau’r staff ychydig yn gyndyn i ymroi’n llwyr i’r ffordd hon o weithio a oedd ar y gweill ond, yn raddol, dros amser, a chydag arweiniad cryf a diddordeb amlwg ymhlith y disgyblion, daeth y staff i gyd i’w chefnogi’n llawn. 

Ar y dechrau, cafodd cynlluniau gweithredu eu rhannu â rhanddeiliaid er mwyn ennyn cefnogaeth pob aelod o staff, gan hefyd sicrhau cyd-ddealltwriaeth teuluoedd a’r corff llywodraethu.

Yn gyflym, fe wnaethant ddatblygu cysylltiadau cryf â Llysgenhadaeth yr Eidal, Sefydliad Confucius a’r British Council, sydd i gyd wedi bod yn hynod gefnogol wrth helpu Ysgol Gynradd Sili i ddod yn ysgol ryngwladol.

Wrth wraidd eu cwricwlwm mae’r dull trawsieithu. Anogir disgyblion i archwilio cysylltiadau a phatrymau ieithyddol drwy ddod i gysylltiad â’r Gymraeg, Sbaeneg, Mandarin, Ffrangeg ac Eidaleg ar wahanol gyfnodau drwy gydol eu haddysg. Dewiswyd yr ieithoedd hyn o ganlyniad i’w trafodaethau â’u hathrawon Ieithoedd Tramor Modern mewn ysgolion uwchradd, a gynghorodd iddynt beidio â darparu un iaith yn unig a’u hannog, yn lle hynny, i ddatblygu dull aml-iaith er mwyn meithrin cariad a chwilfrydedd tuag at ieithoedd.

Dysgu proffesiynol

Roedd yn bwysig iawn sicrhau bod y staff yn cefnogi’r dull yn llawn a’u bod yn ddigon hyderus gyda’u sgiliau iaith a’u gwybodaeth ddiwylliannol eu hunain.  Gyda chyllid gan y British Council bu cyfle i staff deithio i wledydd yn cynnwys Sbaen, yr Eidal a Tsieina.

Helpodd yr ymweliadau diwylliannol ledled y byd feithrin dull mwy annibynnol o ddatblygu proffesiynol, gyda staff yn ceisio cynyddu eu sgiliau iaith eu hunain.

Gofynnodd ambell aelod o staff am hyfforddiant gloywi yn y Gymraeg. Cofrestrodd aelod arall ar gwrs ysgol nos gyda’i gŵr er mwyn dysgu Eidaleg, a dechreuodd ambell un arall gystadlu â’i gilydd gan ddefnyddio Duolingo. 

Datblygwyd sgiliau’r gweithlu presennol ynghyd â pherthnasoedd ag asiantaethau allanol a allai cyfrannu eu harbenigedd i’r ysgol, gan ddwyn buddion i’r plant a’r staff fel ei gilydd. Erbyn hyn, mae’r aelodau hynny o staff sy’n teimlo’n gyfforddus o ran darparu sesiynau Sbaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg sylfaenol yn cael eu defnyddio i ddarparu gwersi iaith wythnosol ar draws yr ysgol, ynghyd ag athrawon Eidaleg a Tsieinëeg peripatetig.

Iaith fel offeryn ar gyfer datblygu gwybodaeth a chysylltu

Gan gydnabod y berthynas rhwng iaith a diwylliant, mae profiadau diwylliannol yn cael eu hintegreiddio’n weithredol i mewn i’r addysg iaith. Mae ‘Wythnos Ieithoedd Rhyngwladol’ yn cynnig cyfle i ddisgyblion ymdrwytho yn y gwaith o archwilio gwlad benodol, gan ymchwilio i’w diwylliant, ei hiaith a’i chrefydd. Mae’r wythnosau hyn yn cynnig llwyfan ar gyfer gwahodd rhieni i’r ysgol i rannu eu cefndiroedd personol, eu gwybodaeth ddiwylliannol a’u sgiliau iaith. Wedi’u cefnogi gan gymuned ehangach yr ysgol, mae’r wythnosau hyn yn dod i ben gydag arddangosfa ddathlu, gan roi cyfle i’r plant arddangos y sgiliau a’r wybodaeth y maent newydd eu caffael i gynulleidfa eang.

Y llynedd cafodd yr ysgol ei dethol i weithio gyda’r British Council ar gyfer y prosiect Cerdd Iaith, pan fu disgyblion yn dysgu caneuon mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol. Buont yn gweithio gyda Tim Riley, yr awdur a’r cyfansoddwr, a Lily Beau, yr actores a’r gantores o Gymru. Cafodd y prosiect hwn effaith gadarnhaol amlwg ar y disgyblion. Gadawodd y disgyblion y sesiynau wythnosol yn teimlo’n llawn egni ac yn gyffrous, gan ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd mewn gwahanol ieithoedd.

Daeth cyfranogiad yr ysgol yn y prosiect i ben gyda chyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru pan gafodd disgyblion y cyfle i berfformio gyda cherddorfa fyw ochr yn ochr â phlant o bob cwr o Gymru.

Mae’r defnydd o wefan Cerdd Iaith yn parhau gyda chynulliad canu i blant hŷn a gynhelir yn wythnosol. Mae’r adnoddau y mae Cerdd Iaith wedi’u darparu yn cyd-fynd yn berffaith â’r ffordd y mae’r ysgol yn addysgu ieithoedd rhyngwladol – dull sy’n canolbwyntio ar drawsieithu.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading