Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
“Dwi’n dysgu lot, wrth wrando ar be’ mae pobl arall yn ‘neud.”
Mae cyfres o weithdai ar y gweill, sy’n cynnig cipolwg gwerthfawr i ymarferwyr ar y dulliau y mae eraill yn eu defnyddio i sicrhau bod eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb i’w holl ddysgwyr, yn ogystal â rhannu eu profiadau nhw eu hunain. Mae dyddiadau ar gael nawr ar gyfer digwyddiadau ym mis Ionawr a mis Chwefror, a gall ymarferwyr gofrestru gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys sesiwn farchnad i gyfarfod a chysylltu â sefydliadau yn eich rhanbarth sy’n gallu cefnogi staff a dysgwyr gydag agweddau ar degwch a chynwysoldeb.

Mae ymarferwyr wedi bod yn siarad am: carfannau gwahanol o ddysgwyr, er enghraifft plant sy’n byw mewn tlodi a dysgwyr ag ADY; agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru megis hanesion a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig; ac, yn fwy cyffredinol, am sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, gan helpu pawb i wneud cynnydd mewn dysgu a datblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben.
Yn nigwyddiad Abertawe ym mis Tachwedd, yr ail o 5 digwyddiad wyneb yn wyneb ledled Cymru, bu cydweithwyr o uned cyfeirio disgyblion, ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, ysgol gynradd gyda nifer uchel o ddisgyblion Sipsiwn Roma a Theithwyr, ac ysgol arbennig, yn esbonio eu dulliau ac yn arwain trafodaethau, yn siarad yn onest wrth ateb rhai cwestiynau manwl iawn!
Roedd naws ddigyfryngiad wrth i bawb eistedd wyneb yn wyneb wrth y byrddau, a dywedodd cydweithwyr:
“Dwi’n dysgu lot wrth wrando ar be’ mae pobl arall yn ‘neud”
“Rwy’n meddwl sut y gallwn ni wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud”
“Gall defnydd Grant Datblygu Disgyblion ymwneud ag atal rhywbeth rhag digwydd – diddorol”
Roedd y sgyrsiau yn hamddenol ac anffurfiol ond yn dal i fod yn graff. Efallai bod y te prynhawn wedi helpu hefyd.

Yn ystod sesiwn y farchnad, roedd yr ymarferwyr a chynrychiolwyr y sefydliadau nid-er-elw a’r trydydd sector fel Mudiad Meithrin, Empathy Lab, e-sgol, ac Amgueddfa Cymru, yn gwerthfawrogi cael amser i drafod yr hyn sydd ar gael a sut y gall hynny gyd-fynd â’r cwricwla sy’n cael eu datblygu gan bob ysgol a sut y gallai’r ddau esblygu yn y dyfodol.
Y dyddiadau ar gyfer digwyddiadau Tegwch a chynwysoldeb Cwricwlwm i Gymru yn 2024 yw:
Aberystwyth 24 Ionawr 2024
Wrecsam 31 Ionawr 2024
Ynys Môn 1 February 2024
Gall ymarferwyr o leoliadau y blynyddoedd cynnar a lleoliadau sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), yn ogystal ag ysgolion cynradd, uwchradd ac addysg arbennig gofrestru yma: Ffurflen Cofrestru Digwyddiadau Addysg Tegwch a Chynwysoldeb (smartsurvey.co.uk).
Er mwyn dod o hyd i adnoddau cysylltiedig, newyddion ac i rwydweithio, mewngofnodwch i Hwb a chwiliwch am rwydwaith ‘Equity and inclusion Tegwch a chynwysoldeb’
A trueni fyddai peidio â chynnwys yr adborth llawn gan un o’r cyfranwyr yn nigwyddiad Caerdydd sy’n mynegi barn bersonol a gwerthfawr:
“Wedi mwynhau’r diwrnod tegwch a chynhwysoldeb yn fawr!
Rwyf wedi cael cryn dipyn o e-byst gan fynychwyr o’r diwrnod yn gofyn i mi rannu adnoddau a chyfeirio at hyfforddiant gwahanol ac ati. Mae rhai mynychwyr yn holi am agweddau penodol a drafodir, sut rydym wedi defnyddio Cod Lliw Siâp ar draws dysgu Cymraeg i gefnogi anghenion ychwanegol ac yn y blaen.
Roeddwn wrth fy modd bod gennym amrywiaeth o fynychwyr gwahanol yn y grwpiau gan ei fod mor ddiddorol bod pob trafodaeth grŵp yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar gyfathrebu, lleferydd, iaith, lles a chreadigrwydd.
Cytunodd pawb fod cyfathrebu yn allweddol a bod cyflogwyr yn chwilio am 85% o sgiliau meddal a dyma lle dylem fod yn canolbwyntio ein ymdrech a sgiliau addysgu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf mewn addysg a chyflogaeth a ddim yn ddigartref ac yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Diolch am y cyfle i gyfrannu!”