Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi darpariaeth ADY drwy gyfrwng y Gymraeg – cyfweliad gyda Trystan Williams

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ddiweddar mae Trystan Williams wedi dechrau yn ei swydd fel Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY (Iaith Gymraeg) ac mae wedi bod yn brysur yn asesu tirwedd darpariaeth ADY Iaith Gymraeg ledled Cymru. 

Gan fod y gwaith o weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn mynd rhagddo, mae Trystan yn canolbwyntio ar argaeledd darpariaethau cyfrwng Cymraeg.

Beth yw eich cefndir ym maes ADY?

Hyfforddais fel athro Cymraeg iaith gyntaf a dechreuais fy ngyrfa fel athro Cymraeg yn Sir Benfro.

Yna symudais i Gaerdydd lle dechreuais weithio gyda disgyblion ag anghenion lefel uwch a dod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phennaeth Cynorthwyol mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.

Bûm yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol am dros ddegawd a gweithiais fel Arweinydd Clwstwr a hyrwyddwr Cynllun Datblygu Unigol yn ystod camau cychwynnol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

Yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn gweithio i sefydlu Darpariaeth Arbenigol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anawsterau Iechyd a Llesiant Emosiynol yng Nghaerdydd.

Beth ydych chi’n anelu i’w gyflawni?

Yn syml, rwy’n ceisio sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a’r gweithlu addysg.

Wrth ystyried dulliau asesu neu ddiagnostig er enghraifft, mae’n llawer gwell asesu dysgwyr sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn Gymraeg, yn enwedig o ran llythrennedd ac Iaith a Lleferydd. Nifer bach iawn o asesiadau safonol ffurfiol ac offer diagnostig sydd ar gael yn y Gymraeg, ac un o fy mlaenoriaethau allweddol yw ‘llenwi’r bylchau’ mewn perthynas ag adnoddau cyfrwng Cymraeg.  Gallai hyn gynnwys edrych ar gynyddu adnoddau presennol, lle bo’n addas cyfieithu adnoddau presennol neu archwilio opsiynau i ddatblygu adnoddau newydd.

Byddaf yn ymdrechu i gael trosolwg cenedlaethol o’r gweithlu Cyfrwng Cymraeg ac yn edrych ar ffyrdd o ddenu addysgwyr i’r proffesiwn.  Yn ogystal â hyn, byddaf yn edrych ar staffio cyfrwng Cymraeg mewn rolau arbenigol fel Athrawon Arbenigol a Seicoleg Addysgol a dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r system cyfrwng Cymraeg yn effeithiol. 

Un elfen allweddol o hyn yw cofleidio’r gwaith o ansawdd uchel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a rhannu’r arfer da hwn gydag eraill.  Byddaf hefyd yn sicrhau bod unrhyw adnodd newydd yn dod ag hyfforddiant manwl drwy fideos ac ati i sicrhau bod y cydweithwyr cyfrwng Cymraeg yn gwbl hyderus yn yr offer sydd ganddynt wrth law.

Sut fyddwch chi’n cyflawni hyn?

Ar hyn o bryd rwy’n ymweld â’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ac yn cael sgyrsiau gyda gwahanol swyddogion i weld lle mae awdurdodau lleol yn teimlo bod angen o fewn eu cyd-destun penodol.  Law yn llaw â’r Awdurdodau Lleol, byddaf yn ymweld ag amryw o leoliadau ysgolion ac yn cael mewnbwn gan ymarferwyr cyfrwng Cymraeg o bob rhan o Gymru.  Byddaf hefyd yn siarad â’r unigolion hynny sydd eisoes wedi bod yn rhan o greu asesiadau ac ymyriadau amrywiol o Brifysgolion i Gonsortia.

Byddaf hefyd yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gefnogi eu gwaith o ran Canlyniad 6 y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac i edrych ar yr arfer da o ran lleoliadau arbenigol.  Cefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg i ddarparu’n gyfartal ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg. 

Rhan o’r rôl hefyd fydd cefnogi’r arweinydd gweithredu ôl-16 gyda’i waith i sicrhau bod llwybr Cyfrwng Cymraeg clir ar gael i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i addysg bellach lle nad yw’r ysgol bellach yn opsiwn. 

Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn sut y gall technolegau cynorthwyol gefnogi pob dysgwr mewn ysgolion a byddaf yn edrych ar argaeledd y technolegau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Unrhyw sylwadau i gloi?

Mae’n amlwg o sgyrsiau cychwynnol fod gan sefydliadau ledled Cymru farn glir ynghylch ble maen nhw’n teimlo bod angen gwell darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac maen nhw’n croesawu’r gefnogaeth a’r gwaith i wella’r cynnig i ddysgwyr a staff cyfrwng Cymraeg. 

Rwy’n awyddus i glywed gan gynifer o ymarferwyr â phosibl gan droi pob carreg wrth geisio sicrhau Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ardderchog yn y Gymraeg.

Os ydych chi, fel ymarferydd, yn gwybod am unrhyw arfer da, ymyrraeth neu offer asesu llwyddiannus, neu’n credu bod angen mynd i’r afael â maes penodol, anfonwch e-bost ataf i:  trwilliams@sirgar.gov.uk

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading